Mudiadau Blackboard Learn Ultra:  Gwybodaeth Bwysig

Fel rhan o brosiect Blackboard Learn Ultra, rydym bellach yn troi ein sylw at Fudiadau yn barod ar gyfer Medi 2024. 

Safleoedd ar Blackboard yw Mudiadau sydd at ddibenion anacademaidd.   Yr un yw eu swyddogaeth â Chyrsiau Blackboard a gellir eu defnyddio i roi gwybodaeth, hyfforddiant ar-lein, a mynediad at ddeunyddiau. Yn wahanol i Gyrsiau, mae Mudiadau yn cael eu creu heb unrhyw dempled.   Mae gan Fudiadau yr un nodweddion a swyddogaethau ymarferol â Chyrsiau. 

Mae yna 3 math o Fudiad: 

Mudiadau Adrannol

Mae gan bob adran 3 Mudiad adrannol: 1 ar gyfer myfyrwyr Israddedig, 1 ar gyfer myfyrwyr Uwchraddedig, ac 1 ar gyfer staff Adrannol.  Mae’r rhain yn cael eu creu yn awtomatig.

Mudiadau Pwrpasol a Mudiadau Hyfforddi

Mudiadau yw’r rhain y mae unigolion wedi gofyn amdanynt.  Gellir eu creu i gynnwys ffrydiau awtomatig, megis mathau o fyfyrwyr, myfyrwyr ar gynlluniau astudio penodol, neu aelodau o staff mewn adran benodol.  Mae gan rai o’r Mudiadau hyn becynnau hyfforddi y gofynnir i ni eu gwneud.

Mudiadau Ymarfer

Mae’r rhain yn unigol ar gyfer pob aelod o staff ac nid oes myfyrwyr wedi cofrestru arnynt.  Fel rhan o’r newid i Ultra, rydym wedi creu Mudiad Ymarfer Ultra personol i bob aelod o staff.

Wrth i ni symud i Blackboard Learn Ultra i Fudiadau, rydym wedi gweithio ar bolisi Mudiadau newydd sy’n amlinellu’r mathau o weithgareddau y gellir defnyddio Mudiadau ar eu cyfer yn ogystal â’u cyfnod cadw.  Cymeradwywyd y polisi newydd hwn gan y Pwyllgor Gwella Academaidd ar 7 Chwefror a gellir ei weld ar ein tudalennau gwe.

Mudiadau Adrannol

Bydd Mudiadau Ultra Adrannol Newydd yn cael eu creu yn fuan ond ni fyddant ar gael i fyfyrwyr tan fis Medi 2024. 

Bydd gan bob adran Fudiad ar wahân ar gyfer myfyrwyr Israddedig, Uwchraddedig, a Staff yn eu hadran.   

Mae’r rhain ar ffurf:  

DEPT-[llythyren adrannol]-UG (e.e. DEPT-N-UG) 

Bydd myfyrwyr newydd ac aelodau newydd o staff yn cael eu ffrydio’n awtomatig i’r Mudiad unwaith y byddant wedi actifadu eu cyfrif.    Unwaith y bydd y Mudiadau hyn ar gael, byddwn yn cysylltu â Chyfarwyddwyr Adrannol Dysgu ac Addysgu, Cofrestryddion y Cyfadrannau, a Phenaethiaid Adran i helpu i hwyluso’r symud i Fudiadau Ultra.

Mudiadau Pwrpasol a Mudiadau Hyfforddi

Mudiadau yw’r rhain y gofynnwyd amdanynt yn unigol at ddiben penodol.  Nid ydym erioed wedi dileu Mudiad o’r blaen (oni bai y gofynnwyd am hyn). 

Fel rhan o’r gwaith hwn, byddwn yn: 

  1. Rhwystro mynediad i’r holl Fudiadau pwrpasol nad ydynt wedi cael eu defnyddio am 3 blynedd gyda’r bwriad o ddod â’r Mudiad i ben.
  2. Cysylltu â’r rhai sy’n dal i fod â chyfrifoldeb am Fudiadau sy’n bodoli eisoes i weld a oes eu hangen a hwyluso’r newid i Ultra ar gyfer y Mudiadau hyn. 

Mudiadau Ymarfer

Ar hyn o bryd mae gan aelodau o staff fynediad at ddau Fudiad Ymarfer – un yn Blackboard Original ac un yn Ultra. 

Byddwn yn dod â Mudiadau Blackboard Originial i ben ym mis Medi 2024.   Rhaid i gydweithwyr gopïo unrhyw ddeunyddiau y maent am eu cadw i fersiwn Ultra y Mudiad. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Fudiadau, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk). 

Cadwch y Dyddiad: Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu

Mae’n bleser gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu gyhoeddi dyddiad yr 12fed Gynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu. Cynhelir y gynhadledd o ddydd Mawrth 10 Medi hyd ddydd Iau 12 Medi 2024.

Cadwch lygad am Alwadau am Gynigion a chyhoeddi thema’r gynhadledd. Yn ôl ein harfer, byddwn yn diweddaru ein tudalennau gwe ynghylch y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn ogystal â’n blog er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi ynghylch sut mae pethau’n datblygu.

Vevox: Meddalwedd Pleidleisio’r Brifysgol

Mae gan y Brifysgol drwydded Vevox i’r holl staff a myfyrwyr ei defnyddio.
Meddalwedd Pleidleisio yw Vevox sy’n caniatáu i gyfranogwyr ddefnyddio eu dyfeisiau symudol i ymateb i gwestiynau.
Yn Semester 1, cynhaliwyd dros 300 o sesiynau Vevox, gyda thros 10,000 o gyfranogwyr a 1,500 o arolygon barn.
Mewn cyd-destunau dysgu ac addysgu, gallwch ddefnyddio Vevox i wneud eich addysgu yn fwy rhyngweithiol, gan roi cyfle i fyfyrwyr fyfyrio ar eu dysgu, ymateb i gwestiynau, darparu syniadau, a chyfnerthu eu dealltwriaeth.
Nid yw Vevox wedi’i gyfyngu i weithgareddau dysgu ac addysgu. Gallwch hefyd ddefnyddio Vevox mewn cyfarfodydd a gweithgareddau estyn allan i gynfasio barn, helpu i wneud penderfyniadau, a rhoi cyfle i gydweithwyr roi adborth.
Mae gwahanol fathau o gwestiynau ar gael:

  • Amlddewis
  • Cwmwl Geiriau
  • Graddio Testun
  • Rhifol
  • Sgorio
  • Plot XY
  • Pinio delwedd

Gallwch hefyd gynnal arolygon.

Mae’r nodwedd Cwestiwn ac Ateb yn rhoi cyfle i gydweithwyr adael i’r myfyrwyr ofyn cwestiynau ac i chi ymateb iddynt yn fyw yn y sesiwn.

Mae’r nodwedd hon yn ddefnyddiol ar gyfer technegau asesu yn yr ystafell ddosbarth, megis y pwynt mwyaf dryslyd ac adolygu cysyniadau allweddol.

Gyda’r nodwedd Cwestiwn ac Ateb, gall cyfranogwyr hefyd uwchbleidleisio sylwadau er mwyn i chi fynd i’r afael â chwestiynau. Gellir defnyddio’r nodwedd ddefnyddiol hon hefyd ar gyfer cyflwynwyr allanol a gweithgareddau cynadledda.

Gallwch gynnal dadansoddiadau ar eich arolygon barn i weld ymateb cyfranogwyr.

Fel sefydliad, mae gennym nifer o astudiaethau achos. Gweler ein neges flog flaenorol ar astudiaethau achos Vevox.

Os yw Vevox yn newydd i chi, mae gennym sesiwn hyfforddi ar 26 Ionawr am 11:00 ar-lein trwy Teams. Gallwch archebu lle drwy ein tudalen archebu DPP.

Mae gennym hefyd dudalen we sy’n ymroddedig i Vevox.

Mae ein holl ddiweddariadau Vevox blaenorol ar gael ar y blog UDDA.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).

Blackboard Learn Ultra: Diweddariad am y prosiect

Wrth i ni ddechrau’r flwyddyn newydd, rydym yn cynllunio ar gyfer cam nesaf ein prosiect Blackboard Learn Ultra.

Dros y chwe mis nesaf, byddwn yn ystyried:

  • Gwelliannau i’n proses creu cyrsiau
  • Templedi cwrs
  • Adolygu’r Isafswm Presenoldeb Gofynnol

Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o’r gwaith ar gyfer rhan gyntaf y flwyddyn yn ymwneud â Mudiadau.

Mae Mudiadau’n cynnig yr un nodweddion â Chyrsiau ond nid ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer modiwlau a addysgir.

Mae Mudiadau nodweddiadol yn cynnwys:

  • Mudiadau Adrannol sy’n cynnwys gwybodaeth i staff a myfyrwyr
  • Mudiadau Hyfforddi
  • Mudiadau Pwrpasol yn ôl y gofyn

Yn rhan o’r gwaith hwn, rydym yn adolygu’r holl Fudiadau presennol i leihau eu nifer a sicrhau bod eu hangen o hyd.

Byddwn hefyd yn datblygu polisi i sicrhau bod gennym ffordd glir o reoli ceisiadau am Fudiadau newydd.

Byddwn yn cysylltu â pherchnogion Mudiadau maes o law.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth am ddefnyddio Ultra, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).

Cyfarchion yr ŵyl a Blwyddyn Newydd Dda oddi wrth yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu

Cyfarchion yr ŵyl gan bawb yn yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu

Llongyfarchiadau mawr i’r rhai ohonoch a gwblhaodd y cymhwyster Addysgu i Uwchraddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth. Llongyfarchiadau i gyfranogwyr y TUAAU a fynychodd y seremoni Raddio nôl ym mis Gorffennaf yn ogystal â’r rhai a gyflwynodd eu gwaith cwrs terfynol y mis hwn. Hefyd, llongyfarchiadau i’r rhai a gyflawnodd statws Cymrawd Cyswllt, Cymrawd neu Uwch Gymrawd drwy’r cynllun ARCHE, yn ogystal ag enillwyr ein Gwobrau Cwrs Nodedig.

Eleni, rydym wedi mwynhau gweithio gyda chi ar bynciau megis deallusrwydd artiffisial (DA), y Fframwaith Goruchwylio, dysgu gweithredol ac agweddau eraill ar gynllunio dysgu, ac wrth gwrs, Blackboard Learn Ultra.

Diolch i’n siaradwyr allanol sydd wedi ymuno â ni dros y flwyddyn, a’r holl siaradwyr yn y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol ym mis Gorffennaf, sef ein cynhadledd fwyaf eto. Diolch yn ogystal i gydweithwyr o adrannau eraill sydd wedi cynnal sesiynau i ni ac i bawb sydd wedi mynychu.

Gobeithio y cewch gyfle i orffwyso dros y gwyliau, ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn 2024 – Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!

Photograph of LTEU: Mary Jacob, Kate Wright, Annette Edwards, Jim Woolley, Branwen Rhys, Rob Francis, Keziah Garratt-Smithson. Not pictured, Ian Archer

Deunyddiau Cymorth a Hyfforddi Blackboard Learn Ultra

Ar gyfer cydweithwyr a allai fod yn newydd i’r Brifysgol, cydweithwyr sy’n dychwelyd o absenoldeb ymchwil a chyfnodau eraill o absenoldeb, a’r rhai sydd eisiau gloywi, rydym yn rhedeg ein Hanfodion E-ddysgu: Cyflwyniad i Blackboard Learn Ultra ym mis Ionawr

Gallwch archebu eich lle ar-lein.

Ddim yn gallu dod i’n sesiynau hyfforddi?

Mae gennym ein canllaw Blackboard Learn Ultra i staff ar ein tudalennau gwe yn ogystal â rhestr chwarae i’ch tywys drwy osod eich Modiwl Blackboard Learn Ultra.

Diweddariad Blackboard Learn Ultra: Building Blocks yn dod i ben

Ar 31 Rhagfyr 2023, mae Blackboard yn dod â Building Blocks i ben fel datrysiad integreiddio ar gyfer offer trydydd parti ac ni fyddant yn gweithredu mwyach yn Blackboard. Ni fydd hyn yn effeithio ar gyrsiau Blackboard Learn Ultra.

Er ein bod wedi defnyddio Building Blocks yn y Blackboard Learn gwreiddiol (cyrsiau a gynhaliwyd cyn 2023-24), nid yw eich Cyrsiau Blackboard Learn Ultra yn eu defnyddio.

Building Blocks yw pecynnau meddalwedd sydd wedi’u gosod i integreiddio offer megis Panopto a Turnitin (ymhlith llawer o rai eraill) i Blackboard. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi uwchraddio’r offer hyn i integreiddiadau LTI (Learning Tools Interoperability). Dod â Building Blocks i ben oedd un o’r gyrwyr ar gyfer symud i Blackboard Learn Ultra.

Mae LTI yn cynnig mynediad i ddiweddariadau rheolaidd, atgyweirio namau, a datblygiadau a gwelliannau parhaus a gynlluniwyd ar gyfer Blackboard Ultra. Roedd angen uwchraddio Building Blocks â llaw ac anaml iawn yr oedd yn cael ei ddiweddaru wrth i’r dull hwn o integreiddio agosáu at ddod i ben.

Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu wedi gwneud profion helaeth i sicrhau y bydd y newid hwn yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar gyrsiau Blackboard Learn Ultra cyfredol.

Byddwn yn ymgymryd â’r gwaith o analluogi Building Blocks ar ddydd Mawrth 12 Rhagfyr yn ystod cyfnod cynnal a chadw rheolaidd GG ar fore Mawrth i baratoi ar gyfer dod â hwy i ben yn derfynol.

Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk.

Gwobr Cwrs Nodedig 2023-24

Gwobr ECA

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod ceisiadau ar gyfer Gwobr Cwrs Nodedig eleni ar agor. Mae’r GCN yn cael ei barnu ar draws 4 categori:

  • Cynllun y Cwrs
  • Rhyngweithio a Chydweithio
  • Asesu 
  • Cymorth i Fyfyrwyr

Gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno 3 arfer sy’n sefyll ar wahân ar gyfer eu Cwrs i helpu i fframio eu cais cyn hunanasesu eu cwrs – gall hyn fod yn naratif 1,000 o eiriau neu’n recordiad Panopto 8 munud o hyd. Yn dilyn yr hunanasesiad, caiff y cyrsiau eu marcio hefyd gan banel o arbenigwyr. Gan ategu’r symud i Ultra, rydym wedi diweddaru ein ffurflen GCN. Mae’r newidiadau’n cynnwys llai o feini prawf a chyfrif geiriau uwch ar gyfer y naratifau.

Er mwyn helpu i baratoi ar gyfer ceisiadau, cynhelir dau weithdy gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ar:

  • 12 Ionawr 2024, 10:00 – 11:30
  • 22 Ionawr 2024, 14:00 – 15:30

Gellir archebu lle drwy’r dudalen archebu ar-lein.

Gellir lawrlwytho ffurflenni cais o weddalennau’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu.

Rhaid ebostio ceisiadau wedi’u cwblhau at eddysgu@aber.ac.uk cyn 12 canol dydd ddydd Gwener 2 Chwefror 2024.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses hon, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).

Methu dod o hyd i’r eitem rydych chi’n chwilio amdani yn eich cwrs Blackboard Ultra? Rhowch gynnig ar y swyddogaeth chwilio.

Yn y blogbost hwn rydym yn amlinellu nodwedd ddefnyddiol i helpu staff a myfyrwyr i lywio eu Cyrsiau Blackboard.

Os na allwch ddod o hyd i’r cynnwys rydych chi’n chwilio amdano neu os oes angen i chi lywio i ardal cwrs yn gyflym, ceisiwch ddefnyddio’r swyddogaeth chwilio sydd ar gael ym mhob cwrs.

Mae swyddogaeth chwilio’r cwrs yn ymddangos ar frig pob cwrs:

Sgrinlun o dudalen Hafan Cwrs gyda’r swyddogaeth chwilio wedi’i hamlygu

Cliciwch ar y chwyddwydr a dechrau nodi enw’r cynnwys yr ydych chi’n chwilio amdano.

Wrth i chi nodi enw’r cynnwys, bydd yr eitem yn ymddangos fel dolen. Bydd clicio ar y ddolen yn mynd â chi i’r ardal honno o’r modiwl.

Edrychwch ar y sgrinlun isod i weld hyn ar waith:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Ultra, neu os hoffech roi adborth am eich profiad, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk.

Rhoi’r gorau i ddefnyddio AirServer

Ni fydd AirServer, y feddalwedd a ddefnyddir i gysylltu dyfeisiau symudol ag offer yn yr ystafell addysgu, yn cael ei ddefnyddio bellach.

Dros y blynyddoedd, nid yw AirServer wedi gallu darparu ar gyfer gwahanol fathau o ddyfeisiau symudol.

Gellir defnyddio Microsoft Teams i gysylltu’ch dyfeisiau tabled ag offer yr ystafell addysgu. Edrychwch ar ein Cwestiwn Cyffredin: Sut mae cysylltu tabled / dyfais symudol â pheiriant mewn ystafell addysgu?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Gwasanaethau Gwybodaeth (gg@aber.ac.uk).