Er mwyn ymateb i’r her hon, rydym wedi sefydlu Gweithgor Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol. Mae’r gweithgor wedi cyhoeddi canllawiau i staff ym mis Mawrth ac wedi diweddau’r Rheoliadau ar Ymddygiad Academaidd Annerbyniol. Rydym yn cynnal sesiynau hyfforddi rheolaidd er mwyn rhoi arweiniad i staff ac rydym wedi cyfrannu fideos i fyfyrwyr (Deallusrwydd Artiffisial a’ch Astudiaethau) yn rhan o LibGuide y Tîm Cysylltiadau Academaidd Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn y Llyfrgell: Canllaw Myfyriwr.
Mae arnom eisiau cynnwys mwy o leisiau yn y drafodaeth, felly rydym wedi sefydlu cyfres o fforymau Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol, sy’n agored i’r holl staff a myfyrwyr sydd â diddordeb. Rydym yn annog myfyrwyr yn arbennig i ddod i’r fforymau hyn. Gall staff gofrestru gan ddefnyddio ein System Archebu DPP. Gall myfyrwyr ymuno drwy e-bostio’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu.
- 17-10-2023 15:00 – 16:00
- 14-11-2023 10:00 – 11:00
- 07-12-2023 16:00 – 17:00
Nod y Fforwm Trafod Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol yw cyfnewid profiadau am yr hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad yn ein meysydd ein hunain, casglu awgrymiadau i’r Gweithgor eu hystyried, ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Sylwch nad sesiwn hyfforddi yw hon ond trafodaeth mewn grŵp, wedi’i hwyluso, lle gall pawb gyfnewid syniadau. Yn ystod y cyfarfod, byddwn yn gofyn i chi rannu eich profiadau, eich cwestiynau a’ch awgrymiadau. Edrychwn ymlaen at drafod yn eich cwmni!