Eleni yw’r 10fed flwyddyn y trefnir cynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu. Er mwyn dathlu, rydym wedi rhoi ein holl ddeunydd o’r cynadleddau blaenorol ar we-ddalennau’r gynhadledd.
Rydym hefyd wedi cymryd golwg ar ein hystadegau ac wedi crynhoi nifer o ffeithiau i chi.
Ers y gynhadledd gyntaf yn 2013:
- Bu dros 400 o wahanol aelodau o staff a myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth yn bresennol yn y gynhadledd
- Daeth mwy na 1000 o bobl i’r cynadleddau
Nifer y sesiynau yn ôl Adran:
Ein 10 prif adran academaidd a gyflwynodd yn y gynhadledd yw:
- IBERS gyda 41 sesiwn
- Addysg gyda 28 sesiwn
- Dysgu Gydol Oes gyda 26 sesiwn
- Seicoleg gyda 21 sesiwn
- Cyfrifiadureg gyda 18 sesiwn
- Ysgol Fusnes Aberystwyth gyda 17 sesiwn
- Gwleidyddiaeth Ryngwladol gyda 14 sesiwn
- Ffiseg gyda 13 sesiwn
- Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear gyda 12 sesiwn
- Y Gyfraith a Throseddeg gydag 11 sesiwn
Y rhan fwyaf o sesiynau gan gyflwynydd
Mae 3 unigolyn yn gydradd gyntaf am y nifer fwyaf o sesiynau a gyflwynwyd gan aelod o staff academaidd. Â chyfanswm o 8 sesiwn, mae Steve Atherton, Addysg, Antonia Ivaldi a Gareth Norris, Seicoleg. Yn gydradd yn y pedwerydd safle, gyda 7 sesiwn, mae Basil Wolf, IBERS a Maire Gorman o Ysgol Graddedigion a Ffiseg. Llongyfarchion a diolch iddyn nhw.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y ddegawd nesaf o gynadleddau. Gobeithio y gallwch ymuno â ni yn y gynhadledd rhwng 12 a 14 Medi eleni, lle bydd cymysgedd o sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein. Archebwch eich lle ar-lein.