
Ar 3 Tachwedd, cyfarfu ein tîm cymorth cleientiaid Blackboard â Bwrdd Prosiect Ultra. Mae’r bwrdd yn cynnwys aelodau Gwasanaethau Gwybodaeth sy’n gyfrifol am y symudiad i Blackboard Ultra a chydweithwyr academaidd.
Pwrpas y cyfarfod oedd amlinellu cwmpas, cenhadaeth, gweledigaeth, ac amcanion y prosiect.
Roedd rhan o’r gweithgaredd yn cynnwys bwrdd Murol.
Ar y bwrdd Murol hwn gofynnwyd i ni roi amlinelliad o’r amcanion sefydliadol, adrannol, ac unigol roedd arnom ni eisiau eu cyflawni.
Amcanion Sefydliadol
Ein bwriad yw cynnal y profiad rhagorol a gaiff ein myfyrwyr, a gwneud yn siŵr bod y symudiad yn un cynaliadwy i’r holl staff. O safbwynt addysgeg, rydym am i ddysgu gweithredol a myfyrwyr fel partneriaid fod yn ethos ar gyfer y prosiect, a chanolbwyntio ar yr un pryd ar y ffyrdd y gellir datblygu dysgu cyfunol o bell ac asesu ar-lein. Rydym am i’r Amgylchedd Dysgu Rhithiol (ADRh) fod yn adnodd hunanwasanaeth i’n defnyddwyr i raddau helaeth, a chydymffurfio ar yr un pryd â’r ddeddfwriaeth hygyrchedd. Rydym am i ddata lifo’n ddi-dor rhwng systemau eraill a sicrhau bod mwy eglurder wrth brosesu marciau. Mae angen i Blackboard Ultra fod â delwedd glir a brand y mae ei gysylltiad ag Aberystwyth yn hawdd i’w adnabod. Dylai fod yn gwbl ddwyieithog, yn hawdd llywio o’i amgylch, ac arbed amser i ddefnyddwyr lle bo modd. Mae cysondeb ar draws modiwlau o ran y dull llywio yn parhau i fod yn ysgogydd mawr, gyda gwaelodlin safonol o arfer gorau a thempled sefydliadol. Dylai fod cyfleoedd i staff arloesi, gydag enghreifftiau o addysgu a gweithgareddau dysgu rhagorol. Mae angen i ni wneud yn fawr o’n buddsoddiad a sicrhau bod yr ADRh yn cydymffurfio â’r GDPR.