Diolch i bawb sydd wedi mynychu’r Fforymau Academi yn Semester 1. Rydym ni wedi cael trafodaethau gwych ynghylch lles yn y cwricwlwm, gweithgareddau ymsefydlu myfyrwyr, sut mae myfyrwyr yn defnyddio technoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth, a Galluoedd Digidol (Rhan 1).
Mae ein holl daflenni o’r Fforymau Academi ar gael ar ein tudalennau gwe.
Gallwch nawr archebu eich lle ar ein Fforymau Academi ar gyfer Semester 2.
- 24 Ionawr, 14:00-15:30: Fforwm Academi 5: Strategaethau ar gyfer Ymgysylltu Adborth (Wyneb yn wyneb, E3)
- 16 Chwefror, 10:00-11:30: Fforwm Academi 6: Defnyddio Technoleg ar gyfer Gweithgareddau Myfyriol (Ar-lein)
- 6 Mawrth, 10:00-11:30, Fforwm Academi 7: Dylunio Asesiad Grŵp gan ddefnyddio Technoleg (Ar-lein)
- 19 Ebrill, 10:00-11:30, Fforwm Academi 8: Galluoedd Digidol (Rhan 2) (Ar-lein)
- 17 Mai, 14:00-16:00, Fforwm Academi 9: Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn y Cwricwlwm (Wyneb yn wyneb, E3)
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (udda@aber.ac.uk).