Peilota SafeAssign ar Blackboard Assignment

Diolch yn fawr iawn i’r holl staff sydd wedi cofrestru ar gyfer Peilota SafeAssign ar Blackboard Assignment. Mae amser o hyd i wirfoddoli os oes gennych ddiddordeb (e-bost eddysgu@aber.ac.uk).

Ers y blog diwethaf, rydym wedi sicrhau bod SafeAssign ar gael i’w ddefnyddio yn Blackboard Assignments. Rydym hefyd wedi cynnal y ddwy sesiwn hyfforddi gyntaf. Bydd mwy o sesiynau hyfforddi yn cael eu trefnu ar gyfer semester un – ewch i’r dudalen Digwyddiadau a Hyfforddiant i archebu lle.

Rydym wedi bod yn trafod rhai o’r opsiynau ar gyfer marcio yn Blackboard Assignment y gallai staff eu gweld yn ddefnyddiol:

  1. Mae marcio dirprwyedig yn caniatáu i staff farcio traethodau fesul grŵp. Os ydych yn rhannu’r gwaith marcio yn eich modiwlau rhwng sawl aelod o staff, yna bydd marcio dirprwyedig yn eich helpu.
  2. Mae marcio cyfochrog yn caniatáu i ddau aelod o staff farcio darn o waith yn annibynnol heb weld sylwadau na marciau ei gilydd.
  3. Sylwadau dienw. Yn ddiofyn, mae sylwadau marcio yn Blackboard Assignment yn cynnwys enw’r aelod o staff sy’n marcio. Os nad yw hyn yn briodol ar gyfer eich marcio, gallwch eu gwneud yn ddienw (gweler isod).

Noder y gellir adfer aseiniadau Blackboard sydd wedi’u dileu am hyd at 30 diwrnod ar ôl eu dileu. Os oes angen adfer aseiniadau wedi’u dileu, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk cyn gynted ag y bo modd, gan roi manylion y modiwl ac enw’r aseiniad.

Sylwadau Dienw

Pan fyddwch chi’n creu sylw, cliciwch ar yr eicon marcio dienw

Sgrinlun o flwch sylwadau Blackboard Assignment gyda’r eicon marcio dienw wedi’i amlygu

Gallwch olygu sylwadau presennol i’w gwneud yn ddienw trwy glicio ar y sylw.  Cliciwch ar y tri dot yng nghornel dde uchaf y sylw a chliciwch ar Anonymous.

Sgrinlun o flwch sylwadau Blackboard Assignment gyda’r tri dot a’r opsiwn Anonymous wedi’i amlygu

I gael rhagor o wybodaeth am yr offer marcio sydd ar gael yn Blackboard Assignments, gweler Canllawiau Anodi Blackboard

Cefnogi eich myfyrwyr

Er mwyn helpu’ch myfyrwyr i ddefnyddio Blackboard Assignment i gyflwyno eu gwaith a dod o hyd i’w hadborth, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cynnwys y Cwestiynau Cyffredin canlynol yn y Modiwl Dysgu Asesu ac Adborth yn eich cwrs Blackboard:

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*