Mae’n gyffrous gallu cyhoeddi ein Fforymau Academi arfaethedig ar gyfer 2022-23. Gan adeiladu ar lwyddiant sesiynau’r llynedd, ac ar sail adborth, rydym ni wedi cynyddu’r nifer o Fforymau Academi sydd ar gael gyda chyfanswm o 10 dros y flwyddyn academaidd.
I’r rheini yn eich plith sy’n anghyfarwydd â Fforymau Academi, maen nhw’n drafodaethau anffurfiol sy’n dod â chydweithwyr ynghyd o bob rhan o’r Brifysgol. Ym mhob sesiwn, byddwn yn edrych ar bwnc penodol yn gysylltiedig â Dysgu ac Addysgu. Byddwn yn hwyluso’r drafodaeth ac yn darparu adnoddau ac arweiniad yn dilyn y Fforwm Academi. Yna bydd y rhain ar gael ar ein tudalennau gwe. Cymerwch olwg ar bynciau Fforwm Academi y llynedd:
- Cynllunio Dysgu Cyfunol
- Cynllunio Asesiadau Dilys
- Creu Cyfleoedd ar gyfer Adborth Cymheiriaid
- Gweithio gyda Myfyrwyr fel Partneriaid
Eleni, bydd rhai Fforymau Academi yn dychwelyd wyneb yn wyneb yn ogystal â’r rhai a gynhelir ar-lein drwy Teams. Gallwch weld y dyddiadau, disgrifiadau o’r sesiynau, a chadw lle ar y dudalen archebu ar gyfer y tair sesiwn gyntaf a chadwch olwg am sesiynau’r dyfodol.
Byddwn yn dechrau’r Fforymau Academi gyda thrafodaeth ar Gynefino Myfyrwyr. Byddwn yn meddwl am sut rydych chi’n paratoi myfyrwyr i astudio. Pa fath o weithgareddau ydych chi’n eu rhedeg yn wythnos 1 eich modiwl er mwyn i’ch myfyrwyr gyfarwyddo â’r cynnwys? Hefyd, byddwn yn gofyn i gydweithwyr rannu gyda ni sut y gallech chi ddefnyddio technoleg yn y rhyngweithiadau hyn.
Bydd yr ail Fforwm Academi, Sut mae myfyrwyr yn defnyddio technoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth?, yn seiliedig ar ganfyddiadau’r Arolwg Profiad Digidol a gydlynir gan LTEU. Byddwn yn rhannu rhai o’r negeseuon allweddol gyda chi a chewch gyfle i’w cymhwyso i’ch cyd-destun eich hun.
Dros y blynyddoedd diwethaf rydym ni wedi gweld cynnydd yn y gwaith yn ymwneud â Lles yn y Cwricwlwm a dyma bwnc y trydydd Fforwm Academi. Ddeunaw mis yn ôl, trefnon ni gynhadledd fach ar y pwnc ac rydym ni’n defnyddio hwn fel cyfle i weld pa mor bell rydym ni wedi dod a myfyrio ar y gwaith sydd ar ôl i’w wneud.
Bydd y pedwerydd Fforwm Academi mewn dwy ran am y tro cyntaf. Byddwn yn edrych ar Fewnwelediad Digidol mewn sesiwn a hwylusir gan ein cydweithiwr, Dr Sioned Llywelyn, Swyddog Galluoedd Digidol. Byddwch eisoes wedi clywed am rai o’r mentrau mae Sioned yn ymwneud â nhw gan gynnwys LinkedIn Learning a’r JISC Discovery Tool. Bydd ein nawfed Fforwm Academi yn ddilyniant i hwn.
Yn y flwyddyn newydd, byddwn yn bwrw iddi gyda Strategaethau ar gyfer Ymgysylltu ag Adborth, ein pumed Fforwm Academi. Rydym ni i gyd yn treulio llawer o amser yn rhoi adborth i fyfyrwyr ar eu haseiniadau a byddwn yn edrych ar ffyrdd gwahanol i fanteisio ar yr adborth hwn a sicrhau ymgysylltiad.
Gan adeiladu ar Ymgysylltu ag Adborth, byddwn yn defnyddio’r chweched Fforwm Academi i edrych yn benodol ar Asesu Ffurfiannol a sut y gallem ddefnyddio rhai o’r offerynnau sydd ar gael i ni yn ein technolegau E-ddysgu i gynllunio’r rhain, gan dynnu ar asesu cymheiriaid hefyd.
Mae meithrin sgiliau myfyrio’n hanfodol ar gyfer datblygu myfyrwyr sy’n hunan-reoleiddio. Bydd Fforwm Academi 7 yn edrych yn benodol ar sut y gallem ddefnyddio technolegau, fel blogiau, byrddau trafod, a dyddiaduron ar gyfer gweithgareddau myfyriol fydd yn helpu i adeiladu’r sgiliau hyn. Byddwn yn rhannu astudiaethau achos gyda chi o bob rhan o PA sydd wedi helpu i ddatblygu hyn.
Un o’r cwestiynau cyffredin a ofynnir i ni yw sut y gallem ddefnyddio technolegau ar gyfer asesiadau grŵp. Mae asesiadau grŵp yn ddiarhebol o anodd eu creu a’u cefnogi. Byddwn yn edrych ar feini prawf marcio aseiniadau ac yn tynnu ar gysyniadau o drafodaeth Asesu Dilys i helpu i ystyried sut y gallwn integreiddio technoleg yn well yn y math hwn o weithgaredd.
Yn olaf, fel dilyniant i’n Galluoedd Digidol, bydd y degfed Fforwm Academi yn edrych ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth yn y Cwricwlwm, pwnc sydd wedi derbyn sylw helaeth dros y blynyddoedd diweddar. Byddwn yn ystyried sut y gallwn helpu i ddatblygu cynhwysiant ac yn rhannu strategaethau gyda’n gilydd ar ymyriadau addysgu llwyddiannus.
Anfonwch e-bost atom (udda@aber.ac.uk) os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y Fforymau Academi ac edrychwn ymlaen at eich gweld mewn sesiwn neu ddwy y flwyddyn nesaf.