Gwnaeth dros 180 o gydweithwyr ledled y Brifysgol ddefnyddio Vevox, ein hanodd pleidleisio, y llynedd.
Crëwyd bron i 4000 pôl ar draws bron i 1000 o sesiynau, gyda dros 27,000 o gyfranogwyr.
Mae Vevox yn caniatáu i gyfranogwyr ddefnyddio eu dyfeisiau symudol i ymateb i gyfres o gwestiynau.
Gallwch ddefnyddio hyn ar gyfer llawer o weithgareddau yn yr ystafell ddosbarth:
Holi ac Ateb
Gwirio gwybodaeth
Cwisiau
Casglu barn
Gwneud penderfyniadau
Gemau tîm
Gweithgareddau adolygu
Creu map meddwl
Creu adnoddau
A llawer mwy…
Gyda’n trwydded sefydliadol, gall pob aelod o’r gymuned ddefnyddio Vevox. Gall myfyrwyr ei ddefnyddio yn eu cyflwyniadau; gall cydweithwyr ei ddefnyddio yn eu cyfarfodydd. Y llynedd, roeddem yn falch iawn bod Vevox wedi’i ddefnyddio yn sgyrsiau croeso’r Brifysgol, a bydd hynny’n digwydd eto eleni.
Byddwn hefyd yn cynnal ein sesiwn hyfforddi uwch ar gynllunio gweithgareddau dysgu gan ddefnyddio meddalwedd pleidleisio ym mis Tachwedd. Gweler hyn a’n sesiynau uwch eraill ac archebwch eich lle ar-lein.
Croeso cynnes i’r myfyrwyr newydd sy’n ymuno â ni a’r rhai sy’n dychwelyd i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Yn y blogbost hwn, byddwn yn amlinellu’r newidiadau a wnaed i’ch amgylchedd dysgu digidol, Blackboard, yn barod ar gyfer dechrau blwyddyn academaidd 2025-26
Os oes angen cymorth arnoch i ddefnyddio Blackboard, gweler ein Canllaw i Fyfyrwyr sy’n cynnwys pob math o wybodaeth ddefnyddiol.
Mae gennym hefyd gwestiynau cyffredin ar gael ar gyfer yr offer eraill yr ydym yn eu cefnogi, gan gynnwys Turnitin ar gyfer e-gyflwyno a Panopto ar gyfer recordio darlithoedd.
Templed wedi’i ddiweddaru
Mae’r holl gyrsiau wedi cael eu creu eleni gan ddefnyddio templed ychydig yn wahanol.
Gwybodaeth am y Modiwlau
Eitem ynghylch Recordio Darlithoedd (Panopto) o dan ‘Gwybodaeth am y Modiwl’
SgiliauAber
Asesu ac Adborth
Mae’r Canllawiau Cyflwyno wedi’u diweddaru i gynnwys gwybodaeth am uniondeb academaidd ac ymddygiad annerbyniol a defnyddio Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol yn eich asesiadau.
Argaeledd Cynnwys
Mae Polisi Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard, sef y polisi sy’n amlinellu isafswm y cynnwys ar gwrs i staff a myfyrwyr, wedi’i ddiweddaru i ofyn bod deunyddiau addysgu yn cael eu huwchlwytho o leiaf un diwrnod cyn y sesiwn.
Capsiynau Awtomatig yn Panopto
Bydd capsiynau nawr yn cael eu hychwanegu at yr holl recordiadau o ddarlithoedd yn awtomatig yn 2025-26, gan eu gwneud hyd yn oed yn fwy hygyrch. Mae ansawdd a dibynadwyedd y capsiynau awtomatig yn amrywio yn ôl iaith a phwnc y recordiad.
Dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol nad yw’r capsiynau yn gywir 100%. I gael eglurhad ar gapsiynau, dylai myfyrwyr siarad â’u darlithydd.
Gellir lawrlwytho trawsgrifiadau o gapsiynau adnabod llais awtomatig (gweler Cwestiynau Cyffredin: ’Sut ydw i’n gweld capsiynau Panopto?
Mae ynganiad enwau a rhagenwau ar gael yn Blackboard
Gallwch nawr ychwanegu ynganiad eich enw a’ch rhagenwau at eich proffil Blackboard. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein Cwestiynau Cyffredin.
Cynnwys hygyrch
Rydym yn gweithio i wella hygyrchedd cynnwys yn eich cyrsiau Blackboard. Eleni mae’r Isafswm Presenoldeb Gofynnol wedi nodi gofyniad ar gyfer isafswm sgôr hygyrchedd. Mae hyn yn golygu bod y cynnwys mor gydnaws â Blackboard Ally â phosibl.
Mudiadau Blackboard
Mae Mudiadau fel Cyrsiau yn Blackboard ond nid ydynt yn fodiwlau y mae myfyrwyr yn eu dilyn. Gellir dod o hyd i bethau fel hyfforddiant a gwybodaeth adrannol o dan Mudiadau. Am y tro cyntaf, mae gennym Isafswm Presenoldeb Gofynnol ar gyfer Mudiadau sy’n amlinellu’r isafswm i staff a myfyrwyr.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch defnyddio Blackboard, cysylltwch â ni ar eddysgu@aber.ac.uk.
Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.
Varga-Atkins, T. (16/6/2025), Treasure Island Pedagogies: Episode 42, the one with the Kitenge (53-minute audio recording), Treasure Island Pedagogies podcast series, University of Liverpool, “In Episode 42, in addition to lightbulb moments, treasure island pedagogies/props and luxury items, our discussion focused on supporting doctoral journeys as supervisors including themes of agency and the transformative power of students taking ownership of their own development, holistic and student-centred approaches; the importance of the pedagogy of care and creating inclusive communities for doctoral education.”
Monthly series European Network for Academic Integrity, ENAI monthly webinarsfree open webinars on various topics related to academic integrity
Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Cyfryngau cymdeithasol: BSky, X.com.
Gall staff a myfyrwyr nawr ddefnyddio’r adran Ynganiad ar dudalen Proffil Blackboard i recordio eu henw. Gallant hefyd ddewis y rhagenwau maen nhw’n eu defnyddio. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein Cwestiwn Cyffredin
Mae Panopto bellach wedi’i osod yn barod ar gyfer 2025-26.
Capsiynau awtomatig
Mae capsiynau awtomatig bellach wedi cael ei osod yn holl ffolderi 2025-26 yn Panopto. Mae iaith y capsiwn yn cyfateb â iaith templed eich cwrs Blackboard.
Ar gyfer cyrsiau dwyieithog, rydyn ni’n awgrymu creu is-ffolder i ddal yr holl recordiadau ar gyfer un o ieithoedd cyflwyno eich cwrs (gweler Cwestiwn Cyffredin)
Pan fyddwch yn gwneud eich recordiadau, rhaid i chi ddewis yr iaith gywir cyn pwyso ‘record’. Y rheswm am hyn yw oherwydd na ellir ychwanegu capsiynau Cymraeg at recordiadau sy’n cael eu copïo neu’u symud o ffolderi eraill
Gallwch greu dolen i’r ffolder Panopto yn eich cwrs Blackboard. Golyga hyn y gall myfyrwyr weld y recordiadau ar gyfer y cwrs mewn un lle.
Dod o hyd i’ch ffolder Panopto
Mae ffolderi Panopto ar gyfer yr holl fodiwlau eleni yn y ffolder 2025-26.
I ddod o hyd i’r ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi:
Cliciwch ar y botwm cwymplen ar ochr dde’r blwch Ffolder.
Cliciwch ar y saeth cwymplen i’r chwith o’r ffolder blwyddyn academaidd i’w hehangu.
Dewiswch y ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi.
Gallwch hefyd chwilio am y ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi:
Yn y blwch Ffolder dechreuwch deipio cod y modiwl neu enw’r ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi
Dewiswch y ffolder yr hoffech recordio ynddi.
Beth i’w wneud os na allwch weld eich ffolder Panopto
Mewn nifer fach o gyrsiau, ni chrëwyd y ffolder Panopto dros yr haf. Os na allwch ddod o hyd i’ch ffolder Panopto gan ddefnyddio’r camau uchod, gallwch greu ffolder o Blackboard:
Mewngofnodwch i Blackboard a dod o hyd i’ch cwrs
Cliciwch ar Llyfrau ac Offer > Gweld cwrs ac offer sefydliad
Cliciwch ar Holl Fideos Panopto
Nawr dylech allu dod o hyd i’r ffolder Panopto i recordio ynddi.
Croeso cynnes i aelodau newydd o staff sy’n ymuno â Phrifysgol Aberystwyth
Ein nod yn y blogbost hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am dechnoleg wrth ddysgu ac addysgu, ein darpariaeth o ran hyfforddiant, sianeli cymorth, a digwyddiadau rydyn ni’n eu cynnal.
Rydyn ni’n ysgrifennu blog sy’n llawn o’r newyddion diweddaraf, manylion am ddigwyddiadau a sesiynau hyfforddi, ac adnoddau.
Os oes arnoch angen cysylltu â ni, gallwch wneud hynny trwy ddefnyddio eddysgu@aber.ac.uk.
Cyflwyniad i Offer E-ddysgu
Amgylchedd Dysgu Rhithwir: Blackboard
Mae gan bob modiwl ei gwrs pwrpasol ei hun yn Blackboard. Gall myfyrwyr ddod o hyd i wybodaeth am y modiwl, deunyddiau dysgu, a chanllawiau e-gyflwyno, yn ogystal â dolenni i restrau darllen a recordio darlithoedd.
Wrth addysgu wyneb yn wyneb, cofiwch y dylid recordio pob darlith (hynny yw, addysgu lle mae’r ffocws ar wybodaeth sy’n cael ei throsglwyddo gan staff i fyfyrwyr) gan ddefnyddio Panopto, ein meddalwedd recordio darlithoedd.
Ym Mhrifysgol Aberystwyth, rhaid i fyfyrwyr gyflwyno’r holl waith testun a phrosesu geiriau yn electronig fel yr argymhellir ym mholisi E-gyflwyno’r Brifysgol.
Ar gyfer hyn, rydym yn defnyddio ein hadnoddau e-gyflwyno: Turnitin a Blackboard Assignment. Mae Turnitin yn darparu nodwedd paru testun awtomatig. Rydym yn defnyddio Profion Blackboard i gynnal arholiadau ar-lein.
Adnodd Pleidleisio: Vevox:
Vevox yw adnodd pleidleisio Prifysgol Aberystwyth.
Gellir defnyddio’r adnodd pleidleisio mewn gweithgareddau dysgu ac addysgu yn ogystal â chyfarfodydd i wneud y sesiwn yn rhyngweithiol ac yn gydweithredol. Mae sawl ffordd wahanol o’i ddefnyddio.
Er mwyn cefnogi’r holl staff gyda’u haddysgu rydym yn cynnal cyfres o sesiynau hyfforddi ar draws y meysydd canlynol:
Hanfodion E-ddysgu: wedi’i gynllunio ar gyfer cydweithwyr sy’n newydd i’r brifysgol, sy’n addysgu, neu a hoffai gael sesiwn loywi. Nod y sesiynau hyn yw sicrhau bod cydweithwyr yn gallu bodloni polisïau dysgu ac addysgu digidol y brifysgol.
E-ddysgu Uwch: wedi’i gynllunio i adeiladu ar sail y sgiliau a gafwyd yn ein cyfres hanfodion e-ddysgu, bydd cydweithwyr yn creu gweithgaredd neu asesiad sy’n unigryw i’w cyd-destunau dysgu ac addysgu.
Rhagoriaeth E-ddysgu: wedi’i gynllunio i gynnig cyfle i gydweithwyr greu cyfleoedd dysgu ac addysgu eithriadol – yn aml rhai unigryw ac yn arwain y sector.
Ceir hyd i fanylion am ein rhaglen DPP flynyddol a gallwch archebu eich lle i fynychu drwy’r dudalen Archebu Cwrs.
Mae’r rhain oll yn gyfleoedd gwych i gwrdd â phobl ar draws y brifysgol a thrafod materion a datblygiadau’n ymwneud â Dysgu ac Addysgu
Edrychwn ymlaen at eich gweld mewn digwyddiad cyn hir. Yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni trwy eddysgu@aber.ac.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.
Ahmad, M., Grose, J. & McMillan Cottom, T. (12/8/2025), What A.I. Really Means for Learning: A.I. is fueling a “poverty of imagination.” Here’s how we can fix it, The New York Times
LCC Changemakers (n.d.), Changemaking led by students, Changemakers, London College of Communication, University of the Arts London “We are a team of 9 students as partners committed to decolonising the academia.”
Monthly series European Network for Academic Integrity, ENAI monthly webinarsfree open webinars on various topics related to academic integrity
Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Cyfryngau cymdeithasol: BSky, X.com.
Mae Blackboard Ally yn parhau i fod yn rhan boblogaidd o Blackboard gyda mwy o staff a myfyrwyr yn ei ddefnyddio yn ystod blwyddyn academaidd 2024-25.
Mae nifer y lawrlwythiadau i fformat amgen wedi mwy na dyblu y llynedd – lawrlwythwyd dros 62,000 o ddogfennau i fformatau amgen. A defnyddiodd dros 4000 o ddefnyddwyr yr opsiwn hwn.
Gwnaeth staff hefyd fwy o ddefnydd o’r offer i ddatrys problemau hygyrchedd yn eu cyrsiau – cafodd dros 800 o ffeiliau eu trwsio y llynedd (o’i gymharu â 295 yn 2024-25).
Am y tro cyntaf eleni, mae ein Hisafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard yn nodi y dylai’r holl gyrsiau Blackboard gael sgôr Ally o 70%. I wirio sgôr Ally eich cwrs, edrychwch ar y canllawiau ar ein blog. Gallwch hefyd archebu lle ar un o’r cyrsiau hyfforddi Hanfodion E-ddysgu: Cyflwyniad i Blackboard Allyym mis Medi.
Yn y diweddariad ym mis Awst, rydym am dynnu eich sylw at y nodwedd tabl cynnwys sy’n cael ei hychwanegu at Fodiwlau Dysgu.
Yn ogystal â hyn, mae gwelliannau i ddogfennau gydag opsiynau steilio blociau, a mwy o hygyrchedd ar draws llyfr graddau myfyrwyr a thudalennau trosolwg myfyrwyr.
Newydd: Ychwanegu Tabl Cynnwys at Fodiwlau Dysgu i fyfyrwyr
Rydym wedi ailgynllunio’r profiad Modiwl Dysgu i fyfyrwyr trwy ychwanegu Tabl Cynnwys cwympadwy. Mae’r diweddariad hwn yn gwella llywio, cyfeiriadedd, ac olrhain cynnydd.
Yn rhan o’r gwelliant hwn, mae asesiadau bellach yn agor mewn panel llawn yn hytrach na phanel llai.
Mae gan fyfyrwyr bellach ffordd symlach o lywio ac olrhain cynnydd mewn Modiwlau Dysgu. Mae’r diweddariadau’n cynnwys:
Tabl cynnwys ar gyfer yr eitemau mewn Modiwl Dysgu. Dewis Cynnwys er mwyn agor a chwympo’r tabl cynnwys
Delwedd 1: Mae Modiwlau Dysgu bellach yn cynnwys panel Tabl Cynnwys i gyfeirio myfyrwyr o fewn Modiwlau Dysgu ar gyfer eu cyrsiau. Gellir cwympo’r panel gyda’r botwm saeth ar frig y Tabl Cynnwys.
Llywio hawdd rhwng eitemau
Olrhain cwblhau eitemau â llaw neu awtomatig o fewn i’r Modiwl Dysgu
Botymau Nesaf a Blaenorol yn agosach at ei gilydd ar frig y dudalen i gael profiad gwell.
Delwedd 2: Mae’r botymau llywio Blaenorol a Nesaf bellach yn ymddangos yn agosach at ei gilydd yn y rhyngwyneb defnyddiwr o fewn Modiwlau Dysgu i roi profiad defnyddiwr gwell.
Asesiadau o fewn Modiwlau Dysgu. Mae asesiadau bellach yn agor mewn panel llawn, gan ddarparu profiad cyson nad yw’n tynnu sylw.
Delwedd 3: Mae’r tudalennau Asesiadau o fewn Modiwlau Dysgu bellach yn ymddangos fel panel maint llawn.
Dilyniant gorfodol mewn Modiwlau Dysgu. Pan fydd dilyniannu’n cael ei orfodi, rhaid i fyfyrwyr ddefnyddio’r botymau Nesaf a Blaenorol i symud trwy gynnwys mewn trefn. Ni all myfyrwyr neidio ymlaen gan ddefnyddio’r tabl cynnwys oni bai eu bod eisoes wedi cwblhau’r eitem maen nhw’n llywio iddi. Mae neidio ymlaen heb gwblhau eitem Modiwl Dysgu wedi’i analluogi yn y modd hwn.
Gwella Dogfennau gydag opsiynau steilio blociau
Fe wnaethom ychwanegu’r adnodd steilio blociau i Ddogfennau, gan roi ffyrdd newydd i hyfforddwyr wella apêl weledol a thywys sylw myfyrwyr. Mae’r opsiynau steilio yn cynnwys lliw ac eiconau. Bydd yr opsiynau arddull yn cynnwys:
Cwestiwn
Awgrym
Pwyntiau allweddol
Camau nesaf
Amlygu
Llun 1: Gall hyfforddwyr ddewis opsiynau steilio o gwymplen sy’n ymddangos yn y modd Golygu ar bob math o flociau.
Bydd ein sesiwn hyfforddi sydd ar ddod E-ddysgu Uwch: Dod yn Arbenigwr Dogfennau yn ystyried hyn ac ymarferoldeb arall dogfennau i helpu cydweithwyr i greu cynnwys deinamig. Gallwch archebu eich lle ar-lein.
Mwy o hygyrchedd yn llyfr graddau’r myfyrwyr
Er mwyn gwella hygyrchedd, fe wnaethom ddiweddaru Llyfr Graddau’r myfyrwyr i ddefnyddio strwythur tabl HTML semantig. Mae’r newid hwn yn disodli’r cynllun blaenorol, a oedd yn dibynnu ar elfennau <div>. Mae’r strwythur newydd yn gwella’r gefnogaeth darllenydd sgrin a llywio bysellfwrdd.
Mwy o hygyrchedd yn nhudalen trosolwg y myfyrwyr
Er mwyn gwella hygyrchedd, fe wnaethom ddiweddaru tudalen trosolwg y myfyrwyr i ddefnyddio strwythur tabl HTML semantig. Mae’r newid hwn yn disodli’r cynllun blaenorol, a oedd yn dibynnu ar elfennau <div>. Mae’r strwythur newydd yn gwella’r gefnogaeth darllenydd sgrin a llywio bysellfwrdd.
Os oes gennych unrhyw welliannau yr hoffech i Blackboard eu gwneud, cysylltwch â ni trwy eddysgu@aber.ac.uk.