Siaradwr Gwadd: Dosbarth Meistr: Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu, Kevin L. Merry

Accessibility icons showing 3 images: a checklist, a computer workstation, an image

Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi ein Siaradwr Gwadd nesaf.

Ar 16 Chwefror, 2pm-4pm, bydd Kevin L. Merry yn cynnal dosbarth meistr ar Ddylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu a sut mae dull hwnnw o weithio wedi’i roi ar waith ym Mhrifysgol De Montfort.

Mae modd archebu’ch lle ar y digwyddiad hwn nawr drwy dudalen archebu Datblygu Proffesiynol Parhaus y Staff.

Gallwch ddarllen mwy am Ddylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu ar wefan CAST.

Cynhelir y gweithdy ar-lein drwy Teams. Bydd dolen yn cael ei hanfon atoch cyn y digwyddiad. 

Rhoddir disgrifiad o’r sesiwn a bywgraffiad y siaradwr isod.

Disgrifiad o’r Sesiwn

Yn 2015, mabwysiadodd Prifysgol De Montfort Ddylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL) fel ei dull o ddysgu, addysgu ac asesu i’r sefydliad cyfan, mewn ymateb i’r ffaith bod amrywiaeth eithriadaol ymhlith ei dysgwyr. Mae Dylunio Cyffredinol yn ddull sy’n ymgorffori amrywiaeth o opsiynau sy’n golygu ei fod yn hygyrch ac yn gynhwysol i grwpiau amrywiol o ddysgwyr sydd ag amrywiaeth eang o anghenion a dewisiadau dysgu.

Yn y dosbarth meistr hwn, bydd Dr Kevin Merry yn cyflwyno’r dull “Brechdan Caws” o gynorthwyo dysgwyr i feistrioli eu dysgu. Erbyn hyn, y ‘Brechdan Caws’ yw’r cyfrwng a ddefnyddir gan staff dysgu De Montfort i ddechrau ymgorffori Dylunio Cyffredinol yng ngwaith dylunio eu sesiynau addysgu, eu modiwlau a’u rhaglenni. Yn benodol, bydd Kevin yn darparu cyfres o weithgareddau ymarferol a fydd yn helpu’r cyfranogwyr i ddatgelu sylfeini addysgeg y Brechdan Caws. Ar ben hynny, bydd Kevin yn gwahodd y cyfranogwyr i ddechrau meddwl am rai o’r ystyriaethau allweddol y mae’n rhaid i athrawon eu gwneud wrth gynllunio a dylunio profiadau dysgu o safbwynt Dylunio Cyffredinol, a sut y gellir gwneud hyn gan ddefnyddio ymagwedd systemau’r dull CUTLAS.

Yn olaf, bydd Kevin yn gorffen y sesiwn drwy ymdrin â’r cwestiwn mawr hollol amlwg – sef asesiadau a ddyluniwyd yn gyffredinol. Trwy ddarparu arweiniad ac enghreifftiau ymarferol o gymhwyster De Montfort ei hun, sef y Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch, bydd Kevin, gobeithio, yn chwalu rhai o’r mythau o amgylch Dylunio Cyffredinol ac asesu, gan helpu’r cyfranogwyr i fabwysiadu dulliau o asesu dysgu sy’n canolbwyntio’n fwy ar Ddylunio Cyffredinol.

Bywgraffiadur y Siaradwr:

Kevin L. Merry yw Pennaeth Datblygu Academaidd, ac yn Athro Cysylltiol Dysgu ac Addysgu ym Mhrifysgol De Montfort (DMU). Mae Kevin hefyd yn Gymrawd Addysgwr DMU, ac yn Brif Gymrawd Advance HE. Ac yntau wedi ennill gwobrau am eu dysgu, mae Kevin wedi cael clod am ei ddull arloesol o ddysgu ar-lein drwy ddulliau’r ystafell ddosbarth ‘wrthdro’ ac fe ddaeth yn enwog yn rhyngwladol am ei waith ar Ddylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL). Kevin yw sylfaenydd a chadeirydd Rhwydwaith Addysg Uwch UDL y Deyrnas Unedig ac Iwerddon (UDL-UKI). Diben y rhwydwaith UDL-UKI yw darganfod, hybu a helpu i ddatblygu ffyrdd o weithio, modelau, offer ac arferion a fydd yn golygu y gellir rhoi UDL ar waith yn effeithiol yn addysg uwch Prydain.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni (udda@aber.ac.uk).

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*