Cyngor ynghylch monitro’r blwch sgwrs mewn sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb

Distance Learner BannerYn y blogbost hwn, byddwn yn edrych ar rai awgrymiadau ar gyfer monitro blwch sgwrs Teams pan fo pobl yn bresennol yn yr ystafell yn ogystal ag ar-lein.

Bydd swyddogaeth y blwch sgwrs yn cael ei sefydlu yn sgil y gwaith o gynllunio gweithgaredd y bydd pawb yn ei wneud ar yr un pryd, a’r hyn yr hoffech chi i’ch myfyrwyr allu ei wneud ar ôl cymryd rhan. Gofynnwch i chi’ch hun: beth fydd swyddogaeth y blwch sgwrs yn eich sesiwn ddysgu?

Er enghraifft, ydych chi eisiau defnyddio’r blwch sgwrs fel ffordd i’r myfyrwyr sy’n ymuno ar-lein fynegi eu syniadau? Ydych chi eisiau ei ddefnyddio fel cyfle iddynt sgwrsio gyda’i gilydd? Ydych chi eisiau i’r cyfraniadau a wneir yn y blwch sgwrs gael eu rhannu gyda’r rhai sy’n bresennol yn yr ystafell?

Yn ogystal â hynny, dylech feddwl am sut rydych chi’n gofyn i’r myfyrwyr sydd ar-lein gymryd rhan yn y sesiwn. Ydych chi eisiau iddynt, er enghraifft, ddefnyddio’r botwm codi llaw er mwyn tynnu eich sylw? Neu, ydych chi eisiau iddynt ddefnyddio’r blwch sgwrs yn unig.

Ar ôl i chi benderfynu ar swyddogaeth y blwch sgwrs yn y sesiwn, a’r ffordd yr hoffech i’r rhai sy’n mynychu ei ddefnyddio, efallai yr hoffech chi ddilyn y cyngor gan Eric Gonzales ac Amber Heck (2020):

  1. Sefydlwch rywfaint o reolau sylfaenol
  2. Pennwch gymedrolwr i fonitro’r blwch sgwrs
  3. Neilltuwch amser ar gyfer cwestiynau yn ystod eich cyflwyniad
  4. Peidiwch â phoeni os nad oes modd i chi roi sylw i’r holl gwestiynau

Bydd rheolau sylfaenol a osodir ar gyfer y blwch sgwrs yn ddibynnol ar swyddogaeth y sgwrs yn eich sesiwn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i’ch myfyrwyr sut i ymgymryd â’r gweithgareddau.

Os oes modd, bydd pennu cymedrolwr yn help mawr er mwyn delio â chwestiynau gan y rhai sy’n ymuno ar-lein. Hyd yn oed gyda chymedrolwr, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi sylw iddynt bob hyn a hyn. Gallech ofyn i fyfyriwr arall gymedroli’r blwch sgwrs.

Bydd neilltuo amser i roi sylw i’r blwch sgwrs ac i edrych ar y sylwadau wrth gynllunio eich sesiwn yn help mawr i sicrhau bod modd i’r rhai sy’n mynychu o bell gymryd rhan yn y drafodaeth a thrafod y deunydd. Mae’n bosib na fydd modd i’r rhai sy’n bresennol yn yr ystafell weld sylwadau’r rhai sy’n cymryd rhan o bell.

Peidiwch â phoeni os na fydd modd i chi roi sylw i’r holl gwestiynau yn y blwch sgwrs – ar ôl y sesiwn, bydd modd i chi weld y cwestiynau neu’r sylwadau sydd ar ôl yn y blwch. Bydd modd i’r rhai a fynychodd weld unrhyw sylwadau a gyfrannir i’r blwch ar ôl y sesiwn. Mae modd i’r rhai a fynychodd ddal i gyfrannu i’r sgwrs ar ôl y sesiwn hefyd.

Cyfeiriadau

Gonzales, E. B., & A. J. Heck. 2020. ‘Managing the Chat in Online Teaching: What we can learn from live streamers’. Faculty Focus: Online Education. Ar-lein: https://www.facultyfocus.com/articles/online-education/managing-the-chat-in-online-teaching-what-we-can-learn-from-live-streamers/. 7fed Hydref. Dyddiad cyrchu diwethaf: 12.10.2020. 

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*