Gwahoddiad: Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth 2020

[:cy]Rydyn ni’n edrych ymlaen at Gynhadledd Dysgu ac Addysgu eleni a gynhelir ymhen ychydig llai na mis, rhwng 7-9fed Medi 2020.

Efallai eich bod wedi darllen y bydd y Gynhadledd eleni’n cael ei chynnal ar-lein trwy Teams, felly gallwch ymuno am gymaint neu gyn lleied o’r gynhadledd ag y dymunwch.

Gallwch lwytho’r rhaglen llawn ac archebu eich lle ar-lein.

Rydyn ni’n ddiolchgar i gael nifer o siaradwyr allanol eleni. Traddodir y ddarlith gyweirnod gan yr Athro Ale Armellini, a fydd yn sôn am ymgorffori dysgu cyfunol yn yr holl gyrsiau ym Mhrifysgol Northampton. Gallwch ddarllen mwy am y prosiect hwn ar we-ddalen Prifysgol Northampton.

Heblaw’r Athro Armellini, byddwn hefyd yn croesawu Dr Kate Lister o’r Brifysgol Agored a fydd yn sôn am ymgorffori lles yn y maes llafur. Yn ogystal â’i chyflwyniad, bydd Kate hefyd yn cynnig sesiwn galw heibio lle gallwch holi cwestiynau penodol am y strategaeth lles.

Ac yn olaf, bydd Gillian Fielding o Blackboard yn ymuno â ni i roi enghreifftiau o adnoddau y gellir eu defnyddio i ennyn diddordeb myfyrwyr mewn dysgu ar-lein.

Yn ogystal â’n siaradwyr allanol, bydd gennym hefyd gyflwyniadau a thrafodaethau gwych gan gydweithwyr o bob rhan o’r Brifysgol, a fydd yn rhoi awgrymiadau ymarferol a chyflwyno astudiaethau achos.

Cynhelir sesiynau ar y testunau isod:

  • Dysgu dosbarthiadau a phynciau ymarferol ar-lein
  • Rhith labordai
  • Ymgorffori cyflogadwyedd yn y maes llafur
  • Gwneud seminarau ar-lein yn rhyngweithiol
  • Dysgu a gynorthwyir gan gyfoedion
  • Rhagweld cyflawniadau academaidd
  • Pleidleisio yn y dosbarth
  • Asesiadau Fideo

A llawer mwy…

Gobeithio y gwelwn ni chi yno

Learning and Teaching Conference 2020 Logo

[:]

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*