Mae peth amser wedi mynd ers i ni roi adroddiad ar ein cynnydd wrth drosglwyddo i Blackboard Ultra. Rydym ni wedi bod yn gweithio’n galed i baratoi ar gyfer dechrau ein rhaglen hyfforddi a sicrhau bod yr integreiddiadau’n gweithio.
Diweddariad Technegol
Rydym ni wedi bod yn canolbwyntio ar y broses Creu Cyrsiau. Er mwyn helpu cydweithwyr i drosglwyddo i Ultra, rydym ni’n creu cyrsiau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf yn gynharach o lawer eleni.
Bydd hyn hefyd yn helpu gyda hyfforddiant wrth i gydweithwyr baratoi eu cwrs Ultra byw.
Bu’n rhaid gwneud llawer o waith i sefydlu’r integreiddiadau a’u cael i weithio:
- Panopto: mae Panopto wedi symud i gysylltydd API yn barod ar gyfer Cyrsiau Ultra.
- Talis Aspire. Mae LTI Talis Aspire bellach wedi’i alluogi. Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr Ymgysylltu Academaidd i sicrhau bod hyn mor llyfn â phosibl.
- Turnitin. Cwblhawyd y gwaith o drosglwyddo Turnitin i gysylltydd LTI yn ystod haf 2022, ac nid oes angen newidiadau ychwanegol i Turnitin ar gyfer symud i Gyrsiau Ultra.
- Cyfarfodydd Microsoft Teams. Byddwn yn symud i’r LTI Teams yn ystod haf 2023. Bydd yr offeryn hwn ar gyfer amserlennu cyfarfodydd Teams.
Mae’r rhain yn offer sydd eisoes yn bodoli ond un o fanteision symud i Ultra yw cyflwyno integreiddiad LTI Office 365. Mae hyn yn caniatáu i chi uwchlwytho dogfennau o OneDrive yn syth i Blackboard yn ogystal â chynnig cyfle i fyfyrwyr gydweithio ar ddogfen gyda’i gilydd. I’r rheini ohonoch chi sydd wedi bod yn dilyn ein cynnydd ar y blog, fe welwch mai’r offeryn cydweithredol hwn yw sail ein datrysiad Wiki.
Diweddariad Hyfforddiant
Mae’r sesiwn Hanfodion E-ddysgu: Cyflwyniad i Blackboard Ultra bellach wedi’i chynllunio ac yn barod ar gyfer sesiynau hyfforddi staff adrannol.
Rydym ni wedi cyfathrebu â Chyfarwyddwyr Addysgu a Dysgu pob Adran i ddechrau trefnu eich sesiwn hyfforddiant adrannol. Os nad ydych chi’n gallu mynd i’r sesiwn a drefnwyd ar eich cyfer byddwn yn eu cynnal yn ganolog.
Gweler ein blogbost hyfforddi ar gyfer trosolwg o’n pecyn hyfforddi.
Isafswm Presenoldeb Gofynnol
Gan fod gan gyrsiau Blackboard Ultra ddull gweithredu cwbl wahanol o ran trefnu a gosod cynnwys, mae’r Isafswm Presenoldeb Gofynnol wedi ei ailysgrifennu. Cadwch olwg am yr isafswm wedi’i ddiweddaru.
Deunyddiau Canllaw
Rydym ni wedi bod yn gweithio ar symleiddio a pharatoi ein deunyddiau canllaw, gan gynnwys Cwestiynau Cyffredin. Un newid y byddwch yn sylwi unwaith y byddwn mewn Cyrsiau Ultra yw y bydd ein cwestiynau cyffredin yn cysylltu’n uniongyrchol â deunyddiau cymorth Blackboard. Mae’r deunyddiau hyn ar gael yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg.
Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu
Cynhelir Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu rhwng 4 a 6 Gorffennaf. Elfen allweddol o’r gynhadledd fydd Blackboard Ultra. Cadwch olwg ar ein blogiau wrth i ni gyhoeddi’r prif siaradwyr. Gair i atgoffa bod ein Galwad am Gynigion yn cau ar 5 Mai – gallwch gyflwyno cynnig yn defnyddio ein ffurflen Galwad am Gynigion.