Siaradwr Gwadd: James Wood: Improving feedback literacy through sustainable feedback engagement practices 

Mae’n bleser gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu gyhoeddi eu siaradwr gwadd nesaf. Ar 10 Mai am 14:00-15:30, bydd James Wood o Brifysgol Bangor yn cynnal sesiwn ar-lein ar wella llythrennedd adborth trwy arferion cynaliadwy ar gyfer ymateb i adborth.

Mae James Wood yn Ddarlithydd Addysg, Asesu ac yn Arweinydd Cyrsiau Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Bangor. Cyn y swydd hon, bu James yn gweithio gyda Choleg y Brenin Llundain, Coleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Birkbeck, Prifysgol Greenwich, a Phrifysgol Genedlaethol Seoul.

Crynodeb o’r Sesiwn

Er y pwyslais a roddir ar bwysigrwydd adborth i gefnogi dysgu mewn addysg uwch, mae llawer i’w ddysgu o hyd am feithrin sgiliau cynaliadwy ar gyfer gofyn am adborth, ymateb i’r adborth a’i ddefnyddio. Yn ymarferol, mae llawer o fyfyrwyr nad ydynt yn manteisio ar adborth. Hyd yn oed os yw cyrsiau’n cynnig asesiad ffurfiannol mewn egwyddor, dim ond weithiau y bydd dysgwyr yn cymryd sylw ohono neu’n ei ddefnyddio’n effeithiol. Dadleuir yn aml bod angen ‘llythrennedd adborth’ ar fyfyrwyr cyn y gellir mynd i’r afael ag adborth. Fodd bynnag, yn y gweithdy hwn, byddwn yn edrych sut y gall llythrennedd adborth a pharodrwydd i dderbyn adborth ddatblygu. Caiff y myfyrwyr ymgyfarwyddo ag arferion adborth deialogaidd sydd wedi’u cynllunio’n dda ac sy’n cynnig y cyfle i ystyried sut mae dysgu o adborth yn digwydd, y manteision, beth yw ansawdd a sut i’w werthuso, a sut i ddatblygu a gweithredu cynlluniau i gau’r bwlch rhwng cyflawniad presennol a chyflawniad targed. Byddaf hefyd yn trafod sut mae ffactorau cymdeithasol a ffactorau heblaw agweddau dynol ynghlwm wrth allu dysgwyr i ymateb mewn ffyrdd a all gynorthwyo neu gyfyngu ar eu cyfranogiad. Byddaf yn gorffen gyda golwg gyffredinol ar ddefnyddio technolegau i wella gallu dysgwyr i ddefnyddio adborth yn effeithiol a datblygu cysylltiadau â chymunedau a all gynnig cyfleoedd dysgu cydweithredol grymus, yn ogystal â chymorth ac anogaeth emosiynol. 

Cynhelir y gweithdy ar-lein gan ddefnyddio Microsoft Teams. Archebwch eich lle ar-lein.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Uned Gwella Dysgu ac Addysgu (udda@aber.ac.uk).

Diweddariad am y Prosiect Blackboard Ultra

Blackboard Ultra icon
Mae rhywfaint o amser wedi bod ers i ni eich diweddaru am yr hyn yr ydym wedi bod yn ei wneud gyda Blackboard Ultra ers i ni lansio Ultra Base Navigation ddechrau mis Ionawr.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda’n cydweithwyr yn Blackboard i helpu i gwblhau ein templed cwrs. Yn wahanol i’r blynyddoedd blaenorol, byddwn yn cael un templed cwrs ar gyfer pob modiwl a bydd pob modiwl yn 2023 yn cael ei greu’n wag i gynorthwyo gyda’r symud i Ultra.

Rydym wedi diweddaru ein Hisafswm Presenoldeb Gofynnol ar gyfer Blackboard sy’n mynd i’r Pwyllgor Gwella Academaidd i gael cymeradwyaeth ac adborth. Rydym hefyd wedi bod yn archwilio sut y bydd templedi Cymraeg a Saesneg yn gweithio gyda’i gilydd yn Ultra. Ar ôl i ni gytuno ar y templed a’r IPG, byddwn yn dechrau ar y broses o greu eich Cyrsiau Ymarfer Ultra er mwyn i chi weld sut fydd Ultra yn edrych a dechrau meddwl am eich addysgu yn barod ar gyfer mis Medi 2023.

Bydd ein gwaith estyn allan yn parhau ar ddechrau’r mis nesaf gan y byddwn yn cynnal grwpiau ffocws gyda Chyfarwyddwyr Dysgu ac Addysgu Adrannol a Deoniaid Cyswllt ar gyfer Dysgu ac Addysgu i ddechrau trafod pa fathau o hyfforddiant y bydd arnoch ei angen a’r ffordd orau i’ch helpu i gyflwyno’r cwrs Ultra.

O safbwynt technegol, rydym wedi bod yn chwilio am ffyrdd y gall ffolderi Panopto ddarparu cyrsiau Ultra yn ogystal â rhestrau darllen Talis Aspire.

Yn rhan o’n gwaith gyda Blackboard, maent wedi darparu adroddiad parodrwydd cwrs i ni sy’n ein helpu i nodi pa mor barod yr ydym ar gyfer cyrsiau Ultra ar hyn o bryd. Rydym wedi dechrau archwilio cyfatebiaethau i Wiki a Blog i’r rhai ohonoch sy’n defnyddio’r offer hyn ar hyn o bryd wrth addysgu, yn ogystal â chyfatebiaethau i gwestiwn prawf Blackboard ar gyfer y cwestiynau hynny nad ydynt ar gael yn Ultra.

Byddwn yn diweddaru ein tudalennau gwe gyda deunyddiau cymorth a chyfarwyddyd ychwanegol wrth fynd yn ein blaen. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y symud i Gyrsiau Ultra mae croeso i chi gysylltu â ni (eddysgu@aber.ac.uk).

Cyfres Seminarau Vevox 2023

Vevox yw’r Feddalwedd Pleidleisio sy’n cael ei ddefnyddio ar draws llu o weithgareddau dysgu ac addysgu yn y Brifysgol.

Dros y 3 mis diwethaf, mae dros 900 o arolygon barn wedi cael eu cynnal gyda thros 5000 o gyfranogwyr. Os nad ydych chi wedi defnyddio Vevox o’r blaen yna efallai yr hoffech gofrestru ar gyfer un o’u gweithdai 15 munud Zero to Hero sy’n cael eu cynnal bob prynhawn Mawrth. Mae gennym ni hefyd ganllaw Vevox ar gael ar ein tudalennau gwe ac rydyn ni wedi cynnal Cynhadledd Fer yn edrych ar weithgareddau meddalwedd pleidleisio.

Yn ogystal â’u hyfforddiant, mae Vevox hefyd yn rhedeg cyfres o weminarau addysgwr ar-lein.

Eu gwestai cyntaf fydd Daniel Fitzpatrick o Brifysgol Aston ac fe fydd yn cyflwyno: “Using Vevox in whole class and small group teaching” ar 8 Mawrth rhwng 2yp a 2:45yp.

Yna, Laura Jenkins o Brifysgol Loughborough yn siarad ar “how to use Vevox for formative and mid-module feedback” ar 22 Mawrth rhwng 2yp a 2:45yp.

Ac i gloi ein cyfres bydd, Alex Pitchford yn cyflwyno o Brifysgol Aberystwyth ac yn trafod “Increasing Engagement & Active Learning using Vevox in Maths and Sciences” ar 26 Ebrill rhwng 2yp a 2:45yp

Gallwch gofrestru am eich lle ar-lein.

Os ydych chi’n defnyddio Vevox wrth addysgu ac yr hoffech ddarparu astudiaeth achos i ni, anfonwch e-bost at yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (udda@aber.ac.uk).

Galw am Gynigion: Cynhadledd Fer: Realiti Rhithwir

Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi’r Gynhadledd Fer nesaf. Ddydd Mawrth 28 Mawrth bydd yr Uned yn cynnal ein cynhadledd fer nesaf wyneb yn wyneb.

Bydd y gynhadledd hon yn canolbwyntio ar Realiti Rhithwir, gan adeiladu ar un o’r sesiynau o Gynhadledd Dysgu ac Addysgu’r llynedd.

Bydd cydweithwyr o bob rhan o’r Brifysgol yn dangos sut maent yn defnyddio Realiti Rhithwir yn eu gweithgareddau addysgu ac ymchwil – ac yn cynnig cyngor o’r dylunio i’r integreiddio.

Os oes gennych ddiddordeb i gyfrannu yn y digwyddiad, llenwch y ffurflen ar-lein hon. Cyflwynwch eich cynnig cyn 17 Chwefror 2023.

Mae archebion eisoes ar agor – gallwch archebu’ch lle ar-lein.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (udda@aber.ac.uk).

Cadwch y Dyddiad: Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu

Mae’n bleser gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu gyhoeddi dyddiad yr 11eg Gynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu. Cynhelir y gynhadledd o ddydd Mawrth 4 Gorffennaf hyd ddydd Iau 6 Gorffennaf 2023.

Cadwch lygad am Alwadau am Gynigion a chyhoeddi thema’r gynhadledd. Yn ôl ein harfer, byddwn yn diweddaru ein tudalennau gwe ynghylch y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn ogystal â’n blog er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi ynghylch sut mae pethau’n datblygu.

Blackboard Ultra Base Navigation: Gwaith wedi’i gwblhau

Blackboard Ultra icon

Mae Ultra Base Navigation bellach wedi’i alluogi ar Blackboard. 

Y tro nesaf y byddwch yn mewngofnodi i Blackboard, byddwch yn gweld rhyngwyneb newydd. 

Edrychwch ar ein Cwestiwn Cyffredin ar sut i ddefnyddio Ultra Base Navigation.

Er bod edrychiad a theimlad Blackboard wedi newid, mae ymarferoldeb a chynnwys y cwrs yn aros yr un fath. 

Os ydych wedi creu nod tudalen neu greu cyswllt i dudalennau o fewn Blackboard efallai y bydd angen diweddaru’r rhain. Bydd unrhyw ddolenni uniongyrchol i’r cyfeiriad https://blackboard.aber.ac.uk/ dal yn gweithio. 

Bydd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu nawr yn dechrau ar y gwaith o baratoi ar gyfer Cyrsiau Ultra, yn barod ar gyfer Semester 1, 2023.  

Bydd ein tudalennau gwe Ultra a’n Cwestiynau Cyffredin yn cael eu diweddaru wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen.  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk). 

Fforymau Academi 2023

Diolch i bawb sydd wedi mynychu’r Fforymau Academi yn Semester 1. Rydym ni wedi cael trafodaethau gwych ynghylch lles yn y cwricwlwm, gweithgareddau ymsefydlu myfyrwyr, sut mae myfyrwyr yn defnyddio technoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth, a Galluoedd Digidol (Rhan 1).

Mae ein holl daflenni o’r Fforymau Academi ar gael ar ein tudalennau gwe.

Gallwch nawr archebu eich lle ar ein Fforymau Academi ar gyfer Semester 2.

  • 24 Ionawr, 14:00-15:30: Fforwm Academi 5: Strategaethau ar gyfer Ymgysylltu Adborth (Wyneb yn wyneb, E3)
  • 16 Chwefror, 10:00-11:30: Fforwm Academi 6: Defnyddio Technoleg ar gyfer Gweithgareddau Myfyriol (Ar-lein)
  • 6 Mawrth, 10:00-11:30, Fforwm Academi 7: Dylunio Asesiad Grŵp gan ddefnyddio Technoleg (Ar-lein)
  • 19 Ebrill, 10:00-11:30, Fforwm Academi 8: Galluoedd Digidol (Rhan 2) (Ar-lein)
  • 17 Mai, 14:00-16:00, Fforwm Academi 9: Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn y Cwricwlwm (Wyneb yn wyneb, E3)

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (udda@aber.ac.uk).

Cyhoeddi Rhaglen y Gynhadledd Fer

Accessibility icons showing 3 images: a checklist, a computer workstation, an image

Dydd Mawrth 20 Rhagfyr, bydd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal Gynhadledd Fer yr Academi ar-lein.

Y thema fydd ‘Cynaliadwyedd mewn Addysg Uwch’.

Cynhelir y Gynhadledd Fer o 10:15-14:15.

Mae’n bleser gennym gadarnhau ein rhaglen:

  • Dr Georgina Gough – prif siaradwr Embedding Sustainability Goals across the Curriculum
  • Marian Gray: Student Mobility and Cross-Cultural Skills – Global and Sustainable?
  • Dr Louise Marshall – Discipline hopping: Interdisciplinary approaches to a sustainable curriculum

Gweler y rhaglen ar ein tudalennau gwe i gael crynodebau ac amserau’r sesiynau.

Gobeithio y gallwch ymuno â ni. Gallwch gofrestru i ddod i’r Gynhadledd Fer drwy glicio ar y ddolen hon.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch udda@aber.ac.uk.

Gwybodaeth bwysig: Blackboard Ultra

Blackboard Ultra icon

Yn ein post blaenorol, cyhoeddasom ein bod yn symud i Blackboard Ultra.

Ar ôl cyfarfod y Bwrdd Academaidd, gallwn gadarnhau y bydd Cam 1 prosiect Ultra, sef ‘Ultra Base Navigation (UBN)’, yn digwydd rhwng 3 a 6 Ionawr 2023.

Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn sylwi bod newidiadau wedi’u gwneud i dudalennau glanio Blackboard. Er bod UBN yn rhoi gwedd wahanol i  Blackboard, fe fydd yr un peth o ran gweithredu a chynnwys y cyrsiau.

Rydym yn bwriadu sicrhau bod defnyddwyr yn gallu defnyddio Blackboard trwy gydol y cyfnod hwn, ond fe ddylid cofio ei bod hi’n bosib y ceir rhai problemau yn ystod y cyfnod.

Ceir negeseuon pellach am UBN yn y man i helpu i baratoi’r staff a myfyrwyr

ar gyfer y newid hwn i’r tudalen glanio.

Pan fydd Cam 1 wedi’i gwblhau, bydd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn symud i Gam 2, er mwyn paratoi ar gyfer Cyrsiau Ultra ym mis Medi 2023.

Byddwn yn blogio trwy gydol y prosiect a bydd negeseuon allweddol yn cael eu cyfleu drwy’r Bwletin Wythnosol a newyddion y Gwasanaethau Gwybodaeth.

Byddwn yn darparu Cwestiynau Cyffredin ac mae gennym dudalen we bwrpasol a fydd yn datblygu wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).