Bydd modiwlau Blackboard Uwchraddedig ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20 yn cael eu creu heb gynnwys. Yn flaenorol, roedd y cynnwys yn cael ei gopïo drosodd bob blwyddyn yn awtomatig ar gyfer holl fodiwlau Blackboard.
Bydd paratoi modiwlau Uwchraddedig ar gyfer y flwyddyn nesaf yn golygu bod cydlynwyr y modiwlau’n copïo deunydd presennol drosodd neu’n uwchlwytho deunydd newydd i’r ailadroddiad o’u modiwl. Bydd yr holl fodiwlau’n cynnwys templed o ddewislen adrannol y cytunwyd arni a bydd rhaid trefnu’r cynnwys yn unol â’r ddewislen hon.
Hoffem gynorthwyo staff i baratoi modiwlau gymaint ag y gallwn. Rydym yn fodlon dod i’r swyddfa neu i chi ddod i ymweld â ni. Os hoffech drefnu apwyntiad gydag aelod o’r Grŵp E-ddysgu, rhowch wybod i ni lle a phryd yr hoffech gwrdd.
Rydym wedi paratoi’r Cwestiynau Cyffredin hyn sydd â chanllawiau manwl ar sut i gopïo elfennau gwahanol ar Blackboard ac wedi cynhyrchu’r daflen wybodaeth sy’n cael ei harddangos ar yr ochr chwith.
Rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos â’r holl staff a’ch cynorthwyo mewn unrhyw ffordd sy’n gyfleus i chi.