Mae’n bleser gennym gyhoeddi enw ein siaradwr gwadd cyntaf i’r gynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol am eleni (12-14 Medi 2022).
Bydd Dr Alex Hope yn ymuno â ni i sôn am wreiddio cynaliadwyedd yn ystyrlon yn y cwricwlwm.
Mae Dr Alex Hope yn Ddirprwy i’r Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg) ac yn Athro Cyswllt Moeseg Busnes yn Ysgol Fusnes Newcastle, Prifysgol Northumbria. Mae’n gyfrifol am arweinyddiaeth strategol addysg ledled y gyfadran ac mae’n addysgu, ymchwilio ac ymgynghori mewn meysydd megis addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy, busnes cyfrifol, moeseg busnes, a’r nodau datblygu cynaliadwy. Ochr yn ochr â’i waith yn Ysgol Fusnes Newcastle, mae Dr Hope yn Gyd-Gadeirydd Gweithgor Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar Addysg Rheolaeth Gyfrifol (UN PRME) ac yn gyn Is-Gadeirydd UN PRME y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon. Mae’n aelod o Bwyllgor Dysgu ac Addysgu Cymdeithas Siartredig Ysgolion Busnes (CABS) ac yn aelod o fwrdd Busnes yn y Gymuned y gogledd ddwyrain, rhwydwaith busnes cyfrifol Tywysog Cymru. Mae ganddo PhD mewn Datblygu Cynaliadwy, MA mewn Ymarfer Academaidd, a BSc (Anrh) mewn Rheoli Amgylcheddol.
Nodyn i atgoffa cydweithwyr bod y cyfnod Cais am Gynigion ar agor ar hyn o bryd (i gau ar 27 Mai 2022).
Mae cyfnod archebu am y gynhadledd hefyd ar agor.
Ceir mwy o wybodaeth ar ein gwefan. Byddwn yn cyhoeddi enwau siaradwyr allanol ychwanegol, gan gynnwys ein prif areithwyr, maes o law.