
Gallwch gofrestru nawr ar gyfer yr unfed ar ddeg gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol. Eleni bydd y gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn dwyn y thema Dysgu sy’n Trawsnewid: Creu Cyfleoedd i Ddysgu ac fe’i cynhelir rhwng dydd Mawrth 4 a dydd Iau 6 Gorffennaf 2023.
Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd trwy lenwi’r ffurflen ar-lein.
Galwad am Gynigion
Mae croeso i staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig, a myfyrwyr gynnig sesiynau ar unrhyw bwnc sy’n berthnasol i ddysgu.
Gallwch gyflwyno a gweld yr alwad am gynigion ar-lein. Gofynnwn i chi lenwi’r ffurflen hon erbyn 5 Mai 2023.