Tua diwedd mis Gorffennaf byddwn yn dechrau creu modiwlau Blackboard ar gyfer 2022-23.
Yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, ni fydd fersiynau gwag o unrhyw gyrsiau presennol yn cael eu creu. Gwnaed y penderfyniad hwn yng nghyfarfod y Bwrdd Academaidd yn ddiweddar.
Bydd cynnwys a ffeiliau’r cyrsiau yn cael eu copïo o’r fersiwn o’r modiwl yn y flwyddyn academaidd flaenorol. Ni fydd mannau cyflwyno Turnitin, recordiadau Panopto na gweithgareddau rhyngweithiol Blackboard yn cael eu cynnwys wrth gopïo; bydd angen ail-greu’r rhain. Mae gennym lawer o Gwestiynau Cyffredin i gynorthwyo’r staff gyda hyn.
Os ydych chi’n cynnal modiwl newydd yna bydd y rhain yn cael eu creu gan ddefnyddio’r Templedi Adrannol y cytunwyd arnynt ymlaen llaw. Yn yr un modd, os ydych chi’n cynnal modiwl na chafodd ei gynnal yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf yna bydd y rhain hefyd yn cael eu creu’n wag.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses hon (eddysgu@aber.ac.uk). Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd y modiwlau wedi’u creu.