Hyfforddiant ar Adnodd Pleidleisio Vevox

Gwnaeth dros 180 o gydweithwyr ledled y Brifysgol ddefnyddio Vevox, ein hanodd pleidleisio, y llynedd.

Crëwyd bron i 4000 pôl ar draws bron i 1000 o sesiynau, gyda dros 27,000 o gyfranogwyr.

Mae Vevox yn caniatáu i gyfranogwyr ddefnyddio eu dyfeisiau symudol i ymateb i gyfres o gwestiynau.

Gallwch ddefnyddio hyn ar gyfer llawer o weithgareddau yn yr ystafell ddosbarth:

  • Holi ac Ateb
  • Gwirio gwybodaeth
  • Cwisiau
  • Casglu barn
  • Gwneud penderfyniadau
  • Gemau tîm
  • Gweithgareddau adolygu
  • Creu map meddwl
  • Creu adnoddau

A llawer mwy…

Gyda’n trwydded sefydliadol, gall pob aelod o’r gymuned ddefnyddio Vevox. Gall myfyrwyr ei ddefnyddio yn eu cyflwyniadau; gall cydweithwyr ei ddefnyddio yn eu cyfarfodydd. Y llynedd, roeddem yn falch iawn bod Vevox wedi’i ddefnyddio yn sgyrsiau croeso’r Brifysgol, a bydd hynny’n digwydd eto eleni.

Os yw Vevox yn beth newydd i chi ac os hoffech gael gwybod mwy, cofrestrwch ar gyfer eu sesiynau hyfforddi rhagarweiniol ar-lein.

I’r rhai nad ydynt yn gallu mynychu’r hyfforddiant, mae gennym dudalen we bwrpasol gyda deunyddiau cymorth.

Byddwn hefyd yn cynnal ein sesiwn hyfforddi uwch ar gynllunio gweithgareddau dysgu gan ddefnyddio meddalwedd pleidleisio ym mis Tachwedd. Gweler hyn a’n sesiynau uwch eraill ac archebwch eich lle ar-lein.

Os oes gennych gwestiynau o hyd, cysylltwch â ni ar eddysgu@aber.ac.uk.

Croeso i Flwyddyn Academaidd 2025-26: Diweddariadau i Blackboard ar gyfer myfyrwyr sy’n dychwelyd

Croeso cynnes i’r myfyrwyr newydd sy’n ymuno â ni a’r rhai sy’n dychwelyd i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Yn y blogbost hwn, byddwn yn amlinellu’r newidiadau a wnaed i’ch amgylchedd dysgu digidol, Blackboard, yn barod ar gyfer dechrau blwyddyn academaidd 2025-26

Os oes angen cymorth arnoch i ddefnyddio Blackboard, gweler ein Canllaw i Fyfyrwyr sy’n cynnwys pob math o wybodaeth ddefnyddiol.

Mae gennym hefyd gwestiynau cyffredin ar gael ar gyfer yr offer eraill yr ydym yn eu cefnogi, gan gynnwys Turnitin ar gyfer e-gyflwyno a Panopto ar gyfer recordio darlithoedd.

Templed wedi’i ddiweddaru

Mae’r holl gyrsiau wedi cael eu creu eleni gan ddefnyddio templed ychydig yn wahanol.

Gwybodaeth am y Modiwlau

  • Eitem ynghylch Recordio Darlithoedd (Panopto) o dan ‘Gwybodaeth am y Modiwl’
  • SgiliauAber

Asesu ac Adborth

  • Mae’r Canllawiau Cyflwyno wedi’u diweddaru i gynnwys gwybodaeth am uniondeb academaidd ac ymddygiad annerbyniol a defnyddio Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol yn eich asesiadau.

Argaeledd Cynnwys

Mae Polisi Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard, sef y polisi sy’n amlinellu isafswm y cynnwys ar gwrs i staff a myfyrwyr, wedi’i ddiweddaru i ofyn bod deunyddiau addysgu yn cael eu huwchlwytho o leiaf un diwrnod cyn y sesiwn.

Capsiynau Awtomatig yn Panopto

Bydd capsiynau nawr yn cael eu hychwanegu at yr holl recordiadau o ddarlithoedd yn awtomatig yn 2025-26, gan eu gwneud hyd yn oed yn fwy hygyrch. Mae ansawdd a dibynadwyedd y capsiynau awtomatig yn amrywio yn ôl iaith a phwnc y recordiad. 

Dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol nad yw’r capsiynau yn gywir 100%.  I gael eglurhad ar gapsiynau, dylai myfyrwyr siarad â’u darlithydd. 

Gellir lawrlwytho trawsgrifiadau o gapsiynau adnabod llais awtomatig (gweler Cwestiynau Cyffredin: ’Sut ydw i’n gweld capsiynau Panopto?

Mae ynganiad enwau a rhagenwau ar gael yn Blackboard

Gallwch nawr ychwanegu ynganiad eich enw a’ch rhagenwau at eich proffil Blackboard. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein Cwestiynau Cyffredin.

Cynnwys hygyrch

Rydym yn gweithio i wella hygyrchedd cynnwys yn eich cyrsiau Blackboard. Eleni mae’r Isafswm Presenoldeb Gofynnol wedi nodi gofyniad ar gyfer isafswm sgôr hygyrchedd. Mae hyn yn golygu bod y cynnwys mor gydnaws â Blackboard Ally â phosibl.

Mudiadau Blackboard

Mae Mudiadau fel Cyrsiau yn Blackboard ond nid ydynt yn fodiwlau y mae myfyrwyr yn eu dilyn. Gellir dod o hyd i bethau fel hyfforddiant a gwybodaeth adrannol o dan Mudiadau. Am y tro cyntaf, mae gennym Isafswm Presenoldeb Gofynnol ar gyfer Mudiadau sy’n amlinellu’r isafswm i staff a myfyrwyr.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch defnyddio Blackboard, cysylltwch â ni ar eddysgu@aber.ac.uk