Ddydd Mercher 10 Mai, croesawodd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu Dr James Wood o Brifysgol Bangor i roi rhai syniadau ynghylch ymgysylltu a dylunio adborth myfyrwyr.
Mae’r recordiad o’r sesiwn ar Panopto a gellir lawrlwytho’r sleidiau PowerPoint isod:
Yn y sesiwn, amlinellodd Dr Wood
- Y newidiadau i gwestiynau adborth yr ACF ar gyfer 2023
- Diben yr adborth
- Y symud oddi wrth drosglwyddo adborth i weithredu
- Rhwystrau i ymgysylltu ag adborth myfyrwyr
- Sgrinledu eich adborth
Y digwyddiad mawr nesaf ar gyfer yr UDDA yw ein Cynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol sy’n cael ei chynnal rhwng 4 a 6 Gorffennaf. Mae modd archebu lle ar gyfer y gynhadledd nawr.
Os oes gennych unrhyw siaradwyr allanol yr hoffech i’r UDDA eu gwahodd i gyfres y flwyddyn nesaf, e-bostiwch udda@aber.ac.uk gyda’ch awgrym.