Ar Ddydd Iau 25ain o Fawrth, bydd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal yr ail o Gynadleddau Byr yr Academi eleni, a hynny ar-lein. Y thema fydd ‘Ymgorffori Lles yn y Cwricwlwm’, a byddwn yn ymchwilio i’r cysylltiadau rhwng lles a dysgu a sut y gall hyn helpu i gynyddu llwyddiant myfyrwyr a staff.
Y tri phrif edefyn ar gyfer y Gynhadledd Fer fydd:
- Adnabod y rhwystrau o ran lles myfyrwyr
- Meithrin gwytnwch mewn myfyrwyr
- Annog myfyrwyr i ffynnu
Rydym yn chwilio am gynigion gan staff, cynorthwywyr addysgu ôl-raddedig a myfyrwyr, i roi cyflwyniadau, arddangosiadau, gweithdai a thrafodaethau ar eu harferion presennol o ran datblygu lles yn y cwricwlwm. Hyd yn oed os nad yw eich cynnig yn cyd-fynd yn union â’r edefynnau uchod, croesawn gynigion perthnasol eraill.
Os hoffech gyflwyno cynnig i’r Gynhadledd Fer, llenwch y ffurflen ar-lein hon cyn Dydd Gwener 26 Chwefror.
Gallwch gofrestru i fynychu’r Gynhadledd Fer drwy glicio ar y ddolen hon. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at udda@aber.ac.uk.