Er bod darpariaeth ein huned yn canolbwyntio ar gefnogi offer craidd megis Blackboard, Turnitin, Panopto ac MS Teams, mae’r rhestr o’r meddalwedd sydd ar gael i staff PA yn llawer hirach.
Yn ddiweddar rydym wedi prynu meddalwedd pleidleisio’r Brifysgol – Vevox a all fod yn ychwanegiad ardderchog i’r offer yr ydych yn eu defnyddio eisoes. Yn ystod y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol (archebu lle ar y gynhadledd)) bydd ein rheolwr cyfrif Vevox, Joe Probert yn egluro sut y gellir defnyddio Vevox ar gyfer gweithgareddau dysgu. Ddydd Mercher, byddwn hefyd yn cael cyfle i ymuno â gweminar ar sut i ddefnyddio Vevox yn eich ystafell ddosbarth hybrid. Os hoffech weld sut mae Vevox wedi cael ei ddefnyddio gan sefydliadau eraill, gallwch hefyd edrych ar yr astudiaethau achos hyn.
Offer arall yr ydym wedi ysgrifennu amdano o’r blaen yw Padlet sy’n rhad ac am ddim ac yn cael ei ddefnyddio’n eang ar draws y sector. Edrychwch ar ein blogbost blaenorol sy’n cynnwys rhai syniadau ar sut y gallai gael ei ddefnyddio i addysgu. Mae yna hefyd recordiad o gyflwyniad ar Padlet gan Danielle Kirk a gyflwynwyd yn ystod y 7fed Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol.
Yn seiliedig ar ddarganfyddiadau’r Arolwg Mewnwelediad Digidol rydym hefyd wedi cyhoeddi rhestr o offer digidol ac apiau defnyddiol ar gyfer dysgu. Efallai yr hoffech argymell y rhain i’ch myfyrwyr drwy rannu’r neges hon â hwy neu eu cyfeirio at offer penodol a fydd yn eu helpu gyda’r hyn y maent ei angen.
Os ydych chi’n penderfynu defnyddio unrhyw feddalwedd trydydd parti ar gyfer dysgu ac addysgu, mae yna rai ystyriaethau i’w gwneud i’ch cadw chi a’ch myfyrwyr yn ddiogel ar-lein.
Gweler: Defnyddio Meddalwedd Trydydd Parti ar gyfer Dysgu ac Addysgu
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch defnyddio meddalwedd wrth addysgu, cysylltwch â ni ar lteu@aber.ac.uk.