Mae myfyrwyr wedi bod yn defnyddio cryn dipyn ar y rhaglen Panopto, hyd yn oed cyn i’r Brifysgol symud i ddarparu addysg yn rhannol ar-lein. Mae myfyrwyr eleni’n dibynnu mwy fyth ar gynnwys sydd wedi’i recordio ymlaen llaw. Gall hwyluso dysgu gweithredol drwy ddefnyddio deunyddiau cydamserol, megis darlithoedd sydd wedi’u recordio, fod yn heriol. Rydym eisoes wedi rhannu’r canllaw i fyfyrwyr ar ddefnyddio darlithoedd sydd wedi’u recordio, ac rydym wedi amlinellu chwe strategaeth allweddol i’w helpu nhw i wneud y mwyaf o’r recordiadau. Yn un o’n negeseuon blaenorol, rhoddwyd sylw hefyd i ddefnyddio adnoddau sgrindeitlo a chwisiau Panopto, sy’n gwneud eich recordiadau yn fwy hygyrch a rhyngweithiol. Hoffem sôn wrthych heddiw am ddau ffwythiant arall yn Panopto, sef ‘Discussion’ a ‘Notes’.
Notes
Cydnabuwyd bod cymryd nodiadau yn un o’r strategaethau allweddol sy’n galluogi myfyrwyr i ddysgu’n fwy effeithiol â darlithoedd sydd wedi’u recordio. Mae Panopto yn hwyluso hyn. Mae Panopto yn galluogi defnyddwyr i gymryd nodiadau o’r fideo ar yr un dudalen wrth i’r recordiad chwarae. Bydd y nodiadau’n ymddangos â stamp amser nesaf at y darn cyfatebol o’r fideo. Yn ogystal â hynny, gallwch chwilio drwy eich nodiadau a’u lawrlwytho. Mae’r ffwythiant hwn hefyd ar gael os yw’r sesiwn yn cael ei chyflwyno’n fyw.
Bydd y nodiadau y byddwch yn eu cymryd dan eich enw defnyddiwr chi yn breifat bob tro, ond gallwch newid y gosodiadau i ‘cyhoeddus’ a chreu ‘sianeli’ a fydd yn eich galluogi i gymryd nodiadau o fewn grŵp penodol. I ddysgu rhagor am gymryd nodiadau, ewch i How to Take Notes.
Discussion
Mae’r ffwythiant ‘Discussion’ yn galluogi myfyrwyr i bostio cwestiynau a sylwadau y gall myfyrwyr eraill a’r darlithydd eu gweld. Yn yr un modd â’r ‘Notes’, bydd gan bostiadau’r myfyrwyr yn y ffwythiant ‘Discussion’ stampiau amser a fydd yn galluogi pobl eraill i weld yr union ddarn o’r ddarlith y mae’r postiadau yn cyfeirio ato. Yna, gall eraill ymateb i’r postiad a gall y sawl a greodd y recordiad ddileu, golygu a lawrlwytho’r drafodaeth.
Mae hwn yn offeryn rhagorol ac mae’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ofyn cwestiynau wrth iddynt wylio’r ddarlith, yn union fel petaent mewn darlith wyneb yn wyneb. Gallech eu hannog i ddefnyddio’r ffwythiant ‘Discussion’ i bostio’u cwestiynau a’u sylwadau a’u trafod mewn sesiwn ar-lein gydamserol. I gael rhagor o wybodaeth ewch i How to Use Discussion in Videos.