Mynediad myfyrwyr i fannau cyflwyno Turnitin.
Rydym yn argymell i chi beidio â chuddio Mannau Cyflwyno Turnitin oddi wrth fyfyrwyr am y rhesymau canlynol:
- Mae myfyrwyr angen mynediad i fannau cyflwyno Turnitin i weld a lawrlwytho eu derbynneb digidol Turnitin sy’n dystiolaeth eu bod wedi cyflwyno.
- Yn ddelfrydol dylai myfyrwyr bob amser gael mynediad at eu haseiniadau a gyflwynwyd drwy fannau cyflwyno Turnitin.
- Dylai myfyrwyr gael mynediad i’w graddau a’u hadborth ar y dyddiad rhyddhau Adborth a hysbysebwyd yn wreiddiol iddynt ar gyfer y man cyflwyno Turnitin. Dylai adborth fod ar gael i fyfyrwyr 15 diwrnod gwaith ar ôl cyflwyno yn unol â phwynt 5.2 o’r Polisi E-gyflwyno ac Adborth.
Turnitin a chyflwyno a marcio nad yw’n ddienw.
Rydym yn argymell yn gryf bod y golofn Canolfan Raddau Blackboard yn cael ei chuddio ar gyfer unrhyw fan cyflwyno Turnitin a osodwyd gyda marcio nad yw’n ddienw.
Pan fydd aseiniad Turnitin yn cael ei osod heb farcio dienw bydd unrhyw farciau a gofnodir yn Stiwdio Adborth Turnitin yn bwydo drwodd i golofn canolfan raddau Blackboard yn syth. Mae hyn yn eu gwneud yn weladwy i’r myfyrwyr cyn y dyddiad rhyddhau adborth.
I guddio colofn yn y Ganolfan Raddau:
- Ewch i’r Ganolfan Raddau Lawn
- Cliciwch ar y llinell onglog (chevron) drws nesaf i’r golofn berthnasol
- Rhaid toglo’r opsiwn ‘Cuddio rhag Myfyrwyr (Ymlaen/Diffodd)’ nes bydd llinell goch trwyddo.
Ni ddylai’r golofn Canolfan Raddau Blackboard fod wedi’i chuddio pan fydd y dyddiad rhyddhau adborth wedi pasio.
Er mai marcio’n ddienw sy’n arferol, mae’n bosibl bod rhesymau dros gyflwyno a marcio nad yw’n ddienw. Gweler pwynt 4.7 o’r Polisi E-gyflwyno ac Adborth.
Rhoddwyd gwybod am y mater hwn i Turnitin.