Creu Cyrsiau Blackboard 2022-23

Distance Learner Banner

Tua diwedd mis Gorffennaf byddwn yn dechrau creu modiwlau Blackboard ar gyfer 2022-23.

Yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, ni fydd fersiynau gwag o unrhyw gyrsiau presennol yn cael eu creu. Gwnaed y penderfyniad hwn yng nghyfarfod y Bwrdd Academaidd yn ddiweddar.

Bydd cynnwys a ffeiliau’r cyrsiau yn cael eu copïo o’r fersiwn o’r modiwl yn y flwyddyn academaidd flaenorol. Ni fydd mannau cyflwyno Turnitin, recordiadau Panopto na gweithgareddau rhyngweithiol Blackboard  yn cael eu cynnwys wrth gopïo; bydd angen ail-greu’r rhain. Mae gennym lawer o Gwestiynau Cyffredin i gynorthwyo’r staff gyda hyn.

Os ydych chi’n cynnal modiwl newydd yna bydd y rhain yn cael eu creu gan ddefnyddio’r Templedi Adrannol y cytunwyd arnynt ymlaen llaw. Yn yr un modd, os ydych chi’n cynnal modiwl na chafodd ei gynnal yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf yna bydd y rhain hefyd yn cael eu creu’n wag.

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses hon (eddysgu@aber.ac.uk). Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd y modiwlau wedi’u creu.

Newidiadau i Turnitin: Gwybodaeth i Fyfyrwyr

Ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23 byddwn yn defnyddio fersiwn newydd o Turnitin.

Ddydd Mawrth 5 Gorffennaf bydd y Gwasanaethau Gwybodaeth yn rhoi fersiwn newydd o Turnitin ar Blackboard.

Er y bydd y rhan fwyaf o swyddogaethau presennol Turnitin yn aros yr un fath, bydd rhai newidiadau. 

I helpu myfyrwyr gyda’r newid hwn, rydym wedi llunio’r Cwestiynau Cyffredin canlynol:

Bydd ein tudalennau gwe a’n canllawiau cymorth yn cael eu diweddaru i adlewyrchu’r newidiadau hyn.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Gwella Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).

Newidiadau i Turnitin: Gwybodaeth i Staff

Ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23 byddwn yn defnyddio fersiwn newydd o Turnitin.

Ddydd Mawrth 5 Gorffennaf 2022 bydd y Gwasanaethau Gwybodaeth yn rhoi fersiwn newydd o Turnitin ar Blackboard.

Er y bydd y rhan fwyaf o swyddogaethau presennol Turnitin yn aros yr un fath, bydd rhai newidiadau. 

Er mwyn helpu staff gyda’r newid hwn, rydym wedi llunio’r Cwestiynau Cyffredin canlynol:

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein Cwestiynau Cyffredin am LTI Turnitin.

Bydd ein tudalennau gwe a’n canllawiau cymorth yn cael eu diweddaru i adlewyrchu’r newidiadau hyn.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Gwella Dysgu ac Addysgu (eddygsu@aber.ac.uk).

Diweddariad Vevox: Mawrth 2022

Screen shot of Vevox poll using LaTex formatting to ask the question:
Determine the nature of the given matrix
2  0  0
1  2  1
0  0  1

With the following options available:

Indefinite
Positive definite
Negative definite
Positive semi-definite

Ar 21 Mawrth bydd Vevox, meddalwedd pleidleisio’r Brifysgol, yn cael ei ddiweddaru gyda rhywfaint o nodweddion ychwanegol.

Rydym yn falch iawn o allu gweld rhai o’r datblygiadau gan eu bod yn geisiadau yr ydym wedi’u gwneud i Vevox ar eich rhan.

Yn gyntaf, ar gyfer ymarferwyr dysgu o bell a’r rhai sydd am i fyfyrwyr ymgymryd â phleidleisio wrth eu pwysau, mae cwisiau wrth eich pwysau yn cael eu cyflwyno i’r offer arolwg.

Bydd angen i chi greu arolwg ac yna ychwanegu ateb cywir. Gall myfyrwyr wneud hyn yn ddienw neu gallwch ddewis eu hadnabod.

Mae’r byrddau Holi ac Ateb yn dal i gael eu tanddefnyddio rywfaint yma yn PA, ond bydd opsiwn i dagio cwestiynau a sylwadau. Bydd yn ddefnyddiol i’r rhai ohonoch sy’n cyd-gyflwyno cyflwyniad ac sydd am glustnodi cwestiynau penodol i gyflwynydd.

Mae rhagor o wybodaeth am nodweddion newydd Vevox ar gael ar eu blogbost diweddariad.

Rydym mewn cysylltiad rheolaidd â’n rheolwyr cyfrif Vevox. Maent eisoes wedi cynorthwyo i greu agweddau dwyieithog ac wedi estyn allan atom i gael trafodaeth bellach ar sut y gellid datblygu hyn ymhellach. Hefyd, dyma rai o’r ceisiadau am welliannau yr ydym wedi gofyn amdanynt:

  • Graff gwasgariad o’r cwestiwn X Y
  • Cwestiwn sy’n seiliedig ar drefn neu ddilyniant

Nodyn i atgoffa’r mathemategwyr yn ein plith fodLaTex ar gael yn eich mathau o gwestiynau.

Nid yw Vevox wedi’i gyfyngu i weithgareddau dysgu ac addysgu. Gall pob aelod o’r Brifysgol fewngofnodi a defnyddio Vevox. Os ydych chi’n cynnal cyfarfod ac eisiau gosod pôl i’r  mynychwyr, gallai Vevox fod yn ddefnyddiol i chi. Edrychwch ar eu hastudiaethau achos diweddar ar sut iwneud cyfarfodydd yn rhyngweithiol gyda Vevox.

Os yw Vevox yn newydd i chi, yna mae gennym ganllawiau arein tudalennau gwe. Mae Vevox yn cynnal sesiynau hyfforddi 15 munud –cofrestru ar-leinRydyn ni bob amser yn barod i glywed am unrhyw beth arloesol yr ydych yn ei wneud â Vevox felly cysylltwch â ni os ydych chi’n gwneud rhywbeth cyffrous.

Diweddariadau Vevox Rhagfyr 2021

Un o fanteision cael tanysgrifiad sefydliad yw y gallwn ni fanteisio ar welliannau a diweddariadau.

Un o’r gwelliannau diweddar oedd y cwestiwn arddull cwmwl geiriau. Cyn hynny, dim ond un gair y gellid ei gyflwyno i’r cwestiwn arddull cwmwl geiriau, ond nawr gall cyfranogwyr ddarparu cyflwyniadau aml-air yn ogystal â geiriau unigol. Mae cymylau geiriau hefyd yn derbyn nodau nad ydynt yn Saesneg ac emojis.

Mae Vevox hefyd wedi bod yn gweithio ar hygyrchedd y cwestiwn cwmwl geiriau ac mae’r cynllun lliw wedi cael ei ehangu i wella ei arddangosiad.

Rydym yn falch iawn o’r modd y mae cydweithwyr yn defnyddio Vevox. Os ydych chi’n chwilio am syniadau am sut y gallwch ei ddefnyddio i addysgu, gall Kate a minnau gyflwyno gweminar ar ran Vevox. Yn ogystal â rhoi trosolwg o’n cyflwyniad o Vevox ers i ni ei brynu ym mis Mawrth, gwnaethom hefyd amlinellu rhai arferion nodedig gan gydweithwyr:

  • Gwerthuso Modiwlau (Dr Emmanual Isibor a Dr Chris Loftus, Cyfrifiadureg)
  • Cynhyrchu ystadegau (Dr Maire Gorman, Ffiseg ac Ysgol y Graddedigion)
  • Cwestiwn ac Ateb anhysbys (Dr Megan Talbot, y Gyfraith a Throseddeg)
  • Asesu gan gymheiriaid a chysylltiadau geiriau (Dr Michael Toomey, Gwleidyddiaeth Ryngwladol)
  • Cwestiwn ac ateb Anghydamserol (Dr Victoria Wright, Seicoleg)
  • Pin ar luniau ac effaith sesiwn (Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu)

Diolch i’r cydweithwyr uchod am rannu eu harferion a’u profiadau â ni. Mae recordiad o’r weminar ar gael ar YouTube.

Ddydd Iau cynhelir ein Cynhadledd Fer sy’n edrych ar sut y gellir defnyddio meddalwedd pleidleisio i ddatblygu gweithgareddau dysgu ac addysgu. Mae modd archebu lle ar y gynhadledd o hyd. Rydym yn ddiolchgar y bydd Joe ac Izzy o Vevox yn ymuno â ni, yn ogystal â’n siaradwr allanol, Dr Christina Stanley o Brifysgol Caer.

Mae canllawiau Vevox ar gael ar ein tudalennau gwe. Os nad ydych wedi defnyddio Vevox o’r blaen cofrestrwch ar gyfer y sesiynau ‘Zero to Hero’ a gynhelir bob dydd Mawrth am 3yp. Byddwn hefyd yn ail-gynnal ein sesiwn hyfforddi Designing Teaching Activities using Vevox ar 16 Mawrth 2022 am 10yb. Gallwch gofrestru drwy ein tudalen Archebu Cyrsiau.

Cefnogaeth ar gyfer Dysgu Wyneb yn Wyneb

Wrth inni symud tuag at ddysgu wyneb yn wyneb eto, hoffem atgoffa’r staff nad ydynt ar eu pen eu hunain o ran ailaddasu i ddysgu wyneb yn wyneb, a allai newid eto o ran maint y grwpiau, y dulliau o ddarparu’r dysgu, cadw pellter, a masgiau. Bydd yr eitem hon ar ein blog yn trafod yr offer arferol yn yr ystafelloedd dysgu a sut i ymdrin â disgwyliadau myfyrwyr, yn ogystal â chyfeirio’r staff tuag at adnoddau perthnasol ar gyfer yr agweddau hynny.   

Offer Arferol yr Ystafelloedd Dysgu 

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth wedi datblygu canllawiau ar ddefnyddio’r offer dysgu arferol yn yr ystafelloedd dysgu canolog. Gallwch wylio rhestr o fideos sy’n arddangos yr offer yn yr ystafelloedd dysgu

Mae’n bosibl y bydd trefn fanylach o ran hylendid a phrotocolau Iechyd a Diogelwch yn dal i fod ar waith ym mis Medi, felly sicrhewch fod gennych y wybodaeth ddiweddaraf yn eu cylch, gan gynnwys systemau unffordd mewn adeiladau, amseroedd cyrraedd/gadael graddol ar gyfer staff a myfyrwyr, gorsafoedd glanhau, a chynlluniau eistedd.  

Mae arnom eisiau atgoffa’r staff hefyd o bolisi recordio darlithoedd y Brifysgol – fe allai dychwelyd at ddysgu wyneb yn wyneb olygu dychwelyd at recordio darlithoedd byw. Bydd nifer o fanteision i wneud recordiadau o ddarlithoedd wrth i ni fynd nôl i ddysgu wyneb yn wyneb. Os bydd myfyrwyr yn methu bod yn bresennol mewn darlith oherwydd salwch gallant ddal i fyny â’r gwaith yn haws. Ac os yw myfyrwyr yn gwybod bod recordiadau o ddarlithoedd ar gael, gallant osgoi dod i ganol pobl os nad ydynt yn teimlo’n hwylus. Mae’r cwbl hyn yn ein cynorthwyo â’r gwaith o warchod iechyd a lles pawb ledled y Brifysgol. Os ydych yn ansicr o gwbl, edrychwch eto ar ein rhestr o fideos ar Panopto. 

Efallai nad yw eich adran mewn ystafell ddysgu ganolog, a bod offer gwahanol i’r offer canolog arferol ar gael. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r asesiadau risg perthnasol ar gyfer eich mannau dysgu a gwiriwch sut orau i’w rhoi ar waith gyda’r person priodol yn eich adran.   

Read More

Cynllunio Amser Segur

Nid yw amser segur ar y systemau yr ydym yn dibynnu arnynt yn beth poblogaidd. Penderfynu pryd i drefnu amser segur ar gyfer Blackboard yw un o benderfyniadau mwyaf anodd y swydd. Mae jyglo’r meysydd gwaith gwahanol yn y Brifysgol yn ogystal â gwneud yn siŵr ein bod yn ymgynghori â’r holl bobl berthnasol yn cymryd llawer o amser. Rydym yn ceisio osgoi gorffen y gwaith cynnal a chadw ar ddydd Gwener – mae’n well sicrhau nad oes problemau’n codi dros y penwythnos pan nad yw’r staff cymorth yma. Yn yr un modd, nid ydym yn gwneud gwaith yn ystod cyfnodau pan fo’r Brifysgol ar gau (mae’n anodd cael cymorth gan gwmnïau meddalwedd oherwydd yn aml iawn maen nhw ar wyliau hefyd).

Rydym yn ceisio trefnu dyddiad – rydym yn gweld pa ymrwymiadau eraill sydd gan bobl, ar lefel y tîm, lefel yr adran a lefel y Brifysgol. Mae yna amseroedd y mae’n rhaid i ni eu hosgoi – ni ellir cael amser segur yn ystod amser dysgu (gan gynnwys y myfyrwyr TAR sy’n dechrau’n gynt ac yn gorffen yn hwyrach nag eraill, yn ogystal â’r rhai sy’n Ddysgwyr o Bell neu sy’n astudio Cyrsiau Dysgu Gydol Oes). Hefyd, mae unrhyw amser pan fo myfyrwyr angen adolygu neu pan fyddant angen defnyddio Blackboard ar gyfer arholiadau allan ohoni. Pan fyddwn ni’n meddwl bod gennym ddyddiad addas, rydym yn gofyn i grŵp llai o unigolion am eu barn – Rheolwyr Athrofeydd, Uwch Reolwyr, AQRO a chysylltiadau allweddol eraill. Os ydyn nhw’n dod o hyd i broblem, rhaid cychwyn o’r cychwyn.

Pan fyddwn wedi cadarnhau dyddiad, byddwn yn dechrau hysbysebu. Rydym bob amser yn rhoi neges ar faner yn Blackboard, yn defnyddio’r E-bost Wythnosol a chyfrifon Twitter a Facebook y Gwasanaethau Gwybodaeth.

Felly nid ydym yn trefnu amser segur Blackboard ar chwarae bach. Rydym yn gofyn i bobl, yn dweud wrth bobl, yn ei drefnu ac yn gwneud ein gorau i leihau ei effaith. Nid ydym bob amser yn cael pethau’n iawn i bawb, ond rydym yn gwneud ein gorau i gydbwyso holl ofynion cystadleuol sefydliad cymhlyg.