Yn ein post blaenorol, cyhoeddasom ein bod yn symud i Blackboard Ultra.
Ar ôl cyfarfod y Bwrdd Academaidd, gallwn gadarnhau y bydd Cam 1 prosiect Ultra, sef ‘Ultra Base Navigation (UBN)’, yn digwydd rhwng 3 a 6 Ionawr 2023.
Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn sylwi bod newidiadau wedi’u gwneud i dudalennau glanio Blackboard. Er bod UBN yn rhoi gwedd wahanol i Blackboard, fe fydd yr un peth o ran gweithredu a chynnwys y cyrsiau.
Rydym yn bwriadu sicrhau bod defnyddwyr yn gallu defnyddio Blackboard trwy gydol y cyfnod hwn, ond fe ddylid cofio ei bod hi’n bosib y ceir rhai problemau yn ystod y cyfnod.
Ceir negeseuon pellach am UBN yn y man i helpu i baratoi’r staff a myfyrwyr
ar gyfer y newid hwn i’r tudalen glanio.
Pan fydd Cam 1 wedi’i gwblhau, bydd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn symud i Gam 2, er mwyn paratoi ar gyfer Cyrsiau Ultra ym mis Medi 2023.
Byddwn yn blogio trwy gydol y prosiect a bydd negeseuon allweddol yn cael eu cyfleu drwy’r Bwletin Wythnosol a newyddion y Gwasanaethau Gwybodaeth.
Byddwn yn darparu Cwestiynau Cyffredin ac mae gennym dudalen we bwrpasol a fydd yn datblygu wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).