Mae’r Polisi E-gyflwyno a ddiweddarwyd wedi’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwella Academaidd. Gallwch ddarllen y polisi wedi’i ddiweddaru ar ein Tudalennau E-gyflwyno.
Diben y polisi wedi’i ddiweddaru oedd sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’n Polisi Cipio Darlithoedd a rhoi gwell eglurder am ei gwmpas a’r gofynion gan staff a myfyrwyr.
Un newid mawr a fydd yn effeithio ar greu mannau cyflwyno Turnitin yw cyflwyno polisi sy’n rhoi dewis i’r myfyriwr gyflwyno nifer o weithiau cyn y dyddiad cau, a hefyd gweld eu hadroddiad gwreiddioldeb yn Turnitin. Wrth greu’r man cyflwyno yn Turnitin, dewiswch y gosodiadau canlynol:
- Creu Adroddiadau Tebygrwydd i Fyfyrwyr – Ar unwaith (gellir arysgrifennu tan y Dyddiad Dyledus)
- Caniatáu i fyfyrwyr weld Adroddiadau Tebygrwydd – Ie
Mae’r polisi wedi’i ddiweddaru’n amlinellu:
- Cwmpas yr E-gyflwyno a’r E-adborth
- Sut mae ein technolegau E-gyflwyno’n defnyddio eich data chi a’ch myfyrwyr
- Awgrymiadau ar gyfer cyflwyno gwaith yn electronig, cynnwys dyddiadau cau, rhoi cyfle i’r myfyrwyr ymarfer cyflwyno.
- Graddio a disgwyliadau adborth
- Cyflwyno traethodau hir yn electronig
- Cyfnodau Cadw
- Hawlfraint
- Sut yr ymdrinnir â methiannau TG
- Cyfarwyddyd hygyrchedd i staff a myfyrwyr
- Y gefnogaeth sydd ar gael
Mae’n ein tudalen E-gyflwyno’n amlinellu’r holl gymorth a’r hyfforddiant sydd ar gael i staff ar e-gyflwyno. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch sut i ddefnyddio’r offer hyn anfonwch e-bost atom ar (eddysgu@aber.ac.uk).