Yn ystod y gwanwyn eleni, cynhaliodd Prifysgol Aberystwyth arolwg cenedlaethol Jisc i ddeall profiadau digidol myfyrwyr. Cawsom ymateb gan dros 1,000 o fyfyrwyr, yn dweud wrthym am eu hagweddau tuag at dechnoleg mewn dysgu ac addysgu a’u profiadau o’r dechnoleg honno. Dyma rai o ganfyddiadau allweddol yr arolwg hwn.
Crynodeb o’r ystadegau allweddol
CWESTIWN | EIN DATA % | DATA’R DU % | DATA CYMRU % |
---|---|---|---|
Amgylchedd dysgu ar-lein wedi’i gynllunio’n dda | 40 | 41 | 44 |
Cefnogaeth i ddefnyddio’ch dyfais eich hun | 60 | 54 | 56 |
Yn gallu cael mynediad i systemau/gwasanaethau ar-lein o unrhyw le | 67 | 68 | 67 |
Deunyddiau dysgu ar-lein wedi’u cynllunio’n dda | 56 | 53 | 54 |
Ansawdd y dysgu ar-lein a’r dysgu digidol ar y cwrs | 69 | 66 | 68 |
Cefnogaeth i ddysgu heb fod ar-lein/oddi ar y campws | 57 | 51 | 53 |
Yn gallu cael gafael ar yr holl wasanaethau cymorth yr oedd arnoch eu hangen ar-lein | 51 | 49 | 50 |
Faint o gefnogaeth a gawsoch i ddysgu ar-lein | 58 | 61 | 62 |
- Mae’r data yn ymwneud â chanran y myfyrwyr a oedd yn cytuno â’r datganiadau a nodwyd.
- Dangosir hefyd y cymariaethau meincnodi.
- Mae pump o’r wyth ystadegyn allweddol yn uwch ar gyfer Prifysgol Aberystwyth nag ar gyfer sefydliadau eraill yn y DU a Chymru.
- Mae’r tueddiadau cyffredinol yr un fath ag ar gyfer sefydliadau eraill yn y DU a Chymru (mae’r meysydd lle cafodd PA ganlyniadau is yn rhai isel yn genedlaethol).
Chi a’ch sefyllfa ddysgu ar hyn o bryd
Technolegau Cynorthwyol
- Dywedodd 17% o’r rhai a ymatebodd eu bod wedi defnyddio o leiaf un math o dechnoleg gynorthwyol.
- Dywedodd 13% o’r myfyrwyr hyn ein bod wedi cynnig cefnogaeth iddynt ddefnyddio technolegau cynorthwyol.
Problemau wrth ddysgu ar-lein
Llwyfannau a gwasanaethau digidol yn eich sefydliad
Technoleg wrth ichi ddysgu
Gwella ansawdd dysgu ar-lein a dysgu digidol
Gofynnwyd i’r myfyrwyr pa un peth y dylem ei wneud i wella ansawdd y dysgu ar-lein a’r dysgu digidol. Cwestiwn testun rhydd oedd hwn, ac aethom ati i’w ddadansoddi er mwyn canfod themâu. Dyma rai o’r themâu cyffredin:
- Crybwyllodd 42% welliannau i gynllun a threfn y dysgu ar-lein
- Crybwyllodd 14% ddysgu ar-lein mwy difyr a rhyngweithiol
- Crybwyllodd 12% fwy o ymwneud â myfyrwyr eraill
- Crybwyllodd 11% fwy o sesiynau dysgu byw
- Crybwyllodd 10% well darpariaeth ddigidol
- Crybwyllodd 9% fwy o ymwneud â’r darlithwyr
- Crybwyllodd 6% gynyddu sgiliau a gallu digidol
Agweddau cadarnhaol ar ddysgu ar-lein
Gofynnwyd i’r myfyrwyr pa agwedd ar ddysgu ar-lein fu fwyaf cadarnhaol iddynt hwy – os oedd yna agwedd gadarnhaol. Cwestiwn testun rhydd oedd hwn, ac aethom ati i’w ddadansoddi er mwyn canfod themâu. Dyma rai o’r themâu cyffredin:
- Crybwyllodd 54% hyblygrwydd
- Crybwyllodd 27% fynediad i ddeunyddiau ac adnoddau
- Crybwyllodd 12% gyswllt â’r darlithwyr
- Crybwyllodd 10% fuddiannau o ran lles ac anableddau
- Crybwyllodd 7% ddysgu difyr a rhyngweithiol
- Crybwyllodd 7% dechnoleg ddigidol
- Crybwyllodd 6% gyswllt â’r myfyrwyr eraill
Agweddau negyddol ar ddysgu ar-lein
Gofynnwyd i’r myfyrwyr pa agwedd ar ddysgu ar-lein fu fwyaf negyddol iddynt hwy – os oedd yna agwedd negyddol. Cwestiwn testun rhydd oedd hwn, ac aethom ati i’w ddadansoddi er mwyn canfod themâu. Dyma rai o’r themâu cyffredin:
- Crybwyllodd 45% ddiffyg ysgogiad neu ymwneud
- Crybwyllodd 23% gynllun a threfn y dysgu ar-lein
- Crybwyllodd 21% ddiffyg ymwneud cymdeithasol
- Crybwyllodd 14% faterion lles
- Crybwyllodd 14% broblemau â systemau TG
- Crybwyllodd 9% ddiffyg cyswllt â staff
- Crybwyllodd 6% ddiffyg sgiliau ymarferol
Ansawdd cyffredinol y dysgu ar-lein a’r dysgu digidol ar y cwrs
Datblygu eich sgiliau digidol
Cefnogaeth ac arweiniad i ddatblygu sgiliau digidol
I BA RADDAU YR YDYCH YN CYTUNO EIN BOD WEDI RHOI’R PETHAU CANLYNOL ICHI: | PA % CYTUNO | CYMRU % CYTUNO | Y DU % CYTUNO |
---|---|---|---|
Cefnogaeth i ddysgu ar-lein/oddi ar y campws | 57 | 51 | 53 |
Arweiniad ynghylch y sgiliau digidol sy’n angenrheidiol ar gyfer eich cwrs | 40 | 41 | 43 |
Asesiad o’ch sgiliau digidol a’ch anghenion hyfforddiant | 22 | 26 | 28 |
I ble y mae myfyrwyr yn mynd i gael cymorth?
Dysgu’n effeithiol ar-lein
Gofynnwyd i’r myfyrwyr pa un peth y dylem ei wneud i’ch helpu i ddysgu’n effeithiol ar-lein. Cwestiwn testun rhydd oedd hwn, ac aethom ati i’w ddadansoddi er mwyn canfod themâu. Dyma rai o’r themâu cyffredin:
- Crybwyllodd 35% welliannau i gynllun a threfn y dysgu ar-lein
- Crybwyllodd 14% well mynediad i’r darlithwyr
- Crybwyllodd 14% ddysgu ar-lein mwy difyr a rhyngweithiol
- Crybwyllodd 13% fwy o hyfforddiant a chymorth gyda sgiliau a thechnoleg ddigidol
- Crybwyllodd 8% fwy o gymorth gyda materion lles
- Crybwyllodd 8% well mynediad i adnoddau a deunyddiau
- Crybwyllodd 6% well darpariaeth ddigidol
Beth oedd barn y myfyrwyr am y gefnogaeth a gawsant i ddysgu ar-lein?
Pingback: Fforymau Academi 2021-22 | Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu