Crynodeb Wythnosol o Adnoddau – 28/8/2025

Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.  

Digwyddiadau a gweminarau ar-lein

Awst

Medi

Hydref

Adnoddau a chyhoeddiadau

Arall

  • Call for proposals (open dates)Unfiltered by EmpowerED: A Podcast Series where educators share unedited stories of inspiration and challenge
  • Call for proposals (open dates)Future Teacher Webinars
  • Monthly series European Network for Academic Integrity, ENAI monthly webinars free open webinars on various topics related to academic integrity

Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Cyfryngau cymdeithasol: BSky, X.com.

Panopto 

Mae Panopto bellach wedi’i osod yn barod ar gyfer 2025-26.

Capsiynau awtomatig 

Mae capsiynau awtomatig bellach wedi cael ei osod yn holl ffolderi 2025-26 yn Panopto. Mae iaith y capsiwn yn cyfateb â iaith  templed eich cwrs Blackboard.   

Ar gyfer cyrsiau dwyieithog, rydyn ni’n awgrymu creu is-ffolder i ddal yr holl recordiadau ar gyfer un o ieithoedd cyflwyno eich cwrs (gweler Cwestiwn Cyffredin)   

Pan fyddwch yn gwneud eich recordiadau, rhaid i chi ddewis yr iaith gywir cyn pwyso ‘record’. Y rheswm am hyn yw oherwydd na ellir ychwanegu capsiynau Cymraeg at recordiadau sy’n cael eu copïo neu’u symud o ffolderi eraill   

Ceir gwybodaeth am gapsiynau awtomatig ym Mholisi Cipio Darlithoedd PA (rhan 12) 

Cysylltu â holl Recordiadau Panopto 

Gallwch greu dolen i’r ffolder Panopto yn eich cwrs Blackboard. Golyga hyn y gall myfyrwyr weld y recordiadau ar gyfer y cwrs mewn un lle. 

Dod o hyd i’ch ffolder Panopto 

Mae ffolderi Panopto ar gyfer yr holl fodiwlau eleni yn y ffolder 2025-26. 

I ddod o hyd i’r ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi: 

  • Cliciwch ar y botwm cwymplen ar ochr dde’r blwch Ffolder
  • Cliciwch ar y saeth cwymplen i’r chwith o’r ffolder blwyddyn academaidd i’w hehangu. 
  • Dewiswch y ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi. 
  • Gallwch hefyd chwilio am y ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi: 
  • Yn y blwch Ffolder dechreuwch deipio cod y modiwl neu enw’r ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi 
  • Dewiswch y ffolder yr hoffech recordio ynddi. 
  • Beth i’w wneud os na allwch weld eich ffolder Panopto 

Mewn nifer fach o gyrsiau, ni chrëwyd y ffolder Panopto dros yr haf. Os na allwch ddod o hyd i’ch ffolder Panopto gan ddefnyddio’r camau uchod, gallwch greu ffolder o Blackboard: 

  1. Mewngofnodwch i Blackboard a dod o hyd i’ch cwrs 
  1. Cliciwch ar Llyfrau ac Offer > Gweld cwrs ac offer sefydliad 
  1. Cliciwch ar Holl Fideos Panopto 

Nawr dylech allu dod o hyd i’r ffolder Panopto i recordio ynddi. 

Croeso i aelodau newydd o staff sy’n ymuno â Phrifysgol Aberystwyth 2025-26

Croeso cynnes i aelodau newydd o staff sy’n ymuno â Phrifysgol Aberystwyth

Ein nod yn y blogbost hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am dechnoleg wrth ddysgu ac addysgu, ein darpariaeth o ran hyfforddiant, sianeli cymorth, a digwyddiadau rydyn ni’n eu cynnal.

Mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar ein tudalennau gwe.

Rydyn ni’n ysgrifennu blog sy’n llawn o’r newyddion diweddaraf, manylion am ddigwyddiadau a sesiynau hyfforddi, ac adnoddau.

Os oes arnoch angen cysylltu â ni, gallwch wneud hynny trwy ddefnyddio eddysgu@aber.ac.uk.

Cyflwyniad i Offer E-ddysgu

Amgylchedd Dysgu Rhithwir: Blackboard

Mae gan bob modiwl ei gwrs pwrpasol ei hun yn Blackboard. Gall myfyrwyr ddod o hyd i wybodaeth am y modiwl, deunyddiau dysgu, a chanllawiau e-gyflwyno, yn ogystal â dolenni i restrau darllen a recordio darlithoedd.

Mae gan y Brifysgol bolisi Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard ar gyfer pob modiwl.

Gweler ein canllaw i staff i gael rhagor o wybodaeth.

Cipio Darlithoedd: Panopto 

Wrth addysgu wyneb yn wyneb, cofiwch y dylid recordio pob darlith (hynny yw, addysgu lle mae’r ffocws ar wybodaeth sy’n cael ei throsglwyddo gan staff i fyfyrwyr) gan ddefnyddio Panopto, ein meddalwedd recordio darlithoedd.

Gweler manylion ein Polisi Cipio Darlithoedd

E-gyflwyno: Turnitin a Blackboard Assignment

Ym Mhrifysgol Aberystwyth, rhaid i fyfyrwyr gyflwyno’r holl waith testun a phrosesu geiriau yn electronig fel yr argymhellir ym mholisi E-gyflwyno’r Brifysgol.

 Ar gyfer hyn, rydym yn defnyddio ein hadnoddau e-gyflwyno: Turnitin a Blackboard Assignment. Mae Turnitin yn darparu nodwedd paru testun awtomatig. Rydym yn defnyddio Profion Blackboard i gynnal arholiadau ar-lein.

Adnodd Pleidleisio:   Vevox:

Vevox yw adnodd pleidleisio Prifysgol Aberystwyth.

Gellir defnyddio’r adnodd pleidleisio mewn gweithgareddau dysgu ac addysgu yn ogystal â chyfarfodydd i wneud y sesiwn yn rhyngweithiol ac yn gydweithredol. Mae sawl ffordd wahanol o’i ddefnyddio.

Adnoddau a chymorth pellach

Mae gennym nifer o Ganllawiau a Chwestiynau Cyffredin i’ch helpu i ddefnyddio ein meddalwedd.

Darparu hyfforddiant

Er mwyn cefnogi’r holl staff gyda’u haddysgu rydym yn cynnal cyfres o sesiynau hyfforddi ar draws y meysydd canlynol:

  • Hanfodion E-ddysgu: wedi’i gynllunio ar gyfer cydweithwyr sy’n newydd i’r brifysgol, sy’n addysgu, neu a hoffai gael sesiwn loywi.   Nod y sesiynau hyn yw sicrhau bod cydweithwyr yn gallu bodloni polisïau dysgu ac addysgu digidol y brifysgol.
  • E-ddysgu Uwch: wedi’i gynllunio i adeiladu ar sail y sgiliau a gafwyd yn ein cyfres hanfodion e-ddysgu, bydd cydweithwyr yn creu gweithgaredd neu asesiad sy’n unigryw i’w cyd-destunau dysgu ac addysgu.
  • Rhagoriaeth E-ddysgu: wedi’i gynllunio i gynnig cyfle i gydweithwyr greu cyfleoedd dysgu ac addysgu eithriadol – yn aml rhai unigryw ac yn arwain y sector.

Ceir hyd i fanylion am ein rhaglen DPP flynyddol a gallwch archebu eich lle i fynychu drwy’r dudalen Archebu Cwrs.

⁠Digwyddiadau

Rydyn ni’n rhedeg ystod o ddigwyddiadau, gan gynnwys y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol a Chynadleddau Byr

Mae’r rhain oll yn gyfleoedd gwych i gwrdd â phobl ar draws y brifysgol a thrafod materion a datblygiadau’n ymwneud â Dysgu ac Addysgu   

Edrychwn ymlaen at eich gweld mewn digwyddiad cyn hir. Yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni trwy eddysgu@aber.ac.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Crynodeb Wythnosol o Adnoddau – 20/8/2025

Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.  

Digwyddiadau a gweminarau ar-lein

Awst

Medi

Hydref

Adnoddau a chyhoeddiadau

Arall

  • Call for proposals (open dates)Unfiltered by EmpowerED: A Podcast Series where educators share unedited stories of inspiration and challenge
  • Call for proposals (open dates)Future Teacher Webinars
  • Monthly series European Network for Academic Integrity, ENAI monthly webinars free open webinars on various topics related to academic integrity

Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Cyfryngau cymdeithasol: BSky, X.com.

Blackboard Ally

Inclusivity and Accessibility banner

Mae Blackboard Ally yn parhau i fod yn rhan boblogaidd o Blackboard gyda mwy o staff a myfyrwyr yn ei ddefnyddio yn ystod blwyddyn academaidd 2024-25.

Mae nifer y lawrlwythiadau i fformat amgen wedi mwy na dyblu y llynedd – lawrlwythwyd dros 62,000 o ddogfennau i fformatau amgen.  A defnyddiodd dros 4000 o ddefnyddwyr yr opsiwn hwn.

Gwnaeth staff hefyd fwy o ddefnydd o’r offer i ddatrys problemau hygyrchedd yn eu cyrsiau – cafodd dros 800 o ffeiliau eu trwsio y llynedd (o’i gymharu â 295 yn 2024-25).

Am y tro cyntaf eleni, mae ein Hisafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard yn nodi y dylai’r holl gyrsiau Blackboard gael sgôr Ally o 70%.  I wirio sgôr Ally eich cwrs, edrychwch ar y canllawiau ar ein blog.  Gallwch hefyd archebu lle ar un o’r cyrsiau hyfforddi Hanfodion E-ddysgu: Cyflwyniad i Blackboard Ally ym mis Medi.

Beth sy’n Newydd yn Blackboard mis Awst 2025 

Blog Banner

Yn y diweddariad ym mis Awst, rydym am dynnu eich sylw at y nodwedd tabl cynnwys sy’n cael ei hychwanegu at Fodiwlau Dysgu. 

Yn ogystal â hyn, mae gwelliannau i ddogfennau gydag opsiynau steilio blociau, a mwy o hygyrchedd ar draws llyfr graddau myfyrwyr a thudalennau trosolwg myfyrwyr.

Newydd: Ychwanegu Tabl Cynnwys at Fodiwlau Dysgu i fyfyrwyr

Rydym wedi ailgynllunio’r profiad Modiwl Dysgu i fyfyrwyr trwy ychwanegu Tabl Cynnwys cwympadwy. Mae’r diweddariad hwn yn gwella llywio, cyfeiriadedd, ac olrhain cynnydd. 

Yn rhan o’r gwelliant hwn, mae asesiadau bellach yn agor mewn panel llawn yn hytrach na phanel llai.

Mae gan fyfyrwyr bellach ffordd symlach o lywio ac olrhain cynnydd mewn Modiwlau Dysgu. Mae’r diweddariadau’n cynnwys:

  • Tabl cynnwys ar gyfer yr eitemau mewn Modiwl Dysgu. Dewis Cynnwys er mwyn agor a chwympo’r tabl cynnwys

Delwedd 1: Mae Modiwlau Dysgu bellach yn cynnwys panel Tabl Cynnwys i gyfeirio myfyrwyr o fewn Modiwlau Dysgu ar gyfer eu cyrsiau. Gellir cwympo’r panel gyda’r botwm saeth ar frig y Tabl Cynnwys.

Screenshot of Table of Contents within Learning Modules
  • Llywio hawdd rhwng eitemau  
  • Olrhain cwblhau eitemau â llaw neu awtomatig o fewn i’r Modiwl Dysgu
  • Botymau Nesaf a Blaenorol yn agosach at ei gilydd ar frig y dudalen i gael profiad gwell.

Delwedd 2: Mae’r botymau llywio Blaenorol a Nesaf bellach yn ymddangos yn agosach at ei gilydd yn y rhyngwyneb defnyddiwr o fewn Modiwlau Dysgu i roi profiad defnyddiwr gwell.

Screenshot of the User interface

Asesiadau o fewn Modiwlau Dysgu. Mae asesiadau bellach yn agor mewn panel llawn, gan ddarparu profiad cyson nad yw’n tynnu sylw.

Delwedd 3: Mae’r tudalennau Asesiadau o fewn Modiwlau Dysgu bellach yn ymddangos fel panel maint llawn.

Screenshot of the User interface

Dilyniant gorfodol mewn Modiwlau Dysgu. Pan fydd dilyniannu’n cael ei orfodi, rhaid i fyfyrwyr ddefnyddio’r botymau Nesaf a Blaenorol i symud trwy gynnwys mewn trefn. Ni all myfyrwyr neidio ymlaen gan ddefnyddio’r tabl cynnwys oni bai eu bod eisoes wedi cwblhau’r eitem maen nhw’n llywio iddi. Mae neidio ymlaen heb gwblhau eitem Modiwl Dysgu wedi’i analluogi yn y modd hwn. 

Gwella Dogfennau gydag opsiynau steilio blociau 

Fe wnaethom ychwanegu’r adnodd steilio blociau i Ddogfennau, gan roi ffyrdd newydd i hyfforddwyr wella apêl weledol a thywys sylw myfyrwyr. Mae’r opsiynau steilio yn cynnwys lliw ac eiconau. Bydd yr opsiynau arddull yn cynnwys:

  • Cwestiwn
  • Awgrym
  • Pwyntiau allweddol
  • Camau nesaf
  • Amlygu

Llun 1: Gall hyfforddwyr ddewis opsiynau steilio o gwymplen sy’n ymddangos yn y modd Golygu ar bob math o flociau.

Screenshot of styling menu.

Bydd ein sesiwn hyfforddi sydd ar ddod E-ddysgu Uwch: Dod yn Arbenigwr Dogfennau yn ystyried hyn ac ymarferoldeb arall dogfennau i helpu cydweithwyr i greu cynnwys deinamig. Gallwch archebu eich lle ar-lein.

Mwy o hygyrchedd yn llyfr graddau’r myfyrwyr

Er mwyn gwella hygyrchedd, fe wnaethom ddiweddaru Llyfr Graddau’r myfyrwyr i ddefnyddio strwythur tabl HTML semantig. Mae’r newid hwn yn disodli’r cynllun blaenorol, a oedd yn dibynnu ar elfennau <div>. Mae’r strwythur newydd yn gwella’r gefnogaeth darllenydd sgrin a llywio bysellfwrdd.

Mwy o hygyrchedd yn nhudalen trosolwg y myfyrwyr

Er mwyn gwella hygyrchedd, fe wnaethom ddiweddaru tudalen trosolwg y myfyrwyr i ddefnyddio strwythur tabl HTML semantig. Mae’r newid hwn yn disodli’r cynllun blaenorol, a oedd yn dibynnu ar elfennau <div>. Mae’r strwythur newydd yn gwella’r gefnogaeth darllenydd sgrin a llywio bysellfwrdd.

Os oes gennych unrhyw welliannau yr hoffech i Blackboard eu gwneud, cysylltwch â ni trwy eddysgu@aber.ac.uk.