Fy enw i yw Ania ac rwy’n un o’r tri Arbenigwr Dysgu Ar-lein sydd wedi ymuno â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu.
Efallai bod rhai ohonoch eisoes yn fy adnabod gan y bûm yn gweithio o’r blaen yn yr Adran Gwasanaethau Gwybodaeth fel Swyddog Cefnogi Cyfathrebu, Marchnata ac E-ddysgu. Wedi hynny, bûm yn rhan o’r Grŵp E-ddysgu lle bûm yn darparu cymorth technegol i staff ac yn goruchwylio’r arholiadau ar-lein, gan sicrhau bod popeth yn rhedeg yn llyfn. Gadewais Aberystwyth yn haf 2019 i ddilyn gradd meistr mewn Seicoleg Gadarnhaol Gymhwysol. Yn ystod fy ngradd, bûm hefyd yn gweithio i Undeb Myfyrwyr Prifysgol Anglia Ruskin fel Cydlynydd y Ganolfan Wirfoddolwyr.
Ni chredais erioed y byddwn yn cael cyfle i ailymuno â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu. Rwy’n hynod ddiolchgar am y cyfle i gydweithio â thîm mor gefnogol ac i gyfrannu at ymdrechion i ddatblygu rhagor ar y ddarpariaeth addysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth, sydd eisoes wedi cyrraedd safon ragorol. Mae ymroddiad a chreadigrwydd staff addysgu Prifysgol Aberystwyth wedi fy ysbrydoli drwy gydol fy nghyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth. Edrychaf ymlaen at ddysgu oddi wrth eich arbenigedd ac i gydweithio â phob un ohonoch i sicrhau bod ein myfyrwyr yn derbyn addysg ar-lein o ansawdd uchel. Gobeithiaf y gallaf dynnu ar ymchwil ym maes Addysg Gadarnhaol er mwyn taflu goleuni diddorol a thrawsnewidiol ar anghenion seicolegol sylfaenol myfyrwyr a’r hyn sy’n eu cymell i ddysgu. Mae’n gwbl amlwg y bydd y flwyddyn nesaf hon un heriol dros ben i fyfyrwyr ac i staff y Brifysgol fel ei gilydd, a gobeithiaf y gallaf ddarparu’r gefnogaeth a’r wybodaeth angenrheidiol er mwyn ichi ddatblygu addysg ar-lein sy’n gynaliadwy ac sy’n gydnaws â’ch dulliau chi a chydag anghenion eich myfyrwyr.
Edrychaf ymlaen at gwrdd â chi.
Mae croeso ichi gysylltu â mi os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu gwestiynau: aeu@aber.ac.uk
Ania