Mae’r Grŵp E-ddysgu’n helpu staff a myfyrwyr trwy’r Brifysgol i ddefnyddio technoleg i wella dysgu, addysgu ac asesu. Yn ddiweddar dyfarnwyd gwobr Aur yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (FfRhA) i Brifysgol Aberystwyth a chafodd y ddarpariaeth E-ddysgu ei chrybwyll fel un o gryfderau’r sefydliad. I’r holl rai sydd â diddordeb mewn gwybod sut y gall technoleg wneud dysgu ac addysgu’n fwy effeithiol dilynwch ein blog. Bydd pob aelod o’r Grŵp E-ddysgu’n ysgrifennu blogiau am eu harbenigeddau a’u diddordebau. Rydym yn croesawu eich sylwadau a’ch awgrymiadau!
Pwy yw’r Grŵp E-ddysgu yn Aber?
Kate Wright, Rheolwr y Grŵp E-ddysgu
Fi yw Rheolwr y Grŵp E-ddysgu, ac rwyf wedi gweithio ym maes e-ddysgu ers 2003. Yn ystod y cyfnod hwn rwyf wedi gweld llawer o newidiadau; pan ddechreuais, roedd Blackboard yn cael ei ddefnyddio’n wirfoddol gan staff oedd â diddordeb ac roeddem yn treulio llawer o amser yn egluro i fyfyrwyr nad oedd modd iddynt weld modiwlau yn Blackboard oherwydd nad oedd eu darlithwyr yn ei ddefnyddio. Ers hynny rwyf wedi gweithio ar nifer o brosiectau newid i gynyddu nifer y bobl sy’n ymwneud ag e-ddysgu, gan gynnwys cyflwyno isafswm presenoldeb gofynnol Blackboard, e-gyflwyno ac e-adborth, a chipio darlithoedd. Mae gennyf ddiddordeb penodol mewn asesu ar-lein, ac rwyf wedi chwarae rhan fawr yn y defnydd o Questionmark Perception yn y brifysgol.
Rwyf wedi bod yn rhan o nifer o brosiectau a gyllidir yn allanol gan gynnwys Meincnodi E-ddysgu HEA, prosiect Gwella CCAUC, Grant Bach Technoleg ar gyfer Dysgu JISC RSC Cymru, Traciwr Profiad Digidol Staff a Myfyrwyr JISC. Rwyf wedi gwneud cyflwyniadau mewn nifer o gynadleddau rhyngwladol, fi yw cadeirydd Grŵp Defnyddwyr Blackboard Cymru, ac rwyf wedi cyhoeddi erthygl ar y cyd yn y British Journal of Educational Technology.
Dr. James Woolley, Arweinydd Thema, Gwella ac Ymgysylltu E-ddysgu
Helo, Jim ydw i, a fi yw’r Arweinydd Thema Gwella ac Ymgysylltu E-ddysgu. Ymunais â’r Grŵp E-ddysgu ym mis Chwefror 2018 ar ôl cwblhau PhD, 3 blynedd fel llyfrgellydd a rhai blynyddoedd cyn hynny fel Cynorthwyydd Dysgu Uwchraddedig, y cyfan yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae fy swydd yn golygu gweithio gyda chydweithwyr academaidd i ddarparu’r cymorth gorau posibl wrth ddefnyddio ein portffolio o wasanaethau. Rwy’n trefnu ein cynllun hyfforddi E-ddysgu a’r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol. Hoffwn glywed gennych os ydych chi’n gwneud rhywbeth arloesol gyda thechnoleg a dysgu neu os hoffech arbrofi gyda thechnoleg newydd. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda staff ar brosiectau i ehangu’r ddarpariaeth E-ddysgu. Mae gennyf ddiddordeb penodol yn y modd y mae darpariaeth E-ddysgu’n cynorthwyo dulliau mwy cydweithrediadol o ddysgu.
Os oes sesiwn hyfforddi yr ydych chi’n credu y dylem ni ei drefnu neu os hoffech gwrdd â ni, anfonwch e-bost atom.
Robert Francis, Swyddog Cymorth E-ddysgu
Rwy’n cefnogi defnydd ymarferol o amrywiaeth eang o offer TEL ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ogystal â Blackboard mae hyn yn cynnwys; Panopto, Turnitin ar gyfer asesu a Questionmark ar gyfer arholiadau ar-lein. Rwy’n ymwneud yn uniongyrchol â darparu cymorth technegol a datrysiadau i Staff a Myfyrwyr sy’n defnyddio’r feddalwedd hon. Rwy’n cynorthwyo’r Brifysgol i weithredu ei strategaeth o ran dysgu trwy gyfrwng technoleg, hygyrchedd, darparu hyfforddiant, ymgynghori, deunyddiau cymorth a chymorth technegol.
Mae gen i gefndir mewn dysgu Hanes a Saesneg yn y DU a thramor. Rwy’n mwynhau arbrofi gyda thechnoleg newydd. Rwyf wedi gweithio yn y sector Addysg Uwch yn darparu cymorth technegol ers 2010.
Rwy’n siaradwr Cymraeg ail-iaith ac rwy’n frwdfrydig ynghylch siarad yr iaith.
Susan Ferguson, Cynorthwyydd Hyfforddi E-ddysgu
Fel Cynorthwyydd Hyfforddi E-ddysgu rwy’n cynorthwyo staff a myfyrwyr sy’n defnyddio offer e-ddysgu, megis Blackboard, Questionmark Perception, Turnitin, Panopto, a Qwizdom ymhlith eraill, dros y ffôn, ar e-bost ac wyneb i wyneb. Mae hyn yn cynnwys cynorthwyo staff i ddefnyddio’r offer yn yr ystafelloedd dysgu, darparu sesiynau hyfforddi, ymchwilio i offer a meddalwedd newydd, a chreu canllawiau i ddefnyddwyr.
Anna Udalowska, Swyddog Cymorth E-ddysgu
Dechreuais weithio gyda’r Grŵp E-ddysgu yn 2017 fel myfyriwr graddedig dan hyfforddiant. Roedd yr elfen datrys problemau ac arloesedd y swydd yn apelio ac felly fe ymgeisiais am swydd Swyddog Cymorth E-Ddysgu, sef fy swydd bresennol.
Dros y misoedd diwethaf rwyf wedi bod yn gweithio ar yr ymgyrch hyrwyddo a dadansoddi darganfyddiadau’r Traciwr Profiad Digidol Myfyrwyr a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth am y tro cyntaf. Ynghyd â Rheolwr y Grŵp E-ddysgu, Kate Wright, rwyf wedi cyflwyno darganfyddiadau Traciwr Digidol PA mewn cynhadledd genedlaethol o’r enw DigiFest18 a drefnwyd gan JISC. Rwyf hefyd wedi bod yn gweithio ar weithredu’r Offer Trosglwyddo Marciau Cydrannol.
Fel rhan o’r Grŵp E-ddysgu rwy’n cynorthwyo staff a myfyrwyr sy’n defnyddio Panopto, Blackboard a Turnitin yn ogystal â goruchwylio bod yr arholiadau ar-lein yn rhedeg yn esmwyth gan ddefnyddio’r system Question Mark Perception. Mae gennyf ddiddordeb penodol yn y modd y mae technoleg yn helpu i ddarparu dulliau gwahanol, dynamig a chynhwysol o gyfathrebu, dysgu ac addysgu.