Yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ydym ni. Rydym ni’n rhan o’r Gwasanaethau Gwybodaeth. Rydym ni’n gweithio gyda staff ar draws y brifysgol i gefnogi a datblygu dysgu ac addysgu. Rydym ni’n cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau i gyflawni hyn.
Mae’r holl wybodaeth fyddwch chi ei hangen ar dudalennau gwe’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu. Bydd ein tudalennau gwe Cefnogi eich Addysgu yn eich helpu gydag amrywiol ddatrysiadau addysgu.
Rydym ni’n ysgrifennu blog gyda’r newyddion diweddaraf, manylion am ddigwyddiadau a sesiynau hyfforddi, ac adnoddau.
Os bydd angen i chi gysylltu â ni gallwch wneud hynny ar un o ddau gyfeiriad ebost:
udda@aber.ac.uk (am gwestiynau addysgegol a chynllunio, neu i drefnu ymgynghoriad) neu
eddysgu@aber.ac.uk (am ymholiadau technegol ynghylch ein harlwy e-ddysgu a restrir isod)
Cyflwyniad i’r arlwy e-ddysgu
Amgylchedd Dysgu Rhithwir: Blackboard
Mae gan bob modiwl ei gwrs penodol ei hun yn Blackboard. Mae gan y modiwlau hyn gynnwys ar-lein, fel rhestrau darllen, a manylion staff addysgu. Dyma’r prif bwynt cyswllt am wybodaeth i’ch myfyrwyr ar unrhyw fodiwl, gan gynnwys mynediad at ddarlithoedd wedi’u recordio a chyflwyno aseiniadau. Mae gan y Brifysgol bolisi Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard ar gyfer pob modiwl.
Cipio Darlithoedd: Panopto
Wrth addysgu wyneb yn wyneb, byddwch yn ymwybodol y dylid recordio pob darlith (hynny yw, addysgu lle mae’r ffocws ar drosglwyddo gwybodaeth o staff i fyfyrwyr) yn defnyddio Panopto, ein meddalwedd Cipio Darlithoedd. Gweler manylion ein Polisi Cipio Darlithoedd.
E-gyflwyno: Turnitin a Blackboard Assignment
Ym Mhrifysgol Aberystwyth, rhaid i fyfyrwyr gyflwyno’r holl waith testun a phrosesu geiriau yn electronig fel yr amlinellir ym mholisi E-gyflwyno’r Brifysgol. Ar gyfer hyn rydym ni’n defnyddio’r teclynau e-gyflwyno Turnitin a Blackboard Assignment. Mae Turnitin yn darparu swyddogaeth paru testun awtomatig.
Adnoddau a rhagor o gymorth
Mae gennym ni nifer o Ganllawiau a Chwestiynau Cyffredin i’ch helpu i ddefnyddio ein meddalwedd.
Hyfforddiant
Er mwyn cefnogi’r holl staff gyda’u haddysgu, mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal nifer o sesiynau hyfforddi. Mae’r rhain yn cynnwys:
- sesiynau ymarferol i staff ymgyfarwyddo â gwahanol elfennau o’r amgylchedd dysgu rhithwir,
- yr agenda Dysgu Gweithredol,
- asesu ac adborth,
- hygyrchedd,
- sgiliau cyflwyno, a mwy.
Rydym ni hefyd yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau a rhaglenni hyfforddi. Ceir manylion am ein rhaglen DPP flynyddol a gallwch archebu eich lle drwy ein Tudalen Archebu Cwrs. Rydym ni’n cyflwyno rhai sesiynau ein hunain, tra bo eraill yn cael eu cyflwyno gan staff y brifysgol y mae eu haddysgu’n cynnwys arfer da yn y meysydd hynny. Edrychwch am (D&A) yn nheitl y sesiwn.
Digwyddiadau
Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol, Cynadleddau Bach, Gwyliau Bach a Fforymau Academi. Mae’r rhain i gyd yn gyfleoedd gwych i gyfarfod â phobl o bob rhan o’r brifysgol i drafod materion a datblygiadau’n ymwneud â Dysgu ac Addysgu.
Rhaglenni
Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu hefyd yn cynnal rhaglenni i gefnogi eich datblygiad proffesiynol parhaus. Mae hyn yn cynnwys rhaglen Addysgu i Uwchraddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth (TPAU) a’r Dystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (PGCTHE) ar lefel Meistr a Chynllun Cymrodoriaeth (ARCHE).