Rhagair
Meddalwedd e-gyflwyno yw Turnitin a ddefnyddir gan fyfyrwyr wrth gyflwyno eu gwaith a chan aelodau o staff wrth farcio. Caiff y marcio ei wneud trwy Stiwdio Adborth Turnitin, sy’n cynnwys llawer o nodweddion, megis cyfarwyddiadau, ffurflenni gradd, Quick Marks, crynodebau adborth, a sylwadau y gellir eu mewnosod. Yn y canllaw hwn, byddwn yn edrych yn benodol ar Adborth Clywedol, nodwedd sy’n caniatáu i hyfforddwyr recordio eu crynodebau adborth, a myfyrwyr i wrando yn ôl arnynt.
Mae defnyddio Adborth Clywedol yn cynnig llawer o fanteision, ac rydym yn gweld bod cydweithwyr ar draws y sector yn defnyddio’r nodwedd hon. Mewn astudiaeth ddiweddar ar effaith Adborth Clywedol, a gynhaliwyd gan gydweithwyr ym Mhrifysgol Lerpwl, nodwyd bod ‘ansawdd adborth a boddhad myfyrwyr […] yn uwch ar gyfer adborth clywedol nag ar gyfer adborth ysgrifenedig’ (Voelkel & Mello, 2014.: 29). Yn ogystal â hyn, dangosodd yr astudiaeth nad oes unrhyw wahaniaeth, o ran cynnydd a chyrhaeddiad, rhwng y myfyrwyr a gafodd adborth clywedol a’r rhai a gafodd adborth ysgrifenedig. Serch hynny, amlygodd yr astudiaeth fod myfyrwyr yn fwy tebygol o ailymweld ag adborth ysgrifenedig nag adborth clywedol.
Er mwyn cefnogi’r defnydd cynyddol o Adborth Clywedol, rydym wedi creu’r adnodd hwn i helpu staff i ddarparu adborth effeithiol i’w myfyrwyr. Os gennych ddiddordeb mewn defnyddio adborth clywedol, mae ein tudalennau E-gyflwyno yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â sut i greu mannau cyflwyno aseiniadau a darparu adborth ar Turnitin.
Polisïau ac Ymarfer Gorau
Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae gennym bolisi sy’n ymdrin ag adborth ar asesiadau (3.2.17) sydd i’w gael o dan Asesu Cynlluniau trwy Gwrs yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Mae’r egwyddorion sy’n ymwneud ag adborth yn berthnasol i adborth ysgrifenedig yn ogystal ag adborth clywedol. Nid yw adborth clywedol nac adborth ysgrifenedig yn cael eu trin yn wahanol o dan y polisïau hyn. Dylid strwythuro adborth clywedol yn yr un modd ag adborth ysgrifenedig, neu mewn modd tebyg, gan nodi cryfderau, gwendidau a phwyntiau i’w gwella.
Yn ogystal â hyn, efallai y bydd y crynodeb o’r cyflwyniad gan Dr Gareth Norris, Dr Heather Norris ac Alexandra Brooks o’r Adran Seicoleg, o’r enw ‘Delivering Feedback through Audio Commentary’ a roddwyd yng Nghynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu 2018, yn ddefnyddiol i chi. Mae recordiad cryno o’r cyflwyniad hwnnw ar gael ar-lein.
Cyngor ar ddefnyddio Adborth Clywedol
1. Cynlluniwch eich adborth
Rydym ni i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw adborth i fyfyrwyr, yn enwedig o safbwynt rhoi arweiniad ar sut i wella eu perfformiad mewn aseiniadau yn y dyfodol. Os nad ydych wedi defnyddio Adborth Clywedol o’r blaen, efallai yr hoffech gynllunio’r hyn rydych yn bwriadu ei ddweud – trwy ddefnyddio pwyntiau bwled ar gyfer prif rannau eich adborth, bydd modd i chi gadw’ch ffocws wrth recordio eich adborth. Yn wahanol i adborth ysgrifenedig, mae’r amser sydd gennych i recordio wedi’i gyfyngu i 3 munud, ac fe all fynd yn eithaf cyflym felly cynlluniwch ymlaen llaw i sicrhau eich bod yn cynnwys eich prif bwyntiau i gyd. Yn yr un modd ag adborth ysgrifenedig, mae’n bwysig bod yr adborth clywedol yn mynd i’r afael â meini prawf yr aseiniad. Gweler y pwynt ynglŷn â chynllunio, ond dylech hefyd nodi’n glir yn eich adborth clywedol pa rannau o’r meini prawf y mae eich adborth yn mynd i’r afael â hwy.
2. Ystyriwch dôn eich llais
Bydd ychwanegu elfen glywedol i’ch adborth yn golygu y bydd angen i chi ystyried tôn eich llais. Yn aml, wrth roi adborth ar lafar, wyneb-yn-wyneb, gallwn gyfleu mwy o ystyr i’r unigolion, yn ogystal â sylwi ar arwyddion gweledol gan y myfyriwr sy’n derbyn yr adborth. Gydag adborth clywedol, mae’n bwysig cofio y bydd y myfyriwr yn gwrando ar yr adborth ar ei ben ei hun. Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi agweddau cadarnhaol y gwaith, yn ogystal â rhannau y gellir eu datblygu.
3. Gwrandewch yn ôl ar eich adborth clywedol
Mae bob amser yn rhyfedd gwrando yn ôl arnoch chi’ch hun yn siarad, ond am yr ychydig droeon cyntaf y byddwch yn defnyddio adborth clywedol, gallwch gael teimlad o sut mae’r adborth yn swnio. Bydd gwrando’n ôl ar yr adborth yn caniatáu i chi sicrhau bod yr adborth yn gysylltiedig â’r meini prawf asesu. Yn anffodus, nid oes adnodd golygu ar gyfer adborth clywedol, ond gallwch bob amser ei ddileu a’i ail-recordio. Bydd gwrando’n ôl ar yr adborth hefyd yn caniatáu i chi ystyried a yw’r adborth yn mynd i’r afael â’r meini prawf. Yn ogystal â hyn, bydd modd i chi wneud yn siŵr nad ydych chi wedi recordio unrhyw beth nad oeddech am ei recordio, fel ci yn cyfarth neu larwm tân yn seinio.
4. Gwnewch yn siŵr bod myfyrwyr yn gwybod sut i gael gafael ar eu hadborth
Er bod myfyrwyr yn aml yn defnyddio Turnitin i gyflwyno eu haseiniadau ac i gael adborth, mae’n bwysig rhoi gwybod i’r myfyrwyr y byddant yn cael adborth clywedol ar eu haseiniadau. Er ein bod yn gweld cynnydd yn nifer y staff sy’n defnyddio adborth clywedol, mae’n bwysig cofio y gallai myfyrwyr fod yn defnyddio’r nodwedd hon am y tro cyntaf. I glywed yr adborth clywedol, bydd rhaid i’r myfyrwyr ddod o hyd i’w haseiniad, ei agor, a chlicio ar y botwm chwarae yn ffenestr y crynodeb adborth:
Fel ag unrhyw adborth arall, gwnewch yn siŵr bod myfyrwyr yn gwybod sut i gysylltu â chi os oes ganddynt unrhyw ymholiadau ynglŷn â’u hadborth.
Dyma rai awgrymiadau technegol i’ch helpu i ddefnyddio’r nodwedd adborth clywedol:
- Defnyddiwch Chrome neu Firefox i gael mynediad i Turnitin
- Bydd neges yn ymddangos yn gofyn a ydych chi am gadw’r adborth – gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hyn trwy glicio ar yr eicon cadw
- Peidiwch â thoglo rhwng aseiniadau a chofiwch gau’r aseiniad ar ôl i chi orffen ei farcio
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â defnyddio adborth clywedol, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Cyfoethogi Dysgu ac Addysgu.
Cyfeiriadau
Prifysgol Aberystwyth. 2019. ‘Adran 3: Asesu Cynlluniau trwy Gwrs’ Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Ar gael ar-lein: https://www.aber.ac.uk/en/media/departmental/academicregistry/admissions/academicqualityhandbook/partb-rulesregs/chapterpdfx27s/01.-ALL-IN-ONE—Chapter-3—v3-Sept-2019.pdf. Dyddiad cyrchu diwethaf: 05.11.2019.
Voelkel, S. & Mello, L. 2014. ‘Audio Feedback – Better Feedback?’ yn Bioscience Education . 22: 1. https://doi.org/10.11120/beej.2014.00022 Tud. 16-30. Dyddiad cyrchu diwethaf: 04.11.2019.