- Gellir creu profion a chwisiau ar-lein i’ch myfyrwyr trwy ddefnyddio adnodd profion (Tests) Blackboard. Gallwch ddarparu profion i fod yn ddull ffurfiannol o asesu, yn ddull hunanasesu i fyfyrwyr, neu’n ddull mwy ffurfiol o asesu perfformiad myfyriwr. Yn ddiweddar, mae’r Uned Cyfoethogi Dysgu ac Addysgu wedi diweddaru ein canllaw ynglŷn â phrofion Blackboard, er mwyn cefnogi staff sy’n darparu gweithgaredd asesu ar-lein i fyfyrwyr. Pam defnyddio Profion Blackboard yn fy modiwl?
Manteision i Fyfyrwyr - Atgyfnerthu’r dysgu. Mae ymchwil wedi dangos bod profion a chwisiau yn adnoddau grymus i hybu dulliau o ddwyn ffeithiau i gof, i gynorthwyo wrth adolygu ac i wella’r dysgu.
- Adborth gwerthfawr. Gall profion Blackboard roi cyfleoedd ychwanegol ac amrywiol i fyfyrwyr i roi adborth.
- Darparu cynnwys o’r cyfryngau. Mae modd cynnwys clipiau fideo, delweddau a dolenni at recordiadau ac adnoddau allanol yn y cwestiynau a’r atebion.
Manteision i Staff - Mesur gwybodaeth myfyrwyr. Mae profion Blackboard yn ffordd effeithiol o fesur dirnadaeth a datblygiad myfyrwyr trwy gydol y cwrs, ac i ganfod unrhyw fylchau yn eu gwybodaeth.
- Marcio sydyn. Caiff y mwyafrif o’r cwestiynau eu marcio ar unwaith gan Blackboard a’u rhoi yn awtomatig yn y Grade Centre.
- Cronfeydd o gwestiynau i’w hailddefnyddio. Gellir creu cronfa o gwestiynau, y gellir dewis o’u plith ar gyfer aml brofion. Hefyd, gellir allforio cwestiynau a phrofion i’w defnyddio mewn modiwlau eraill.
Sut mae creu prawf yn Blackboard?
Dilynwch ein cyfarwyddyd ar greu prawf, ac yna gosod y prawf yn Blackboard. Profion Blackboard i Fyfyrwyr
Ar ôl ichi greu a gosod eich Prawf, rydym yn argymell eich bod yn rhoi ein canllawiau ar gymryd profion Blackboard i’ch myfyrwyr. Os bydd myfyriwr yn cael trafferthion wrth gymryd y prawf, efallai y bydd angen i chi glirio ymgais y myfyriwr fel y gall ailsefyll y prawf. Os hoffech ragor o wybodaeth o unrhyw fath am y broses neu os oes gennych gwestiynau penodol, cofiwch gysylltu â ni (eddysgu@aber.ac.uk). Os ydych yn bwriadu defnyddio’r profion ar gyfer asesu ffurfiol, cofiwch gysylltu â ni.