Os ydych chi’n rhywbeth tebyg i ni, sef braidd yn gaeth i Line of Duty yn ddiweddar (dim ‘sbwylio’ yma) ac felly’n deall sut y gallai camsillafu’r gair ‘definately’ arwain at ganlyniadau trychinebus – ac rydym yn awyddus iawn i sicrhau na fydd neb yn cael eu cyhuddo o weithio i OCGs.
Rydym ni wedi dod o hyd i ffordd o ychwanegu geiriadur at y porwr rydych yn ei ddefnyddio wrth farcio er mwyn gallu gwirio sillafu’ch adborth. Rydym yn rhoi cyfarwyddiadau fesul cam isod ar gyfer Chrome a Firefox (fel y gwyddoch, dyna’r porwyr rydym yn eu hargymell er mwyn defnyddio ein hoffer e-ddysgu).
Gosod yr Ategyn Gwirio Sillafu yn Chrome
Os Chrome yw’ch dewis borwr, dyma sut mae gosod yr offer gwirio sillafu:
- Agor Chrome
- Cliciwch ar y tri smotyn yn y gornel ar y dde ar frig y sgrin:
- Dewiswch Settings a bydd ffenest newydd yn agor
- Cliciwch ar y tri smotyn yn y gornel ar y chwith ar frig y ffenest wrth ymyl: Settings
- Cliciwch ar Advanced a dewis Languages
- Gallwch ychwanegu ieithoedd (Welsh-Cymraeg ac English UK) drwy glicio ar Add languages
- Wedyn gallwch ddewis ym mha ieithoedd yr hoffech wirio sillafu drwy eu dewis (byddant yn cael eu lliwio’n las)
- Wedyn byddwch yn barod i fynd
Gosod yr Ategyn Gwirio Sillafu yn Firefox
Os Firefox yw’ch dewis borwr, dyma sut mae gosod yr offer gwirio sillafu:
- Agor Firefox
- Cliciwch ar y tair llinell yn y gornel ar y dde ar frig y sgrin:
- Dewiswch Ychwanegion/Add-ons
- Dewiswch Ategion/Get Add-ons
- Yn y blwch chwilio, rhowch Geiriadur Cymraeg neu British English Dictionary a dewiswch y geiriadur perthnasol
- Cliciwch Add to Firefox
- Wedyn byddwch yn barod i fynd
Gan eu bod wedi’u seilio ar y porwr, bydd rhaid i chi eu hychwanegu at bob porwr a ddefnyddiwch wrth farcio, ond ar ôl iddynt gael eu gosod fe fyddwch yn hollol rydd o unrhyw amheuaeth mai chi yw ‘H’.