Mae Hanna Binks, o Adran Seicoleg, wedi ennill Gwobr Cwrs Eithriadol am fodiwl PS11320: Introduction to Research Methods in Psychology. Cymeradwyodd y panel y modiwl hwn oherwydd cynllun arloesol ei ddull asesu a’r gefnogaeth, y deunyddiau dysgu clir a drefnwyd yn rhesymegol, a chynnig amryw ffyrdd i fyfyrwyr gael bod yn rhan o’r gweithgareddau dysgu.
Yn ogystal, cafodd y modiwl canlynol statws Canmoliaeth Uchel:
- Martine Garland o Ysgol Fusnes Aberystwyth am fodiwl AB27120: Marketing Maangement
- Rhianedd Jewell o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd am fodiwl CY10920: Trafod y Byd Cyfoes twy’r Gymraeg
- Prysor Mason Davies o Ysgol Addysg am fodiwl ED30620: Children’s Rights
- Mary Jacob o’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu am fodiwl PDM0530: Action Research and Reflective Practice in HE
Mae’r amrywiaeth eang o ddulliau dysgu a welir yng ngheisiadau eleni yn adlewyrchiad o’r gwaith arloesol sy’n digwydd ym mhob rhan o’r sefydliad.
Nod y Wobr Cwrs Eithriadol, a sefydlwyd saith mlynedd yn ôl, yw rhoi cydnabyddiaeth i’r arferion dysgu gorau. Mae’n rhoi cyfle i aelodau staff rannu eu gwaith gyda’u cydweithwyr, gwella eu modiwlau presennol ar Blackboard, a chael adborth er mwyn gwella.
Caiff modiwlau eu hasesu ar draws 4 maes: cynllun y cwrs, rhyngweithio a chydweithio, asesu, a chymorth i ddysgwyr. Mae natur y wobr, sy’n seiliedig ar hunanasesiad, yn rhoi cyfle i’r aelodau staff ystyried eu cyrsiau a gwella agweddau ar eu modiwlau cyn i banel asesu bob cais yn erbyn y cyfarwyddyd.
Hoffai’r panel a’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ddiolch i’r holl ymgeiswyr am yr amser a’r ymdrech a roddwyd i’r ceisiadau ac i’r modiwlau eleni.
Rydym yn edrych ymlaen at gael mwy o geisiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf a llongyfarchiadau mawr i enillwyr gwobr eleni.