Anogir staff addysgu i ddarparu mynediad i sesiynau addysgu ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn gallu mynychu dosbarth wyneb yn wyneb. Mae’r canllawiau isod yn rhoi rhestr wirio gam wrth gam o’r holl bethau sydd angen eu gwneud er mwyn cynnal sesiwn effeithiol ar yr un pryd i fyfyrwyr sy’n bresennol yn y dosbarth a’r rhai hynny sy’n ymuno â’r dosbarth drwy MS Teams.
Cyn y sesiwn:
- Creu cyfarfod Teams ar gyfer y sesiwn gan ddefnyddio offeryn Cyfarfodydd Teams ar Blackboard.
- Rhoi gwybod i fyfyrwyr am y posibilrwydd o ymuno â’r sesiwn drwy Teams a darparu canllawiau addas iddynt ar sut i wneud hynny.
Sylwer: Bydd angen gwneud hi’n glir bod y ddarpariaeth ar-lein yn unig ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn gallu mynychu’r sesiwn yn uniongyrchol yn y dosbarth, a bod disgwyl i bob myfyriwr sy’n iach, ac nad yw’n hunanynysu, i fynychu’r sesiynau wyneb yn wyneb. Bydd presenoldeb myfyrwyr yn ystod sesiynau wyneb yn wyneb yn cael ei fonitro’n ofalus.
- Adolygu’r canllawiau ystafell ddysgu, a gwylio’r clipiau fideo yn dangos sut mae’r ystafell ddysgu ar-lein yn gweithio:
Arddangosiadau Ystafelloedd Dysgu
Pan fyddwch yn yr ystafell ddysgu:
- Agorwch y cyfarfod Teams rydych chi wedi’i greu
- Gwiriwch fod eich meicroffon yn gweithio: sut mae newid y gosodiadau sain mewn cyfarfod Teams?
- Agorwch eich cyflwyniad PowerPoint yn Teams a rhannu eich sgrin: sut i rannu’r PowerPoint gyda’r rhai sy’n ymuno drwy MS Teams a’r rhai yn yr ystafell ddysgu.
- Dechreuwch recordio eich cyfarfod Teams (os yw’n briodol): Canllawiau ar recordio seminarau a gweithgareddau o fewn Teams.
- Llusgwch eich ffenestr Teams i Sgrin 2 (yr un heb y gwe-gamera), a bydd hyn yn ei arddangos ar y taflunydd – drwy wneud hyn bydd y myfyrwyr sy’n ymuno â’r cyfarfod dros MS Teams a’r rhai sy’n bresennol yn y dosbarth yn gallu gweld y sleidiau PowerPoint.
- Gosodwch eich sleidiau PowerPoint ar Sgrin 1 – dim ond chi fydd yn gallu gweld y sgrin hon, a byddwch yn gallu gweld eich nodiadau cyflwyno.
- Os bydd unrhyw broblemau technegol yn codi, cysylltwch â’r Tîm Cymorth Ystafelloedd Dysgu.
Ar ôl i’r sesiwn ddechrau:
- Rhowch wybod i’ch myfyrwyr o fformat y sesiwn.
- Anogwch y myfyrwyr sy’n ymuno drwy MS Teams i droi eu meicroffonau a’u camerâu ymlaen ac i gymryd rhan yn y drafodaeth yn hytrach na theipio yn y blwch chat. Gwnewch hi’n glir na fyddwch chi’n monitro’r chat trwy gydol y sesiwn, felly os oes unrhyw gwestiynau ganddynt, mae’n rhaid iddynt eu gofyn yn uniongyrchol.
- Gwnewch yn siŵr eu bod yn ymwybodol y bydd y chat yn weladwy i bawb ac yn cael ei gadw yn Teams, felly ni ddylent bostio unrhyw sylw na fyddent yn gyfforddus yn ei ddweud yn yr ystafell ddysgu.
- Ceisiwch annog y myfyrwyr i gyfrannu – gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ceisio cynnal y drafodaeth gyda’r holl fyfyrwyr, yn y dosbarth a thros MS Teams, ar yr un pryd.
Ar ôl y sesiwn:
- Gofynnwch i’ch myfyrwyr yn y dosbarth a thros MS Teams sut aeth y sesiwn o’u safbwynt hwy, a gofynnwch a oes ganddynt unrhyw awgrymiadau am sut y gallai’r sesiwn gael ei addasu er mwyn ei wella ar gyfer y dyfodol.
- Cymerwch amser i fyfyrio ar y sesiwn, a meddyliwch am sut y gallech chithau addasu unrhyw agwedd yn unol â’ch profiad.
- Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â udda@aber.ac.uk
Mae nifer o staff academaidd eisoes yn rhedeg sesiynau addysgu cyfunol yn llwyddiannus. Fodd bynnag, mae’r fformat hwn o redeg sesiynau cyfunol yn dal yn newydd iawn i’r mwyafrif. Cymerwch amser i fyfyrio ar y broses, i addasu pan fo angen a pheidiwch ag oedi gofyn i ni am gymorth.