Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.
12/9/2024 WonkHE, Last night a chatbot eased my strife, “Join Wonkhe and Salesforce as we explore how AI powered technology can be deployed in building student agency in wellbeing”
14/10/2024 Compassionate Assessment Event 5 Martin Compton, “Dr Compton is the lead for AI and innovation and for assessment design at King’s College London”
21/11/2024Compassionate Assessment Event 6 Dr. Juuso Henrik Nieminen, “Dr Nieminen has particularly focused on understanding the social effects of assessment on students’ inclusion, belonging and identities.”
Adnoddau a chyhoeddiadau – Deallusrwydd Artiffisial (DA)
Currant, N., Hill, V. & Bunting, L. (6/9/2024), Episode 47 Compassionate Assessment (30-minute audio recording), Talking HE Podcast series with Santanu Vasant
Monthly series European Network for Academic Integrity, ENAI monthly webinarsfree open webinars on various topics related to academic integrity
Subscribe to SEDA’s mailing list for email discussions about educational development and emerging teaching practices. This is one of the sources I use when identifying useful material for the Roundup.
Join the #LTHEchat on Twitter Wednesday nights for one hour of lively discussion about learning and teaching in HE. I often find out about good resources for the Roundup from the chat.
Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.
Diolch yn fawr iawn i’r holl staff sydd wedi cofrestru ar gyfer Peilota SafeAssign ar Blackboard Assignment. Mae amser o hyd i wirfoddoli os oes gennych ddiddordeb (e-bost eddysgu@aber.ac.uk).
Ers y blog diwethaf, rydym wedi sicrhau bod SafeAssign ar gael i’w ddefnyddio yn Blackboard Assignments. Rydym hefyd wedi cynnal y ddwy sesiwn hyfforddi gyntaf. Bydd mwy o sesiynau hyfforddi yn cael eu trefnu ar gyfer semester un – ewch i’r dudalen Digwyddiadau a Hyfforddiant i archebu lle.
Rydym wedi bod yn trafod rhai o’r opsiynau ar gyfer marcio yn Blackboard Assignment y gallai staff eu gweld yn ddefnyddiol:
Mae marcio dirprwyedig yn caniatáu i staff farcio traethodau fesul grŵp. Os ydych yn rhannu’r gwaith marcio yn eich modiwlau rhwng sawl aelod o staff, yna bydd marcio dirprwyedig yn eich helpu.
Mae marcio cyfochrog yn caniatáu i ddau aelod o staff farcio darn o waith yn annibynnol heb weld sylwadau na marciau ei gilydd.
Sylwadau dienw. Yn ddiofyn, mae sylwadau marcio yn Blackboard Assignment yn cynnwys enw’r aelod o staff sy’n marcio. Os nad yw hyn yn briodol ar gyfer eich marcio, gallwch eu gwneud yn ddienw (gweler isod).
Noder y gellir adfer aseiniadau Blackboard sydd wedi’u dileu am hyd at 30 diwrnod ar ôl eu dileu. Os oes angen adfer aseiniadau wedi’u dileu, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk cyn gynted ag y bo modd, gan roi manylion y modiwl ac enw’r aseiniad.
Sylwadau Dienw
Pan fyddwch chi’n creu sylw, cliciwch ar yr eicon marcio dienw
Gallwch olygu sylwadau presennol i’w gwneud yn ddienw trwy glicio ar y sylw. Cliciwch ar y tri dot yng nghornel dde uchaf y sylw a chliciwch ar Anonymous.
I gael rhagor o wybodaeth am yr offer marcio sydd ar gael yn Blackboard Assignments, gweler Canllawiau Anodi Blackboard
Cefnogi eich myfyrwyr
Er mwyn helpu’ch myfyrwyr i ddefnyddio Blackboard Assignment i gyflwyno eu gwaith a dod o hyd i’w hadborth, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cynnwys y Cwestiynau Cyffredin canlynol yn y Modiwl Dysgu Asesu ac Adborth yn eich cwrs Blackboard:
Mae diweddariad Blackboard mis Medi yn cynnwys gwelliannau i Dudalen Cynnwys y Cwrs, yn cyflwyno Gwiriadau Gwybodaeth mewn Dogfennau, newidiadau i asesiadau, adborth a graddau sydd wedi’u cuddio gan ddefnyddio Amodau Rhyddhau, a thab Trosolwg yn y Llyfr Graddau i gynorthwyo graddio.
Gwelliannau i Dudalen Cynnwys y Cwrs
Mae diweddariad mis Medi i Blackboard yn gweld gwelliannau i dudalen cynnwys y cwrs.
Mae’r gwelliannau yn cynnwys:
Mwy o ddyfnder gweledol
Newid cynllun y dudalen Cynnwys
Gwahaniaethu ymysg elfennau’r cwrs
Mwy o ddyfnder gweledol
Mae’r dyluniad newydd yn ymgorffori:
Graddiant cynnil ac ymylon meddalach
Palet lliw mwy cydlynol gyda thonau deniadol, cynhesach
Llywio mwy greddfol, sy’n lleihau llwyth gwybyddol ac yn cynyddu ffocws ar y cynnwys
Llun 1: Gwedd hyfforddwr: Gwelliannau dyfnder gweledol i Dudalen Cynnwys y Cwrs
Llun 2: Gwedd myfyrwyr: Gwelliannau dyfnder gweledol i Dudalen Cynnwys y Cwrs