Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn gweithio i ailgyflwyno meicroffonau gwddf yn yr ystafelloedd dysgu.
I’r rhai sydd newydd ddod i’r sefydliad, neu a hoffai gael eu hatgoffa, mae meicroffonau gwddf yn cael eu cysylltu â’r systemau sain yn yr ystafelloedd dysgu, yn cael eu gwisgo am wddf y cyflwynydd, ac fe ellir eu defnyddio at wneud recordiadau Panopto ac ar gyfer cyfarfodydd Teams. Edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin ar sut mae defnyddio Meicroffonau Gwddf.
Gwybodaeth Iechyd a Diogelwch
Mae ailgyflwyno meicroffonau gwddf yn golygu bod angen dilyn canllawiau hylendid ychwanegol:
- Mae glanhau’r dwylo yn rheolaidd yn helpu i rwystro salwch a heintiau rhag cael eu lledaenu; cofiwch olchi’ch dwylo’n rheolaidd a defnyddio’r hylif diheintio dwylo pan ddewch i mewn i’r adeiladau.
- Er mwyn sicrhau cyn lleied o gyswllt â phosib, dim ond un unigolyn ddylai ddefnyddio’r meicroffon gwddf mewn sesiwn ddysgu
- Dylid sychu’r meicroffon â weips sy’n gweithio’n effeithiol yn erbyn COVID-19 fel y byddwch yn ei wneud gydag offer eraill, cyn ac ar ôl i chi eu defnyddio
- Er bod y meicroffon gwddf yn rhoi mwy o ryddid i’r staff i symud o gwmpas yr ystafell ddysgu, rydym yn annog y staff i gynnal pellter corfforol, sef 2 fetr o leiaf, lle y bo modd, ac i gadw at arferion hylendid dwylo da, cyn defnyddio’r meicroffon gwddf, ac wedyn (yn unol â’r hyn a nodir yn Asesiad Risg COVID Prifysgol Aberystwyth Hydref 2021)
- Yn y rhan fwyaf o ystafelloedd, fe fydd y meicroffonau ar y desgiau darlithio yn aros ac fe fydd modd eu defnyddio o hyd (os bydd y staff yn aros yn agos at y ddesg). Ond mewn nifer fechan o ystafelloedd, dim ond meicroffon gwddf fydd ar gael.
Sut y bydd yr offer yn cael eu cyflwyno?
Bydd y newidiadau i’r ystafelloedd yn cael eu gwneud yn raddol, felly efallai y byddwch yn sylwi bod y meicroffonau gwddf wedi’u hailgyflwyno yn fuan. Bydd yr holl feicroffonau gwddf wedi’u gosod yn barod erbyn dechrau’r dysgu yn Semester 2.
Defnyddio’r meicroffonau gwddf yn Panopto
Gellir defnyddio’r meicroffonau gwddf wrth wneud eich recordiadau Panopto. Pan gychwynnwch Panopto, newidiwch y meicroffon i Neck Mic drwy glicio ar y ddewislen ddisgyn sydd tua’r dde i’r maes Audio yn Panopto recorder:
Defnyddio’r meicroffon gwddf mewn cyfarfodydd Teams
Gellir defnyddio’r meicroffon gwddf mewn cyfarfodydd Teams. I newid eich meicroffon yn Teams:
Dewiswch y botwm ar gyfer mwy o ddewisiadau, sef “…” :
Ac wedyn y Gosodiadau Offer / Device Settings
O dan feicroffon dewiswch Enw’r Meicroffon.
Mwy o Gymorth
Mae ein Canllawiau i’r Ystafelloedd Dysgu, 2021-22 yn rhoi braslun o sut i ddefnyddio’r offer yn yr ystafelloedd dysgu. Os ydych yn cael anawsterau ag offer mewn ystafell ddysgu sydd ar yr amserlen ganolog, codwch y ffôn ac fe gewch eich cysylltu â’r gweithdy.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau (gg@aber.ac.uk).