Shwmai bawb, Hector ydw i, myfyriwr ar fy mlwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth yn astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol a’r Newid yn yr Hinsawdd. Rwy’n gyffrous i gael ymuno â thîm yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (yr Uned) am dair wythnos ar gyfer y Gynhadledd Addysgu Flynyddol 2021.
Cyn dechrau ar gwrs gradd yn Aberystwyth, bûm yn Weithiwr Cymorth i elusen Leonard Cheshire. Prif feysydd fy niddordebau yw datblygu cynaliadwy, gwleidyddiaeth y newid yn yr hinsawdd, a gwaith elusennol. Rwyf wedi gwirfoddoli deirgwaith gyda’r elusen datblygu cynaliadwy a arweinir gan ieuenctid, sef Raleigh International yn Nepal a Chosta Rica, yn rhan o’r rhaglenni ‘Expedition’ a’r Gwasanaeth Dinasyddion Rhyngwladol (International Citizen Service) a noddir gan y Llywodraeth. Rydw i’n credu’n gryf yn Amcanion Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig 2030 ac wastad yn chwilio am ffordd newydd o gyfrannu iddynt a’u cynorthwyo. Fel un o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth rwy’n aelod brwd o glwb Cerdded Aber ac fe fydda i’n cymryd hyfforddiant Arweinwyr Mynydd dros yr haf er mwyn gallu arwain teithiau i’r gymdeithas yn y dyfodol.
Yn ddiweddar rydw i wedi gweithio fel Stiward Zoom i Gynhadledd Flynyddol y Gymdeithas Addysg Wyddonol. Fe wnes i fwynhau hynny’n fawr iawn felly pan welais i’r cyfle i ennill mwy o brofiad mewn swydd debyg gyda’r Uned, fe wnes gais amdani. Mae’r lleoliad yn rhan o raglen AberYmlaen 2021. Fy ngwaith fydd cynnig golwg o safbwynt myfyriwr ar yr amrywiol sgyrsiau a draddodir yn y gynhadledd. Trwy wneud lleoliad gyda’r Uned, rwy’n gobeithio datblygu fy sgiliau trefnu a dadansoddi ymhellach. Hefyd rydw i eisiau parhau i ennill profiad gwaith ymarferol a pherthnasol, ac mae’r lleoliad hwn yn gymorth gyda hyn.
Rwy’n teimlo fel myfyriwr nad ydyn ni byth yn sylweddoli’n union faint o waith a meddwl sy’n mynd i mewn i bob agwedd ar ein profiad o ddysgu, ac yn y cyfnod a dreuliais yn yr Uned mae hyn wedi dod yn hynod amlwg wrth weld yr holl waith gwych a wneir ganddynt. Mae gennym ddewis gwych ac eang o sgyrsiau i’w cynnig yn y gynhadledd eleni. Os nad ydych wedi gwneud hynny, cofiwch archebu eich lle, dydy hi ddim yn rhy hwyr! Gobeithio y caf eich gweld yno!