Roedd ail sesiwn y Fforwm Academi eleni yn canolbwyntio ar greu podlediadau yn Panopto. Roedd y drafodaeth yn pwysleisio potensial unigryw podlediadau i greu ymdeimlad o gysylltiad. Mae podlediadau, sy’n seiliedig fel arfer ar fonologau anffurfiol, cyfweliadau a thrafodaethau, yn rhoi cyfle i’w defnyddwyr wrando ar fyfyrdodau a sgyrsiau heb eu strwythuro. Fel yr eglurir gan Street (2014) mae adrodd storïau’n creu partneriaeth rhwng y dychymyg a’r cof, gan sbarduno ymateb unigryw a phersonol iddo (dyfynnir yn McHugh, 2014, t.143). Gall podlediadau fod yn gwmni inni; yn wahanol i fideos neu destun ysgrifenedig, gallwn wrando arnynt wrth barhau gyda gweithgareddau dyddiol eraill.
Mae’r nodweddion unigryw hyn yn golygu bod potensial mawr ar gyfer defnyddio podlediadau mewn addysg. Creodd Prifysgol Caergrawnt gasgliad o bodlediadau byr ar amrywiol feysydd pwnc. Defnyddir podlediadau hefyd gan addysgwyr unigol. Mae gan Ian Wilson, Uwch Ddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol York St John, gyfres o bodlediadau i gefnogi dysgwyr ar leoliadau. Roedd ei bodlediad yn canolbwyntio ar roi cyfarwyddiadau i fyfyrwyr ar yr hyn y dylent fod yn ei wneud yr wythnos ganlynol, yn ateb unrhyw gwestiynau oedd ganddynt a rhoi cyngor i’w hysgogi. Er nad podlediadau o reidrwydd yw’r ffordd orau o gyflwyno deunydd dysgu allweddol, fel y trafodwyd yn ystod sesiwn y Fforwm Academi, gall ategu eich arferion dysgu presennol drwy feithrin myfyrdod, gwella ymroddiad y dysgwr a meithrin ymdeimlad o gymuned.
Mae sawl ffordd o ddefnyddio podlediadau mewn addysg; o ddefnyddio podlediadau sy’n bod yn barod ym maes eich pwnc i greu eich podlediadau eich hun neu ofyn i fyfyrwyr greu un. Mae modd defnyddio Panopto, meddalwedd Cipio Darlithoedd y Brifysgol, i recordio podlediadau yn ogystal â darlithoedd. Pe byddech yn recordio sgwrs, gellir gwneud hyn yn rhwydd ar MS Teams. Mae’r daflen hon ar Defnyddio Podlediadau i Ddysgu yn rhoi mwy o gyfarwyddiadau ar ddefnyddio Panopto ac MS Teams i greu podlediadau. Mae’n amlinellu rhai enghreifftiau o arferion da hefyd ac yn cynnig awgrymiadau defnyddiol er mwyn creu, cynllunio a rhyddhau podlediadau.
Rydym ar gael, wrth gwrs, i roi cymorth i chi ddod o hyd i’r ffordd orau o ddefnyddio’r offeryn hwn wrth ddysgu. lteu@aber.ac.uk