
Rydym yn falch o gyhoeddi thema’r 13eg Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol a gynhelir rhwng 8 a 10 Gorffennaf 2025.
Y thema yw: “Llwybrau Arloesol i Rymuso Dysgwyr: Addasu, Ymroi, a Ffynnu”.
Bydd y gynhadledd yn cynnwys y meysydd canlynol:
- Dylunio asesiadau y gellir eu haddasu
- Ymroddiad myfyrwyr a dysgu annibynnol
- Meithrin cymuned
- Technolegau i wella dysgu
- Dysgu ar-lein
Bob blwyddyn, rydym yn siarad â’n grŵp rhanddeiliaid ac aelodau eraill o’r Brifysgol i benderfynu ar bynciau a fydd yn ddefnyddiol i’n cydweithwyr.
Mae’r maes cyntaf, sef dylunio asesiadau y gellir eu haddasu, yn dwyn ynghyd ddarn o waith gan gydweithwyr yn y Gwasanaethau i Fyfyrwyr, sy’n amlygu dulliau hyblyg o ddylunio asesiadau, asesiadau â sawl fformat, a dylunio asesu dilys.
Mae ymroddiad myfyrwyr a meithrin dysgu annibynnol yn parhau i fod yn her allweddol i gydweithwyr. Yn y maes hwn, mae gennym ddiddordeb mewn strategaethau ar gyfer meithrin annibyniaeth wrth ddysgu, ffyrdd y gellir sgaffaldio dysgu, ac ymgorffori sgiliau ar gyfer dysgu a’r gweithle i raddedigion.
Mae ein trydydd maes, sef meithrin cymuned, yn ceisio tynnu sylw at les yn y cwricwlwm gan ystyried dulliau o weithio sydd yn fwy ystyriol o drawma, sut mae cymunedau dysgu ar-lein yn cael eu creu, a defnyddio dadansoddeg dysgu. Mae addysgeg gynhwysol yn ganolog i’r holl themâu hyn.
Yn y maes technolegau i wella dysgu, bydd gennym ddiddordeb i glywed am astudiaethau achos cadarnhaol ac am ffyrdd o ymgorffori DA yn yr ystafell ddosbarth, am ffyrdd uwch a rhagorol o ddefnyddio Blackboard Ultra, ac am arferion da mewn addysgu yn yr oes ddigidol.
Mae ein maes olaf, sef dysgu ar-lein, yn cyfeirio at waith Prosiect Dysgu Aber Ar-lein mewn partneriaeth â HEP, yn pontio dysgu ar y campws i ddysgu ar-lein, a strategaethau i ennyn diddordeb myfyrwyr mewn dysgu ar-lein.
Bydd yr Alwad am Gynigion yn agor yn fuan a chyfle i archebu eich lle ar gyfer y gynhadledd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â threfnwyr y gynhadledd ar eddysgu@aber.ac.uk.