Mân newid:  Peiriannau’r Ystafelloedd Dysgu

Mae problem wedi codi â’r system recordio Panopto sydd wedi effeithio ar y ffolderi sydd gan rai pobl i recordio ynddynt.

Credwn ein bod wedi dod o hyd i ateb i’r broblem erbyn hyn, ac rydym wedi’i brofi mewn nifer o ystafelloedd.

Rydym bellach wrthi’n addasu’r peiriannau ym mhob ystafell ddysgu er mwyn datrys y broblem.

Bydd proffiliau’r defnyddwyr bellach yn cael eu hadnewyddu bob 5 diwrnod (yn hytrach na phob 10 niwrnod). Bydd yr adnewyddu hwnnw’n golygu y bydd unrhyw gopïau lleol o ddeunyddiau a gopïwyd i’r bwrdd gwaith yn cael eu dileu ar ôl 5 diwrnod.

Ymddiheuriadau i bawb y mae hyn wedi effeithio arnynt am yr anghyfleustra a achoswyd. 

Y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Cyhoeddi’r Prif Siaradwr

Mae’n bleser gennym gadarnhau ein prif siaradwr ar gyfer y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol eleni. Mae’r cyfnod archebu ar gyfer y gynhadledd eisoes ar agor. 

Bydd Dr Neil Currant yn ymuno â ni ar gyfer prif gyflwyniad wyneb-yn-wyneb a gweithdy dosbarth meistr ar ail ddiwrnod y gynhadledd, ddydd Mercher 9 Gorffennaf.

Bydd Neil yn trafod rôl bwysig asesu tosturiol, perthyn, ac arferion asesu cynhwysol.

Yn y gweithdy, bydd cyfle i gydweithwyr fyfyrio ar eu harferion asesu eu hunain a’r ffyrdd y gallent eu hymgorffori a’u haddasu yn seiliedig ar gyflwyniad Neil. Mae’r gwaith hwn yn adeiladu ar y gwaith hanfodol sy’n cael ei wneud yn y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr. 

Gweler bywgraffiad y siaradwr a dolenni at weithiau a phrosiectau dethol isod:

Mae Dr Neil Currant yn Uwch Ddatblygwr Addysgol ym Mhrifysgol Swydd Bedford. Cyn hynny, bu’n Bennaeth Datblygu Addysgol ym Mhrifysgol Brookes Rhydychen a’r Coleg Milfeddygol Brenhinol. Mae Neil wedi bod yn cefnogi arferion addysgu, dysgu ac asesu ym maes addysg uwch ers ugain mlynedd, ac mae ganddo arbenigedd mewn cynhwysiant ac asesu.

Mae Neil wedi bod yn rhan o brosiectau ymchwil a ariennir gan JISC ar ddefnyddio technoleg dysgu, prosiect a ariennir gan AU Ymlaen ar ddinasyddiaeth fyd-eang, ymchwil sefydliadol ar fylchau dyfarnu a phrosiectau a ariennir gan ASA ar berthyn a thosturi.

Mae Neil yn adolygydd ac yn achredwr ar gyfer AU Ymlaen. Cyd-sefydlodd Neil y Rhwydwaith Asesu Tosturiol mewn Addysg Uwch, ac ar hyn o bryd mae’n ymchwilio i arferion asesu sy’n gysylltiedig â thosturi, effaith affeithiol adborth, a pheidio â defnyddio graddau.

Ymchwil perthyn – Teaching Insights journal.

Rethinking assessment? Research into the affective impact of higher education grading

Prosiect perthyn – https://www.qaa.ac.uk/membership/collaborative-enhancement-projects/assessment/belonging-through-assessment-pipelines-of-compassion

Prosiect Asesu Tosturiol – https://www.qaa.ac.uk/membership/collaborative-enhancement-projects/assessment/compassionate-assessment-in-higher-education

Byddwn yn cyhoeddi siaradwyr allanol pellach maes o law.

Galw am Gynigion

Mae ein Cais am Gynigion yn dal ar agor, ac yn cau ar 8 Ebrill. Rydym yn croesawu cynigion sy’n ymwneud â themâu’r gynhadledd, ond hefyd y rhai sy’n arddangos yr arferion addysgu rhagorol sy’n digwydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cyfnod Archebu ar agor

Mae’r cyfnod archebu ar gyfer y gynhadledd eisoes ar agor. Cwblhewch ein harolwg ar-lein i archebu eich lle.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â threfnwyr y gynhadledd ar eddysgu@aber.ac.uk

Diweddariad Vevox: Mawrth 2025

Mae rhai nodweddion newydd ar gael yn y diweddariad Vevox (Adnodd Pleidleisio) yr hoffem dynnu eich sylw atynt.

I’r rhai sy’n anghyfarwydd â Vevox, gellir defnyddio’r feddalwedd bleidleisio i ofyn cwestiynau i fyfyrwyr ac er mwyn iddynt ymateb ar y pryd gan ddefnyddio eu dyfeisiau symudol. I gael mwy o wybodaeth am sut i ddefnyddio Vevox, gweler ein tudalen we.

Mae’r diweddariad yn cynnwys:

Os ydych chi’n defnyddio polau a chwisiau Tîm, gallwch nawr sefydlu Tabl arweinwyr. Mae’r datblygiad hwn yn wych ar gyfer gweithgareddau diwedd tymor neu adolygu.

Os ydych chi’n creu cwestiynau ar daenlen, gallwch eu huwchlwytho o dempled excel.

Cyflwynwyd y nodwedd hon yn y diweddariad diwethaf ond mae rhai gwelliannau i’r llif gwaith. Gallwch gynnal pôl demograffig i gasglu gwybodaeth neu nodweddion allweddol ar gyfer eich ymatebwyr, cyn gofyn rhagor o gwestiynau i ddadgyfuno’r canlyniadau.

Gall cynhyrchydd cwis DA nawr greu 10 cwestiwn ar y tro.

Mae’r ychwanegyn PowerPoint a ddiweddarwyd yn cynnwys gwelliannau i rendro LaTeX a KaTeX, opsiynau testun cyfoethog ar gyfer fformatio cwestiynau, a diweddariadau i wella polau Siart Cylch a rhifol.

Edrychwch ar ddiweddariad Vevox: Mawrth 2025 am y diweddariad llawn.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddefnyddio Vevox, cysylltwch â ni (eddysgu@aber.ac.uk).

Cynhadledd Fer: Cyhoeddi’r Rhaglen

Rydym yn falch o gyhoeddi’r rhaglen ar gyfer ein Cynhadledd Fer ar-lein a gynhelir cyn hir: Cyflogadwyedd a’r Cwricwlwm Cynhwysol

Fe’i cynhelir rhwng 09:15 a 13:00 ar 8 Ebrill, gyda chydweithrediad ein cydweithwyr yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd. Gellir archebu lleoedd ar-lein.

Byddwn yn dechrau’r gynhadledd gyda chroeso gan yr Athro Anwen Jones am 09:15 cyn symud ymlaen i anerchiad cyweirnod gan Dr Aranee Manoharan. Bydd Dr Aranee Manoharan yn ymuno â ni o Goleg y Brenin, Llundain.  Cewch ragor o wybodaeth am waith arloesol Dr Manoharan ar ein blog.

Bydd Dr Saffron Passam o Seicoleg yn arwain gweithdy rhyngweithiol “Future-Proofing Graduates: Embedding Equality, Diversity, and Inclusion as a Core Employability Skill” rhwng 10:20 a 10:50.

Bydd Dr Louise Ritchie o Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn arwain sesiwn ar Staging Success: Integrating Employability in the Drama and Theatre Curriculum (Part 2) rhwng 10:50 a 11:20.

Ar ôl egwyl, bydd Annabel Latham o’r Ysgol Addysg yn ymuno â ni ar gyfer eu sesiwn ‘Professional Partnerships in HE: a discussion around the co-creation of assessment to embed employability in the curriculum rhwng 11:35 a 12:05.

Bydd y digwyddiad yn dod i ben gydag anerchiad gyda Bev Herring a Jo Hiatt o’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a fydd yn rhoi llwyfan i’r ymdrechion a’r cynlluniau cydweithredol sydd ar waith i wella’r modd y mae cyflogadwyedd yn cael ei ymgorffori ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Gobeithio y gallwch ddod i’r digwyddiad arbennig hwn.

Mae’r rhaglen lawn, gan gynnwys crynodebau o’r sesiynau, ar gael ar ein tudalennau ar y we.

Enillydd Gwobr Cwrs Eithriadol 2024-25

Mae’n bleser gennym gyhoeddi enillydd y Wobr Cwrs Eithriadol eleni.

Llongyfarchiadau i Mari Dunning o’r adran Dysgu Gydol Oes am y cwrs buddugol: XM18210: Writing Women: Feminism in Poetry and Prose.

Nododd y panel yr arfer rhagorol o ran cyflwyniad a dyluniad clir y cwrs, y gefnogaeth a’r arweiniad cryf a gynigiwyd, y gweithgareddau cyfranogol bywiog a difyr, a’r tasgau creadigol. Cyflawnwyd hyn i gyd drwy amgylchedd dysgu ar-lein hygyrch a brwdfrydig.

Llongyfarchiadau i’r rhai a dderbyniodd ganmoliaeth a chanmoliaeth uchel:

  • Dr Kathy Hampson, y Gyfraith a Throseddeg, ar gyfer y cwrs LC37120: Critical and Radical Criminology
  • Henrietta Tremlett, Dysgu Gydol Oes, ar gyfer y cwrs XM15710: Autobiographical Writing
  • Dr Yasir Saleem Shaikh o Gyfrifiadureg ar gyfer y cwrs CSM0120: Programming for Scientists

Yn y 3 chwrs hyn fe gafwyd rhai arferion rhagorol, gan gynnwys: strwythurau clir a hygyrch, defnyddio cwisiau wythnosol yn effeithiol, gweithgareddau difyr ac amrywiol, prosesau marcio ac adborth clir, asesiadau a gynlluniwyd yn greadigol, ac amcanion dysgu wedi’u cynllunio’n dda a’u cyfleu’n glir.

Asesir y wobr ar sail pedwar maes:

  • Cynllun y Cwrs
  • Rhyngweithio a Chydweithio
  • Asesu
  • Cymorth i’r Dysgwyr

Roedd y cyrsiau o safon mor uchel, ac edrychwn ymlaen at rannu eu harferion â chi maes o law.

Llongyfarchiadau mawr i’r buddugwyr haeddiannol eleni.

Panopto: Capsiynau Adnabod Lleferydd Awtomatig

Rydym yn falch o gyhoeddi bod Capsiynau Adnabod Lleferydd Awtomatig Panopto wedi’i gymeradwyo yn y Pwyllgor Ansawdd a Safonau diweddar.

Mae hyn yn golygu, ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025-26 a thu hwnt, y bydd capsiynau awtomatig yn cael eu defnyddio yn eich recordiadau Panopto.

Bydd y rhai sy’n gwylio yn gweld y capsiynau ar waelod y sgrin neu gallant lawrlwytho trawsgrifiad:

Sgrinlun yn dangos recordiad Panopto gyda chapsiynau]

Er y bydd capsiynau’n ymddangos yn awtomatig y flwyddyn academaidd nesaf, gall cydweithwyr eisoes gynnwys capsiynau awtomatig i’r holl recordiadau mewn ffolder Panopto. Edrychwch ar ganllaw Panopto ar sut i wneud hyn.

Rydym wedi bod yn gweithio i alluogi capsiynau awtomatig ers sawl blwyddyn, felly rydym yn croesawu’r datblygiad hwn. Yn rhan o’r gwaith hwn, rydym wedi cymryd camau lliniarol i fynd i’r afael â rhai o’r heriau a’r pryderon, gan gynnwys:

  • Anghywirdebau capsiynau awtomatig
  • Disgwyliadau clir ar gyfer staff a myfyrwyr
  • Rheoli cyrsiau aml-iaith

Bydd capsiynau awtomatig yn cael eu defnyddio ym mhob recordiad ar y safle pan fyddwn wedi galluogi’r nodwedd hon. Yr iaith ddiofyn a fydd yn cael ei defnyddio yn ffolderi’r modiwl yw Saesneg. Bydd gosodiadau ffolderi modiwlau a gyflwynir 100% drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu diweddaru â llaw i gynhyrchu Capsiynau Awtomatig yn Gymraeg.

Rydym hefyd wedi cynnal Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb i edrych ar rai o’r heriau a achosir gan Bensiynau Awtomatig sydd ar gael ar gais (eddysgu@aber.ac.uk).

Er mwyn hwyluso galluogi capsiynau awtomatig, mae’r polisi Cipio Darlithoedd wedi’i ddiweddaru. Rydym yn adolygu ein holl bolisïau (Cipio Darlithoedd, Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard, ac E-gyflwyno) yn flynyddol. Byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth am y diweddariadau hyn maes o law.

Byddwn nawr yn dechrau gweithio ar ddiweddaru Panopto i alluogi capsiynau Awtomatig ar gyfer 2025-26.

Cyflawniadau Blackboard

Sgrinlun o'r tab Cyflawniadau a bathodynnau cysylltiedig mewn cwrs Blackboard

Rydym wedi galluogi nodwedd newydd ar Blackboard o’r enw Cyflawniadau.

Mae cyflawniadau’n caniatáu i hyfforddwyr gysylltu cyflawniad myfyrwyr â bathodynnau i helpu i gydnabod eu cyflawniadau neu eu hyfedredd.

Gweler Cymorth Blackboard i gael trosolwg o’r cyflawniadau. Bydd y safle cymorth yn rhoi cyngor i chi ar y mathau o weithgareddau y gellir eu defnyddio ar eu cyfer yn ogystal â sut i’w gosod.

I greu bathodyn, mae angen i chi ei gysylltu â cholofn Llyfr Graddau – megis prawf, aseiniad, neu Turnitin. Gallwch nodi lefel benodol y mae angen ei chyrraedd i gael bathodyn. 

Yna gall myfyrwyr weld eu cyflawniadau ar y cwrs neu’r mudiad o’r tab Cyflawniadau.

Byddem yn croesawu gweithio gyda chydweithwyr i drin a thrafod sut y gellid defnyddio cyflawniadau ar lefel cynllun neu adrannol.

Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Gallwch Gofrestru ar gyfer y Gynhadledd nawr

Gallwch gofrestru nawr ar gyfer yr trydydd ar ddeg gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol.

Eleni bydd y gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn dwyn y thema Llwybrau Arloesol i Rymuso Dysgwyr:  Addasu, Ymroi, a Ffynnu ac fe’i cynhelir rhwng dydd Mawrth 8 a dydd Iau 10 Gorffennaf 2025.

Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd trwy lenwi’r ffurflen ar-lein. 

Galwad am Gynigion

Gwahoddir staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig a myfyrwyr i gyflwyno cynigion ar gyfer 13eg Cynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol Prifysgol Aberystwyth a gynhelir rhwng 8-10 Gorffennaf 2025.

Gallwch gyflwyno a gweld yr alwad am gynigion ar-lein.

Gofynnwn i chi lenwi’r ffurflen hon erbyn 8 Ebrill 2025.