Ar 1 a 2 Mawrth, cyfarfu’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu â Chyfarwyddwyr Dysgu ac Addysgu yr Adrannau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am brosiect Blackboard Ultra a thrafod ein cynlluniau ar gyfer hyfforddiant, sut y gallwn fynd i’r afael â heriau, a’r gefnogaeth sydd ei hangen ar gyfer prosiect Ultra.
Gellir lawrlwytho sleidiau’r sesiwn o’r ddolen hon.
Mae’r sleidiau’n cynnwys diweddariad ar amserlen y prosiect, yr hyn y bydd angen i gyd-weithwyr academaidd ei wneud, a chyflwyniad i’n trefn hyfforddi.
Crynodeb o’r drafodaeth
- Cyswllt er mwyn cael cymorth – os ydych yn cael unrhyw anawsterau wrth ddefnyddio offer e-ddysgu cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk a byddwn yn fwy na pharod i’ch helpu.
- Ychwanegu dolenni at restrau darllen a Panopto – Bydd yn rhaid i aelodau o staff ychwanegu’r dolenni hyn at eu modiwlau. Nid oes modd gwneud hyn yn awtomatig ar hyn o bryd, ond byddwn yn parhau i geisio canfod ffyrdd o wneud hynny.
- Bydd adrannau’n cael dewis a ydynt eisiau sesiwn hyfforddi wyneb yn wyneb ynteu un ar-lein.
- Bydd yr uned yn parhau i gynnig hyfforddiant ar ddefnyddio Ultra dros yr haf ac ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd
- Bydd cyd-weithwyr academaidd yn gallu gweld a chopïo deunydd o fodiwlau’r gorffennol – y cyfnod cadw presennol yw 5 mlynedd + y flwyddyn bresennol.
- Os oes modd, dylai cyd-weithwyr ddefnyddio nodweddion golygu testun Blackboard i sicrhau bod eu cynnwys mor hygyrch â phosibl.
- Bydd rhestr wirio yn cael ei pharatoi fel y gall cyd-weithwyr wirio eu bod wedi gwneud popeth sydd ei angen wrth adeiladu eu modiwlau.
- Byddai cyd-weithwyr yn hoffi cael negeseuon cyson gan y Gwasanaethau Gwybodaeth am y prosiect.
- Bydd sesiynau hyfforddiant yn cael eu cynnig i bob tîm yn y Gofrestrfa yn ogystal ag i arholwyr allanol a champysau rhyddfraint.
- Bydd y negeseuon cyfathrebu a’r dull gweithredu yn tanlinellu manteision symud i Ultra ac yn rhoi rhestr o’r nodweddion newydd.
- Os oes modd, bydd deunyddiau fideo yn cael eu creu.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, neu os hoffech siarad â ni am agwedd benodol ar eich cwrs, cysylltwch â ni ar eddysgu@aber.ac.uk.