Yn ddiweddar cysylltodd aelod o staff â ni i ofyn am gyngor ynghylch defnyddio rhestrau gwirio yn Blackboard. Tynnwyd ein sylw at nodwedd ddefnyddiol o’r enw Tasgau. Rydym eisoes wedi blogio am ffyrdd o olrhain cynnydd myfyrwyr yn Blackboard drwy ddefnyddio’r nodweddion ‘adolygu’ a ‘rhyddhau addasol’ sy’n eich galluogi i greu llwybrau dysgu rhyngweithiol i fyfyrwyr yn eich modiwl.
Mae’r nodwedd Tasgau, sydd ar gael yn yr Offer Cwrs ar y panel Rheoli Cwrs, yn eich galluogi i greu Tasgau Cwrs, gosod eu blaenoriaeth, dyddiad cyflwyno ac olrhain nifer y myfyrwyr sydd wedi dechrau, sydd wrthi’n cwblhau neu sydd wedi cwblhau’r tasgau.


Pan fyddwch wedi creu eich tasgau cwrs gallwch rannu’r nodwedd Tasgau gyda’r myfyrwyr mewn dwy ffordd. Gallwch naill wneud Tasgau’n weladwy i’r myfyrwyr yn y tab Offer ar gwrs eich modiwl:

Neu gallwch ychwanegu dolen i’r Tasgau yn unrhyw le yn eich cwrs (Offer > Mwy o Offer). Ein hawgrym ni fyddai ei leoli yn Gwybodaeth am y Modiwl.
Wrth gyflwyno Tasgau i’ch myfyriwr gwnewch yn siŵr eich bod yn gosod disgwyliadau clir:
- Pa mor aml y dylai myfyrwyr gadw llygaid am dasgau newydd?
- Pa mor aml fyddwch chi’n gwirio am gynnydd?
- Beth yw diben defnyddio’r nodwedd? Byddwch yn eglur ynghylch pa mor agos y byddwch chi’n monitro eu cynnydd.
Fel y soniwyd eisoes, bydd hyn yn eich galluogi i weld sut mae myfyrwyr yn ymgysylltu â’r gweithgareddau yn eich modiwlau, ond hefyd yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr eu hunain olrhain eu cynnydd eu hunain a chadw ar ben eu llwyth gwaith. Gall myfyrwyr weld eu tasgau a’u gosod fel ‘heb ddechrau’ ‘ar y gweill’ neu ‘cwblhawyd’ drwy glicio ar y saeth llwyd am i lawr.

Fel bob amser, rydym yn eich annog i roi cynnig ar y nodwedd hon yn eich modiwlau ymarfer (cewch hyd iddi o dan y tab Fy Sefydliad) a chysylltwch â ni os oes gennych chi unrhyw ymholiadau: lteu@aber.ac.uk