Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn dechrau gweithio ar ein prosiect nesaf, sef trosglwyddo i ddefnyddio Blackboard Ultra. Dros y misoedd nesaf byddwn yn defnyddio ein blog i roi gwybod am hynt y prosiect, yn ogystal â rhannu gwybodaeth bwysig.
Dros y flwyddyn nesaf, mae’n debyg y clywch yr ymadroddion canlynol:
- Ultra Base Navigation: yr enw a roddwyd i’r dyluniad a’r ffordd newydd o lywio o fewn Blackboard, cyn i chi fynd i mewn i fodiwl neu gyfundrefn.
- Ultra Course View; dyluniad mwy modern a rhyngwyneb hawdd ei ddefnyddio ar gyfer modiwlau, gyda rhai darnau newydd o offer nad ydynt ar gael yn Original Course View.
- Original Course View; y dyluniad a’r rhyngwyneb yr ydym yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar gyfer modiwlau, ac sy’n dod i ben yn Blackboard.
- LTI (Learning Tools Interoperability); mae hyn yn cyfeirio at offer allanol sydd wedi’u hintegreiddio â Blackboard, fel Turnitin a Panopto.
Ceir manteision i ddefnyddio Ultra:
- Ffordd fwy greddfol o ddylunio cyrsiau a chreu cynnwys.
- Mwy cydnaws â dyfeisiau symudol a chyfrifiaduron llechen.
- Yn elwa yn sgil diweddariadau a chefnogaeth barhaus Blackboard.
- Estheteg wedi’i diweddaru.
Er ein bod yn cydnabod y manteision hyn, gallai’r newid darfu ar gydweithwyr a myfyrwyr ond byddwn yn gweithio’n galed i sicrhau bod y broses o’i gyflwyno yn un mor esmwyth â phosibl.
Ar gyfer cydweithwyr, byddwn yn cynnal sesiynau hyfforddi y flwyddyn nesaf fel eich bod mor barod â phosibl ar gyfer y newid hwn.
Yn y blogbost cyntaf hwn, byddwn yn rhoi crynodeb o’n cyfarfod ymwneud cyntaf â’r rhanddeiliaid, a gynhaliwyd ddydd Gwener 16 Medi. Gwahoddwyd cyfarwyddwyr dysgu ac addysgu eich adran, ynghyd â rhanddeiliaid eraill, i’r cyfarfod.
Cafodd pawb a oedd yn bresennol daith o amgylch rhyngwyneb Ultra o safbwynt hyfforddwr a diwrnod ym mywyd myfyriwr, wedi eu cyflwyno gan ein cydweithwyr cefnogi cleientiaid o Blackboard.
Rydym wedi sicrhau bod y cyfarfod ar gael i bawb drwy Panopto.
Yn dilyn y cyfarfod rhanddeiliaid byddwn yn gweithio ar yr agweddau canlynol:
- Pryd y gallwn roi Ultra Base Navigation ar waith?
- Sut brofiad fydd y broses o greu a chopïo cyrsiau i gydweithwyr?
- Sut mae Blackboard Ultra yn ymdopi â chynnwys Cymraeg a Saesneg?
Cadwch lygad am ragor o ddiweddariadau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, rhowch wybod i ni (udda@aber.ac.uk).