Er mwyn cefnogi myfyrwyr yn y flwyddyn arbennig o heriol hon, fe wnaethon ni greu Canllaw Cyflym i Lwyddiant Myfyrwyr gydag awgrymiadau ar reoli amser, yr arferion astudio mwyaf effeithiol, a sut i’ch ysbrydoli’ch hun i ddal ati. Gofynnwn i chi rannu’r fersiwn ryngweithiol hon o’r canllawiau â’ch myfyrwyr (sydd hefyd yn gydnaws â darllenwyr sgrin).
Hunandrefniant Effeithiol
Mae’n bosib eich bod chi wedi clywed y cyngor hwn droeon – mae’n hanfodol eich bod chi’n trefnu eich amser yn y brifysgol. Bydd yn golygu bod modd i chi fwynhau eich addysg a chadw cydbwysedd rhwng eich astudiaethau a’ch bywyd cymdeithasol.
1. Amserlen, nid rhestr o bethau i’w gwneud
Gwnewch amserlen wythnosol fanwl ar gyfer:
- mynychu eich holl sesiynau byw gan gynnwys amser paratoi
- gwylio recordiadau Panopto a mynd drwy’r holl weithgareddau ar Blackboard
- gweithio ar eich aseiniadau
- gweld eich ffrindiau, gwneud ymarfer corff a gorffwys!
2. Twyllresymeg Cynllunio
Byddwch yn ymwybodol o Dwyllresymeg Cynllunio – mae’n debyg bydd angen mwy o amser nag ydych chi’n ei feddwl!
Cofiwch fod yr amserlen yno i’ch helpu chi, nid i’ch rhoi dan bwysau. Gall ei dilyn fod yn anodd, felly meddyliwch am ei phwrpas a’r hyn y bydd yn eich helpu i’w gyflawni. Os nad yw’n gweithio, newidiwch hi!
3. Dod o hyd i’ch dull
Mae amrywiol ddulliau cynllunio posib, felly dewiswch yr un sy’n gweithio i chi.
- Gallai calendr papur traddodiadol weithio orau i’r rhai sy’n gweld ysgrifennu’n fuddiol.
- Os mai rhywbeth gweledol sy’n debygol o weithio orau i chi, gallai fod yn syniad da cael cynllunydd ar y wal.
- Yn olaf, mae gan bob un o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth galendr Outlook sy’n ei gwneud yn bosib i chi gategoreiddio tasgau ac mae wedi ei gydamseru â’ch amserlen chi!
Strategaethau Astudio Effeithlon
Mae ymchwil gwybyddol wedi canfod amrywiol ffyrdd o ddysgu’n fwy effeithiol. Er y gallai dim ond ail-ddarllen eich nodiadau fod yn haws, profwyd bod y strategaethau hyn yn gweithio’n well ac yn arbed llawer o amser i chi!
1. Gwneud nodiadau effeithiol
Mae sawl dull allai eich helpu i wneud nodiadau sy’n fwy defnyddiol i chi. Un o’r dulliau mwyaf poblogaidd yw system nodiadau Cornell.
2. Gwnewch y deunydd yn gofiadwy
Bydd yn haws i chi gofio’r deunydd os byddwch yn ystyried y canlynol:
- Ymhelaethu ar y wybodaeth drwy ofyn cwestiynau i chi eich hun, megis ‘sut?’ a ‘pham?’, a’i chysylltu â phethau rydych yn eu gwybod yn barod.
- Rhowch enghreifftiau o’ch profiadau eich hun.
- Defnyddiwch godio deuol – darllenwch ac yna dadansoddwch ddarluniau eglurhaol ac yna’r ffordd arall (dadansoddi cyn darllen)!
3. Strategaethau ymarfer
Mae yna dair strategaeth ymarfer a fydd yn eich helpu i weithio’n fwy effeithiol:
- Ymarfer adalw: galw i gof, e.e. defnyddio cardiau fflach!
- Ymarfer rhyngddalennog: neidio o bwnc i bwnc a newid trefn y pynciau a astudir.
- Ymarfer gwasgarog: gadael ychydig ddyddiau rhwng cyfnodau o adolygu deunydd.
Dod o hyd i ysgogiad
Mae teimlo diffyg ysgogiad yn beth cyffredin, yn enwedig ar hyn o bryd, ond mae llawer o bethau penodol y gallwch eu gwneud er mwyn ysgogi eich hun.
1. Eich meddyliau
Cynnal meddylfryd twf: gallwch ddatblygu eich deallusrwydd, eich sgiliau a’ch gallu trwy waith caled a strategaethau da.
Ceisiwch ofyn i chi eich hun pam eich bod chi yn y brifysgol. Penderfynwch pa nod rydych chi’n ceisio ei gyflawni a chadwch y pwrpas yn eich cof. Crëwch ‘fwrdd breuddwydion’, a’i ystyried a’i ddiweddaru’n rheolaidd er mwyn canolbwyntio ar eich targedau!
2. Eich amgylchedd
Pa amgylchedd sy’n eich ysgogi?
- Mae’n well gan rai pobl weithio mewn grwpiau, os yw hynny’n wir i chi ceisiwch drefnu sesiwn astudio rithiol gyda’ch cyd-fyfyrwyr.
- Os yw’n well gennych chi dawelwch, ewch i lyfrgell.
- Os mai arogl coffi a sŵn cefndirol sy’n gweithio i chi, efallai mai’r caffi lleol fyddai’r dewis gorau!
3. Eich gweithredoedd
Mae yna gamau penodol y gallwch chi eu cymryd hefyd er mwyn cael mwy o ysgogiad:
- Mae’r ffordd rydych chi’n dechrau ar eich diwrnod yn bwysig, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw at drefn iach a rheolaidd yn y boreau.
- Bydd bwyta siwgr, patrymau cysgu anghyson a diffyg ymarfer corff yn amharu ar eich gallu i ganolbwyntio.
- Rhannwch y tasgau’n rhai llai: gall mynd i’r afael â thasgau mawr fod yn llethol. Ceisiwch ganolbwyntio ar un rhan o’r dasg ar y tro. Efallai y byddai techneg Pomodoro yn un fuddiol i chi!