Yn sgil symud i ddysgu ar-lein, bwriad y blogbost hwn yw rhoi rhai syniadau i chi ynglŷn â sut i wneud eich Safle Cwrs Blackboard yn fwy rhyngweithiol i fyfyrwyr. Yn y gyntaf o’r gyfres hon o flogbostiadau, byddwn yn edrych yn benodol ar nodwedd o’r enw Rhyddhau Ymaddasol.
Mae symud i ddysgu ar-lein, os rhywbeth, yn dangos i ni fod Blackboard yn adnodd dysgu pwerus y gellir ei ddefnyddio am amrywiaeth eang o weithgareddau dysgu, nid dim ond fel lle i ddod o hyd i ddeunyddiau, gwylio darlithoedd, a chyflwyno aseiniadau. Un o’r elfennau allweddol wrth gynllunio dysgu ar-lein a digidol yw ystyried pa weithgareddau yr hoffech i’ch myfyrwyr eu gwneud yn ogystal â pha adnoddau y bydd eu hangen arnynt.
Un o’r adnoddau mwyaf pwerus, ond sydd ddim yn cael ei ddefnyddio ddigon yn Blackboard yw Rhyddhau Ymaddasol. Mae Rhyddhau Ymaddasol yn rhoi cyfle i chi ryddhau deunydd ar sail cyfres o reolau. Y mwyaf cyffredin o’r rhain yw cyfyngu mynediad at ddeunydd ar sail dyddiadau ac amserau neu ar gyfer defnyddiwr neu grŵp o fyfyrwyr, ond gallwch hefyd ddefnyddio Rhyddhau Ymaddasol i ryddhau deunydd ar ôl i fyfyrwyr gwblhau gweithgaredd penodol neu ar ôl iddynt weld deunyddiau penodol.
Er enghraifft, os oes gennych ddwy ddarlith y mae’n rhaid i fyfyrwyr eu gweld, ond nad ydych am iddynt fynd ymlaen yn syth i’r ail ddarlith cyn i chi asesu eu dealltwriaeth o’r ddarlith gyntaf. Yn ogystal â hyn, gallai dealltwriaeth y myfyrwyr o ddeunydd yr ail ddarlith ddibynnu ar y deunydd a drafodwyd yn y ddarlith gyntaf.
Os hoffech roi cyfyngiad i atal myfyrwyr rhag symud ymlaen i’r ail ddarlith:
- Crëwch ddolen Panopto i Ddarlith 1 yn Blackboard fel arfer
- Crëwch brawf ar-lein yn Blackboard a’i roi ar waith i asesu gwybodaeth a dealltwriaeth y myfyrwyr o ddeunydd Darlith 1, gan ganolbwyntio’n benodol ar y wybodaeth y bydd angen i’r myfyrwyr wybod i adeiladu ar ddeunydd Darlith 2
- Crëwch ddolen Panopto i Ddarlith 2 yn Blackboard a defnyddiwch Rhyddhau Ymaddasol ar y ddolen fel ei fod yn cael ei ryddhau ar ôl i’r myfyrwyr wneud y prawf yn unig
Mae Rhyddhau Ymaddasol fel yn y sefyllfa uchod yn gysylltiedig â Gradd yn y Ganolfan Raddau. Mae nifer o reolau y gallwch eu defnyddio. Er enghraifft, fe allech osod rheol bod rhaid i fyfyrwyr gael marc penodol yn y prawf cyn bod modd iddynt weld y deunydd, i ddangos eu bod yn ei ddeall.
Yn y sefyllfa hon, gallwch sicrhau bod gan fyfyrwyr wybodaeth a dealltwriaeth ddigonol o’r deunydd, a chreu amgylchedd sy’n ymateb yn uniongyrchol i’w gweithgarwch ar yr un pryd.