Mae’r Fforwm Academi yn rhoi cyfle i rannu arferion da o ran dysgu ac addysgu. Mae’r Fforwm yn agored i aelodau o gymuned y Brifysgol: mae croeso i staff dysgu, tiwtoriaid uwchraddedig, staff cynorthwyol, a myfyrwyr. Bydd pob fforwm yn ystod 2020/21 yn cael ei gynnal ar-lein a gallwch sicrhau eich lle drwy’r Wefan Hyfforddi Staff.
Y ddau Fforwm fydd yn rhedeg yn ystod y misoedd nesaf yw:
27.01.2021 (15:00-16:30): How can I plan online and in-person activities?
Yn y sesiwn hon byddwn yn trafod dulliau gwahanol o gynllunio a chynnal sesiynau mewn tri fformat gwahanol: ar-lein, wyneb yn wyneb a chyfunol. Fel rhan o’r sesiwn, bydd angen i chi gydweithio mewn grŵp i gynllunio gweithgaredd ar gyfer un math o ddarpariaeth. Yn dilyn y gwaith grŵp byddwn yn trafod y gwahanol ddulliau a ddefnyddiwyd a’u haddasrwydd ar gyfer fformat y gwahanol sesiynau. Gyda’n gilydd byddwn yn ceisio adnabod pa ddulliau sy’n hanfodol ar gyfer addysgu yn effeithiol mewn sesiynau ar-lein, wyneb yn wyneb a chyfunol.
19.02.2021 (10:00-11:30): How can I make my teaching more inclusive?
Yn y sesiwn hon, byddwn yn trafod y manteision a’r heriau sy’n ein hwynebu wrth wneud addysgu’n fwy cynhwysol yn y brifysgol, a byddwn yn archwilio’r syniadau hyn drwy gyfres o senarios grŵp. Bydd aelod o’r tîm Cymorth i Fyfyrwyr yn ymuno â ni er mwyn rhoi trosolwg cryno o ddemograffeg myfyrwyr yn y Brifysgol; strategaethau sydd ar waith i ddelio â materion sy’n ymwneud â chynwysoldeb; a rhai awgrymiadau ymarferol ar sut y gallech wneud eich addysgu’n fwy cynhwysol.
Byddwn hefyd yn cynnal Fforymau Academi eraill drwy gydol y flwyddyn academaidd, gan gynnwys:
24.04.2021 (14:00-15:30): How can I embed wellbeing into the curriculum?
28.04.2021 (14:00-15:30): Preparing students for assessments
24.05.2021 (14:00-16:00): Reflections on this year’s Academy Forum
Gobeithio y gallwch ymuno â ni ar gyfer y fforymau. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau (udda@aber.ac.uk).