Os ydych chi’n cael trafferth meddwl am syniadau ar gyfer y testun amgen ar eich delweddau, gall Cynorthwyydd Testun Amgen DA Ally roi awgrymiadau i chi.
Dylech bob amser wirio’r awgrym a ddarperir gan y Cynorthwyydd DA oherwydd efallai na fydd yn rhoi disgrifiad cywir o’r ddelwedd. Gallwch olygu unrhyw awgrymiadau a gynhyrchir gan y Cynorthwyydd DA.
Edrychwch ar y canllawiau deunydd dysgu hygyrch i ddarganfod pam mae Testun Amgen yn bwysig. Mae’r offer hyfforddi Poet yn rhoi cyfarwyddyd ar sut a phryd i ddefnyddio Testun Amgen yn ogystal ag adnoddau ar-lein i ymarfer creu testun amgen defnyddiol ar gyfer delweddau (noder bod gwefan Poet yn safle allanol ac nad yw ar gael yn Gymraeg).
Gall hyfforddwyr nawr argraffu profion sy’n cynnwys cwestiynau o Gronfeydd Cwestiynau. Bydd allwedd ateb hefyd yn cael ei hargraffu gyda’r prawf cyfatebol. Mae hyn yn sicrhau bod hyfforddwyr bob amser yn cael allwedd ateb sy’n cyd-fynd â’r prawf. Mae Blackboard yn cynhyrchu’r allwedd ateb ac yn ei hargraffu cyn y prawf. Mae’r allwedd ateb hefyd wedi’i labelu’n glir i sicrhau ymwybyddiaeth.
Mae’r system yn cynhyrchu fersiwn wahanol o’r allwedd ateb a’r prawf bob tro y bydd prawf yn cael ei argraffu. Bydd prawf:
Yn dewis cwestiynau neu opsiynau atebion ar hap
Yn cynnwys Cronfa Gwestiynau
Gall hyfforddwyr ddefnyddio’r opsiwn argraffu i gadw’r allwedd ateb a’r prawf fel PDF.
Er mwyn helpu i newid maint blociau tal fertigol, mae Blackboard wedi addasu’r ddolen newid maint. Nawr, gall hyfforddwyr newid maint bloc trwy ddewis ymyl fertigol bloc. Nid oes angen gosod y llygoden yn uniongyrchol dros y ddolen.
“Newid dyddiadau i ddyddiad a / neu amser penodol” yw’r opsiwn mwyaf poblogaidd a ddefnyddir wrth olygu swp i newid dyddiadau mewn swp, felly nawr dyma’r opsiwn diofyn. Mae’r newid hwn yn symleiddio’r broses i ddefnyddwyr ac yn helpu hyfforddwyr i baratoi cyrsiau ar gyfer addysgu a dysgu yn gyflymach byth.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod ceisiadau ar gyfer Gwobr Cwrs Nodedig 2024-25 ar agor.
Mae’r GCN yn cael ei farnu ar draws 4 categori:
Cynllun y Cwrs
Rhyngweithio a Chydweithio
Asesu
Cymorth i Fyfyrwyr
Gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno 3 arfer sy’n sefyll ar wahân ar gyfer eu Cwrs i helpu i fframio eu cais cyn hunanasesu eu cwrs – gall hyn fod yn naratif 1,000 o eiriau neu’n recordiad Panopto 8 munud o hyd.
Yn dilyn yr hunanasesiad, caiff y cyrsiau eu hasesu hefyd gan banel o arbenigwyr.
Mae’r newidiadau i’r ffurflen eleni yn cynnwys:
Ychwanegu maen prawf 1.13: sgôr Blackboard Ally o 85% neu fwy.
Y gallu i ofyn am adroddiadau ar eich cwrs (Ymroddiad Myfyrwyr a Chrynodeb o’r Cwrs). Gellir gofyn am yr adroddiadau hyn gan y Grŵp Addysg Ddigidol (eddysgu@aber.ac.uk).
Er mwyn helpu i baratoi ar gyfer ceisiadau, cynhelir dau weithdy gan yr Grŵp Addysg Ddigidol ar:
Mae Arolwg Defnyddwyr GG yn rhoi cyfle i chi ddweud wrthym beth ydych chi’n ei feddwl am ein gwasanaethau a sut y gallwn eu gwella. Mae hefyd yn gyfle i chi ennill un o ddwy daleb £50 am ddeg munud o’ch amser!