Mae’n debyg mai’r Ganolfan Raddau yw’r elfen fwyaf grymus o fodiwl Blackboard, ac eto nid yw’n cael ei ddefnyddio llawer. Mae Canolfan Raddau ar gyfer pob modiwl Blackboard, ond pa mor aml fyddwch chi’n ei defnyddio ac a ydych yn cael budd digonol ohoni elwa ohoni? Rwy’n ffan enfawr o Ganolfan Raddau Blackboard felly rwy’n defnyddio’r gyfres hon o bostiadau ar fy mlog i’ch cyflwyno chi i rai o’r nodweddion cudd a allai wneud eich gwaith marcio ac asesu yn haws.
Mae’r postiad cyntaf yn ymwneud â sefydlu’r Ganolfan Raddau. Fel llawer o bethau, deuparth y gwaith yw ychydig bach o feddwl a chynllunio cyn ichi ddechrau. Bydd ychydig o waith trefnu ymlaen llaw yn gwneud eich gwaith yn dipyn haws yn y tymor hir.
Felly, pa fath o bethau ddylech chi eu hystyried?
- Trefnu cyn creu. Ychwanegir rhai nodweddion fel categorïau a Chyfnodau Graddio at y colofnau wrth ichi eu creu. Mae’n ddefnyddiol i sefydlu’r rhain yn gyntaf, yn hytrach na mynd yn ôl a golygu wedyn (er bod hynny yn bosib).
- Categorïau Ceir categorïau mewnol ar gyfer mathau o offer (e.e. Profion, Aseiniadau) a.y.y.b. sy’n cael eu rhoi ar waith yn awtomatig wrth ichi eu creu. Ond gallwch hefyd greu eich categorïau eich hun. Er enghraifft, efallai y byddwch yn dymuno cael categori ar gyfer Arholiadau neu Gyflwyniadau. Gallwch hefyd wneud cyfrifiadau ar sail categori colofn gan ddefnyddio dewisiadau’r Golofn Gyfrifiedig. Help Blackboard ar Gategorïau.
- Cyfnodau Graddio. Cyfnodau marcio’r gwaith yw’r rhain. Byddai hyn yn ddefnyddiol os ydych yn cyflwyno marciau’n uniongyrchol i’r Ganolfan Raddau ar gyfer modiwl hir a thenau. Gallech gael cyfnod graddio Semester 1 a Semester 2 ac yna hidlo yn ôl y rhain er mwyn i chi weld y colofnau perthnasol yn unig. Help Blackboard ar Gyfnodau Marcio.
- A oes angen colofnau ychwanegol arnoch? Mae unrhyw beth y gallwch ei raddio yn Blackboard yn cynhyrchu Canolfan Raddio wrth ichi ei greu. Felly, os oes gennych Aseiniad Turnitin, Cylch Trafod graddedig neu Wici, bydd gennych eisoes golofn yn y Ganolfan Raddau. Os hoffech storio marciau ar gyfer cyflwyniadau, arholiadau, profion dosbarth, arholiadau llafar, a.y.y.b., gallwch greu eich colofnau eich hun. Help Blackboard ar Greu Colofnau.
- Meddyliwch yn ofalus wrth roi enw i’ch colofnau (colofnau wedi’u creu gennych chi, neu’r rhai sy’n cael eu creu wrth osod Turnitin a.y.y.b.). Dylent fod yn ystyrlon ac yn hawdd i ddeall pa elfen asesu maent yn perthyn iddi. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth fapio elfennau ar gyfer trosglwyddo marciau. Problem gyffredin yw fod gennych ddau bwynt e-gyflwyno a’r ddau yn dwyn yr enw Traethawd; gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio teitlau sy’n gwneud synnwyr fel Traethawd 1 a Thraethawd 2 neu Traethawd Maeth a Thraethawd Ymarfer Corff.
- A hoffech wneud cyfrifiadau neu gyfuno marciau? Mae AStRA yn pwysoli eich aseiniadau wrth gyfrifo’r marc cyffredinol ar ddiwedd y modiwl, ond efallai y byddwch yn dymuno grwpio aseiniadau bach ynghyd i wneud cyfrifiadau neu i ddangos i’r myfyrwyr. Er enghraifft, efallai bod gennych set o brofion wythnosol sy’n ffurfio un elfen o’r asesu ar gyfer y modiwl. I wneud hyn, gallwch greu un o’r colofnau cyfrifiedig. Help Blackboard ar Golofnau Cyfrifiedig.
- Beth hoffech chi i’r myfyrwyr ei weld? Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod eich bod yn gallu cuddio colofnau’r Ganolfan Raddau rhag y myfyrwyr, ond a oeddech yn gwybod bod Prif Arddangosiad ac Arddangosiad Eilaidd? Mae hyn yn golygu y gallwch ddangos llythyren i’r myfyrwyr, neu ddangos bod y gwaith wedi’i farcio, heb ddangos y radd. Dyma ffordd o roi adborth cyn rhyddhau marc.
- Gwylio a hidlo. Ceir nifer o ffyrdd o drefnu eich Canolfan Raddau i’ch helpu i weld y pethau y dymunwch eu gweld yn unig. Gan ddibynnu ar sawl colofn sydd gennych a’r hyn sydd angen ei wneud, efallai bydd un o’r isod yn ddefnyddiol:
- Golygon Call ac Ychwanegu fel Ffefryn. Chi’n gwybod am yr eitemau Angen eu Marcio ac Aseiniadau yn y Ganolfan Raddau Gyflawn yn eich dewislen? Llwybrau byrion yw’r rhain sy’n eich cysylltu â golygon hidledig o’r Ganolfan Raddau. A wyddech chi eich bod yn gallu ychwanegu eich llwybrau byrion eich hun yma, gan ddefnyddio categorïau neu grwpiau o fyfyrwyr fel y meini prawf? Help Blackboard ar Golygon Call.
- Hidlo. Fel taenlenni Excel, mae’n bosib hidlo eich golwg o’r Ganolfan Raddau, i ddangos setiau penodol o wybodaeth yn unig. Help Blackboard ar Hidlo.
- Codio lliw. Dyma fy ffefryn personol i. Gallwch roi cod lliw i’r Ganolfan Raddau i ddangos yn sydyn pa fyfyrwyr sy’n cael marciau uchel iawn, a pha fyfyrwyr y gallai fod angen rhagor o help arnynt. Mae’n ddefnyddiol iawn ar gyfer profion sy’n cael eu marcio’n awtomatig ac efallai na byddwch yn gweld y canlyniadau’n syth. Mae’n ffordd weledol sydyn o weld pwy allai fod angen rhagor o help. Help Blackboard ar godio lliw.
Bydd rhifyn nesaf y gyfres hon yn trafod marcio ac ymdrin â graddau. Os hoffech gymorth i sefydlu eich Canolfan Raddau, cysylltwch â mi a gallwn drafod eich gofynion a mynd ati i’w rhoi ar waith.